Sunday, 20 August 2023

A yw'r Darteseg yn iaith Geltaidd?

Arysgrifiad Tarteseg o Bensafrim, De Portiwgal

Yn ôl y ddamcaniaeth draddodiadol, dechreuai Proto-Gelteg, sef y famiaith dybiedig i’r holl ieithoedd Celtaidd a ddaeth ar ei hôl, yng Nghanolbarth Ewrop, ac fe’i cysylltir â’r diwylliant Urnfield, a flodeuai oddeutu 1200 cog, ar ddiwedd Oes yr Efydd. Mae’r ddamcaniaeth hon hefyd yn cysylltu’r Celtiaid â diwylliant Hallstatt, (c. 1200–500 cog), ynghyd ag â diwylliant La Tène (c. 450 cog ymlaen), a’i dilynodd yn ystod Oes yr Haearn, gan ledu Proto-Gelteg tua’r gorllewin a’r dwyrain. Ond, yn 2010, cyhoeddwyd Celtic from the West (Koch, Celtic from the West, 2010). Yn ôl Koch, gallai Proto-Gelteg ddyddio’n ôl i Oes y Copr ac Oes yr Efydd (o oddeutu 2750 cog) ar hyd arfordir Môr yr Iwerydd (gan gynnwys Prydain, Iwerddon, Armorica ac Iberia), ymhell cyn i dystiolaeth archaeolegol o ddiwylliannau ‘Celtaidd’ ddod i’r amlwg, a’i bod hi’n gysylltiedig â’r diwylliant ‘Bell Beaker’.

Phylogeneteg

Mae’r ddamcaniaeth draddodiadol ynglŷn â sut y bu i’r Gelteg ymledu yn dibynnu, i raddau helaeth, ar astudiaethau phylogenetig sy’n ceisio dilyn hynt yr haplo-grŵp Y-DNA R-M269 (R1b1a1b), digwydd mewn canrannau uchel yn y poblogaethau modern sy’n byw yn yr ardaloedd hynny a gysylltir â’r diwylliant Celtaidd hynafol (Ffig. 1).


Gwelir fod y canrannau ar eu huchaf yn yr ardaloedd hynny lle y siaredir ieithoedd Celtaidd heddiw, ond hefyd mewn un ardal lle y siaredir Basgeg, iaith ynysedig (“language isolate”) a adweinir fel iaith gyn-Indo-Ewropeaidd. Tybed felly a allai’r is-gytrasau (“subclades”) o R1b a geir yng Ngorllewin Ewrop fod yn gynhenid i’r ardal hon? (Dengys Ffig. 2 goeden phylogenetig haplogrŵp R1b a geir ar wefan Europedia (Hay, 2023)). Mae rhai astudiaethau’n awgrymu gryf fod R1b-M269 yn gysylltiedig ag ymlediad yr amaethwyr Neolithig o’r Dwyrain Agos i Anatolia (Myres, 2011).

Ffig. 1: Dosraniad haplogrŵp Rb1 yn Ewrop (Hay, 2023)

 

Yn ôl y goeden hon, mae pob is-glad o R1b yng Ngorllewin Ewrop yn deillio o M269.

Tystiolaeth aDNA

Yn ôl Wikipedia (Wikipedia, Haplogroup R1b, 2024), mae tair astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2015, yn cadarnhau mai’r Paith Pontig-Caspaidd oedd tarddle R1b ac R1a, sef y ddau haplo-grŵp mwyaf cyffredin yn Ewrop. Yr wyf fi wedi darllen y tair astudiaeth fel lleygwr. Maen nhw’n dechnegol iawn, ond rwyf heb ddod o hyd i’r casgliadau y sonnir amdanynt yn Wikipedia.

Ffig. 2: Coeden phylogenetig haplogrŵp Rb1 yn Ewrop (Hay 2023)

Argenthonios

Brenin mytholegol Tartessos oedd Arganthonios (Wikipedia, 2024). Yn ôl yr hanesydd Groegaidd Herodotus, bu Arganthonios yn rheoli Tartessos am 80 mlynedd, a dywedir iddo fyw nes iddo fod yn 120-150 mlwydd oed. Credir i’w enw ddeillio o’r gair Proto-Gelteg *argantom (“arian”), o’r PIE *h₂erǵ- (“gwyn; disglair”).

Mytholeg

Mae traddodiad hir i’r gred i’r Gwyddelod ddod o Iberia yn wreiddiol. Ceir yr hanes ardystiedig cynharaf yn Historia Brittonum (“Hanes y Brythoniaid”) (Wikipedia, 2024), a ysgrifennwyd yng Nghymru yn y 9fed ganrif OG. Mae’n debyg i’r stori ddod o ffynhonnell Wyddelig sydd bellach ar goll. Ailadroddir yr un chwedl yn Lebor Gabála Érenn (yn llythrennol “The Book of Ireland’s Taking”; Leabhar Gabhála Éireann mewn Gwyddeleg cyfoes, a adweinir yn Saesneg fel “The Book of Invasions”) (Wikipedia, 2025).

Diffyg dystiolaeth archaeolegol yn Iwerddon

Yn ôl y ddamcaniaeth draddodiadol, Canolbarth Ewrop, ar ddiwedd Oes yr Efydd, oedd tarddiad Proto-Gelteg, a ymledai law yn llaw ag ehangu diwylliannau La Tène a Hallstatt, a’r rheiny’n gysylltiedig ag Oes yr Haearn (tua 750–50 cog). Mae hyn yn broblematig yn achos Iwerddon, lle nad oes braidd dim olion o ddiwylliant Hallstatt. Ac, er bod yno ychydig o enghreifftiau ysblennydd o ddiwylliant La Tène, mae’r rheiny’n denau ar lawr gwlad, gyda bwlch amlwg ym Mwnster, yn union lle mae’r arysgrifau ogham Gwyddelig cyntefig fwyaf cyffredin. Nid oes gan Dartessos, yn yr un modd, lawer mewn cyffredin â Hallstatt a La Tène; daeth diwylliant Tartessos i ben cyn i ddiwylliant La Tène ddechrau yn y bumed ganrif cog. Ar y llaw arall, roedd Iwerddon a Thartessos yn rhannau pwysig iawn o Sustem Oes Efydd yr Iwerydd (gw. Ffig. 2).

 

Ffig. 3:  Map o Ewrop yn ystod Oes yr Efydd, gan ddangos rhwydwaith arfordir Môr yr Iwerydd mewn coch (Wikipedia, 2023)

 


Y dystiolaeth ieithyddol

Dadleuon o blaid ystyried Tarteseg yn iaith Geltaidd

1.  Enwau pobl (Koch, The South-western (SW) Inscriptions and the Tartessos of Archaeology and History, 2013)

Yn ôl Koch, mae’r Darteseg yn meddu ar ganran uchel o nodweddion Celtaidd. Ceir enwau pobl fel y brenin Arganthonios. Ac mae Herodotus hefyd yn sôn am y Kunetes, sef trigolion yr Algarve, Portiwgal, fel ‘pobl fwyaf gorllewinol Ewrop’ a chymdogion y Keltoi (Celtiaid). Ymddengys fod eu henw nhw’n cynnwys y gair lluosog Cymraeg cŵn, felly ‘rhyfelwr’, ‘arwr’, cf. Cú Chulainn yn Wyddeleg, a cheir yr un rhagddodiad yn y gair Hen Gymraeg Cinuit o’r Kynwydyon (Cunetio, Cunetiones yn Frythoneg), sef sylfaenydd llinach brenhinol Ystrad Clud.

 

Ffig. 4:  Tartessoss c. 500 cog (Wikipedia, 2023)


2.  Iaith yr arysgrifau (Koch, The South-western (SW) Inscriptions and the Tartessos of Archaeology and History, 2013)

Mae Koch yn cydnabod fod yna anawsterau wrth geisio dehongli’r arysgrifau, ond mae amlder y ffurfiau sy’n edrych fel rhai Celtaidd mor uchel, honna mai anodd iawn cynnal y ddamcaniaeth ‘a few Celtic names in a matrix of an unknown language’ bellach. Er enghraifft, â ymlaen i dynnu sylw at y ffaith fod pump o’r cyfresi llythrennau ar yr arysgrifau yn debyg i eiriau mewn ieithoedd Celtaidd eraill sy’n golygu ‘bedd’, ‘cofeb angladdol’ neu ‘adeiladu cofeb angladdol’.

Un o’r arysgrifau hwyaf, a mwyaf darllenadwy, yn y Darteseg yw ‘Fonte Velha 5’:


lokooboo niiraboo too araiui kaaltee lokoon ane nar’kee kaaki is’iinkooloboo ii te’-e.ro-baare (be)e teasiioonii’

(“gan alw ar dduwiau Lugh (“Lleu”) llwyth y Neri, ar gyfer y pendefig y gwneir y bedd; erys ef yn ddisymud oddi mewn; gan alw ar yr holl arwyr, mae bedd Tasiioonos wedi ei dderbyn.”)

Câi’r duw, sy’n cyfateb i’r enw Gwyddeleg Lugh (sy’n cyfateb i Lleu (Llaw Gyffes) yn Gymraeg), brenin y Tuatha Dé Danann. Y gair Tarteseg cyfatebol yw lokooboo a ysgrifennir fel Lucubo yn Aliseg ac fel Lugouibus yn Geltibereg. Yng nghyfnod y Rhufeiniaid, llwyth a drigai yng Ngalisia, yng Ngogledd-orllewin Sbaen, oedd y Neri. Dengys y gair Galeg Nerios (enw ar un o’u duwiau), ynghyd â’r gair Cymraeg nêr ‘arglwydd’ neu ‘arwr’, mai enw Celtaidd sydd yma; mae araiui yn debyg i’r gair Hen Wyddeleg air ‘pennaeth’, ynghyd â’r ar yn y gair Cymraeg arglwydd. Mae Calite i’w gael ar yr arysgrifau Celtaidd hynafol o Ogledd yr Eidal, sy’n golygu, yn ôl Koch, ‘adeiladwyd cofeb angladdol’. Yn yr un modd, ‘bedd’ yw ystyr y gair Galeg logan; yr un yw ei wraidd â’r gair Hen Wyddeleg laigid a’r gair Gaeleg (yr Alban) laigh (“gorwedd”), (Tybed a oes cysylltiad â’r gair Llydaweg lakaat (“gosod”)?), y mae sawl enghraifft ohono ar yr arysgrifau Tartesaidd: lakaatii (“gorwedda”), lakeentii a lakiintii (“gorweddant”), a ro.lakaa (“gorweddais”). O ran kaaki cf. y gair Gwyddeleg cách a Gaeleg yr Alban gach (“pob”); o ran is’iinkooloboo, cf. y gair Galeg Exkingolatos (“arwr”). Mae Koch yn dadlau fod y ferf gyfansawdd te’-e.ro-baare ‘[mae’r bedd hwn] wedi ei dderbyn’ yn fformwla reolaidd; mae’n cyfateb i’r ferf Wyddeleg beir ‘cludo’ a’r ferf Aeleg (yr Alban) beir (“rhoi genedigaeth i”). Un o nodweddion Celtaidd mwyaf trawiadol y Darteseg yw’r geiryn rhagferfol ro, sy’n gweithredu yn union fel ro mewn Hen Wyddeleg, ac sydd hefyd yn golygu ‘wedi derbyn’. Yn achos teasiioonii, cf. enw’r brenin Brythonig cyn-Rufeinig Tasciovanos, y mae’r elfen gyntaf ohono yn cyfateb i’r enw Gwyddelig gwrywaidd cyffredin Tadhg.

3.  Cyfeiriadau at arferion Celtaidd (Koch, The South-western (SW) Inscriptions and the Tartessos of Archaeology and History, 2013)

Yn ogystal ag enwau Celtaidd, ceir yn y corpws amrywiadau ar fformiwlâu angladdol Celtaidd:


[enwau’r person sydd wedi marw] +uar(n)baan + tee(e)·ro-baare + (baa-)naŕkeentii 

a ddehonglir gan Koch fel: 

uaraman de·ro-bāre (ma) naŕkenti

‘[this grave/death] has carried (the named person[s]) away to the highest destination; so they now rest [here].’ 

Cf. barddoniaeth Aneirin yn y chweched ganrif og:


namyn y Đuυ vchaf  ny-s dioferaf

‘except to the highest (vchaf < *u(p)samo-) God, I will not relinquish (< *dē-u(p)o-ber- “carry away”) him [my patron]’. 

Rhai dadleuon yn erbyn ystyried Tarteseg yn iaith Geltaidd

Ar y cyfan, dadleuon negyddol yw’r rhai a ddefnyddir yn erbyn dosbarthu’r Darteseg fel iaith Geltaidd. Mae a wnelo’r rhan fwyaf ohonynt â chwestiynu dehongliadau Koch a Correa. Y gwir yw, er bod y stelae ac arnynt arysgrifau mor niferus, oherwydd y pwnc a drafodir, maen nhw’n fyr eu hyd ac yn ailadroddus, sy’n golygu fod y corpws sydd gennym yn un bychan iawn. 

Mae’r dadleuon a gynigir yma’n seiliedig i raddau helaeth ar bapur a ysgrifennwyd gan Blanca María Prósper (Prósper, 2014).

1. Amheuon Celtegolegwyr ac arbenigwyr ar astudiaethau Palaeohispanaidd

Ymddengys fod academyddion sy’n arbenigo mewn astudiaethau Palaeohispanaidd, fel J.A. Correa, oedd yn arfer credu fod y corpws Tarteseg wedi ei ysgrifennu mewn iaith Geltaidd, bellach yn credu nad yw’n iaith Indo-Ewropeaidd er ei bod hi’n cynnwys cyfran helaeth iawn o eiriau Indo-Ewropeg, yn enwedig rhai Celteg (Correa, 2011). Cyhudda Blanca María Prósper Koch o anwybyddu’r datblygiadau ym maes astudiaethau Celteg Cyfandirol ers y 1990au, ynghyd â’u harwyddocâd i’r arysgrifau Tarteseg (Prósper, 2014).

2. Dehongli’r arysgrifau

Er gwaethaf yr holl enwau sy’n edrych yn debyg iawn i rai Celtaidd, ynghyd â’r cystrawennau Celtaidd, o bosib, a gynigir gan Koch (Koch, The South-western (SW) Inscriptions and the Tartessos of Archaeology and History, 2013), mae Prósper, ymhlith eraill, yn gofyn ai iaith Geltaidd sydd ar yr arysgrifau a adweinir heddiw fel rhai Tarteseg (Prósper, 2014). Mae hi’n tynnu sylw at y ffaith fod yr arysgrifau mewn scriptia continua sy’n ei gwneud hi’n anodd eu rhannu’n eiriau unigol. A chan fod yr arysgrifau’n seiliedig ar wyddor Ffeniciaidd nad yw pob sumbol ynddi hi wedi ei ddehongli eto, anodd gwahaniaethu rhwng seiniau lleisiol a rhai di-lais.

3. Lwsitaneg

Er nad yw Koch ei hunan yn honni mai iaith Geltaidd yw Lwsitaneg (gw. Ffig. 4), mae Prósper yn dadlau fod damcaniaeth Koch yn dibynnu ar ddangos fod Lwsitaneg yn iaith Geltaidd, er mwyn dangos continwwm ieithyddol o fewn Iberia (Prósper, 2014). Mae hi’n cymharu’r contiwwm honedig hwn â’r sefyllfa yn yr Eidal lle roedd llawer o amrywiaeth ieithyddol. 

Ac ystyried safle orllewinol Lwsitania, rhaid cyfaddef y byddai hi’n ategu’n sylweddol at ddamcaniaeth ‘Celtic from the West’ petai modd dangos fod yr iaith honno’n un Geltaidd. Ond beth am Aquitaneg ac iaith y Vascones, sydd, yn ôl pob tebyg, yn famiaith i Fasgeg cyfoes―ieithoedd y mae’n anodd iawn dadlau mai rhai Celtaidd ydynt―hefyd yn cael eu siarad yn ardal Sustem Oes Efydd yr Iwerydd?

Ffig. 4:  Ieithoedd paleohispanaidd (Wikipedia, 2023)



4. Newidiau sain

Er ei bod hi’n tynnu sylw at y ffaith nad yw rhai o’r sumbolau a geir ar yr arysgrifau Tarteseg wedi eu dehongli eto, mae Prósper yn dadlau nad yw rhai o’r newidiadau llafarog a welir mewn ieithoedd Celtaidd eraill i’w cael yn y Darteseg (Prósper, 2014). Er enghraifft, honna na roir esboniad gan Koch am sut y gall yr a yn lakeenti ddod o’r gair PIE *legh-, a hynny er i Koch dynnu sylw at y tebygrwydd â’r gair Hen Wyddeleg laigid, sydd yntau’n dod o’r PIE *legh- (“gorwedd”) trwy’r gair Proto-Gelteg *legeti. 

Casgliadau

I mi, fel lleygwr, mae dadleuon Koch o blaid o leiaf ystyried y posibilrwydd y gallai Tarteseg fod yn iaith Geltaidd, yn gryf iawn (Koch, On the Debate over the Classification of the Language of the South-Western (SW) Inscriptions, also known as Tartessian, 2014). Ymddengys fod y safbwyntiau mwyaf sgeptig yn dibynnu ar ar gyd-ddigwyddiad wrth geisio esbonio deunydd sy’n edrych yn debyg iawn, iawn i ieithoedd Celtaidd eraill, ac, mewn rhai achosion, cyfunir dau syniad sydd fel petaent yn gwrthddweud ei gilydd:


1. nid yw’r sgript Darteseg wedi ei dadgodio’n ddigonol i benderfynu i ba ieithoedd eraill y mae’n perthyn, ond;

2. gellir, er hynny, gwrthod y syniad ei bod hi’n iaith Indo-Ewropeaidd, ac, yn bendant, nid yw’n iaith Geltaidd. 

Y gwir yw fod y corpws Tarteseg yn rhy fychan ar hyn o bryd i ddarparu atebion diffiniadol ynglŷn â’i tharddiad. 

Ond, hyd yn oed os nad iaith Celtaidd yw’r Darteseg ei hunan, mae’r ffaith y ceir ar yr arysgrifau a gydnabyddir fel rhai Tarteseg, gynifer o eiriau a syniadau Celtaidd, fod y ddamcaniaeth sylfaenol sydd tu ôl i ‘Celtic from the West’, sef i’r Gelteg ddatblygu fel lingua franca ar hyd arfordir Môr yr Iwerydd Gorllewin Ewrop yn ystod Oes yr Efydd, ddal yn bosibilrwydd. 

Phylip Brake

2025

Crynodeb

1.   Yn ôl y ddamcaniaeth draddodiadol, dechreuai Proto-Gelteg, sef y famiaith dybiedig i’r holl ieithoedd Celtaidd a ddaeth, yng Nghanolbarth Ewrop.

2.    Mae’r ddamcaniaeth draddodiadol ynglŷn â sut y bu i Broto-Indo-Ewropeg, ac felly Celteg, ymledu, yn mynd law yn llaw ag ymlediad honedig R1b-M269 o’r Paith Pontig-Caspaidd. Ond mae lle i gredu mai Ewrop ei hunan oedd tarddle yr is-glad arnbennig hwnnw.

3.    Enw Celtaidd sydd ar enw brenin mytholegol Tartessos, sef Arganthonio.

4.    Mae traddodiad hir i’r gred i’r Gwyddelod ddod o Iberia yn wreiddiol.

5.    Does braidd dim olion o’r diwylliant Hallstadt yn Iwerddon, sy’n broblematig i’r ddamcaniaeth wreiddiol i’r Celtiaid gyrraedd Prydain ac Iwerddon mewn tonnau yn ystod Oes yr Haearn.

6.    Ar y llaw arall, roedd Iwerddon a Thartessos yn rhannau pwysig iawn o Sustem Oes Efydd yr Iwerydd.

7.    Mae’r arysgrifau Tarteseg sydd wedi eu dadansoddi’n cynnwys canran uchel o nodweddion Celtaidd.

8.    Dadleuir nad yw’r sgript Darteseg wedi ei dadgodio’n ddigonol i benderfynu i ba ieithoedd eraill y mae’n perthyn, ac eto gwrthodir unrhyw syniad ei bod hi’n iaith Indo-Ewropeaidd, a mynnir nad yw rhai o’r newidiadau llafarog a welir mewn ieithoedd Celtaidd eraill i’w cael yn y Darteseg.

9.    Oherwydd natur arbenigol yr arysgrifau, mae’r corpws yn fach iawn, efallai yn rhy fach i ddarparu atebion diffiniadol ar hyn o bryd.

10. Hyd yn oed os nad yw’r Darteseg yn iaith Geltaidd ei hunan, mae’r ffaith y ceir ar yr arysgrifau a gydnabyddir fel rhai Tarteseg, gynifer o eiriau a syniadau Celtaidd, fod y ddamcaniaeth i’r Gelteg datblygu fel lingua franca ar hyd arfordir Môr yr Iwerydd Gorllewin Ewrop yn ystod Oes yr Efydd yn dal yn bosibilrwydd.


Gellir lawrlwytho'r PDF yma.

Cyfeirnodau

Correa, J. (2011). La leyenda indígena de las monedas de Salacia y el grafto de Abul. Lucius Cornelius Bocchus: Escritor Lusitano da Idade de Prata da Literatura Latina, 103-12.

Hay, M. (2023, 7). Haplogroup R1b (Y-DNA). Adferwyd 1 10, 2024 o Eupedia: https://www.eupedia.com/europe/Haplogroup_R1b_Y-DNA.shtml

Koch, J. (2010). Celtic from the West. Oxbow Books.

Koch, J. (2013, Awst 17). The South-western (SW) Inscriptions and the Tartessos of Archaeology and History. Huelva, 541-558. Adferwyd o Acedemia: https://www.academia.edu/4029717/The_South_western_SW_Inscriptions_and_the_Tartessos_of_Archaeology_and_History

Koch, J. (2014). On the Debate over the Classification of the Language of the South-Western (SW) Inscriptions, also known as Tartessian. Journal of Indo-European Studies, 335–427.

Prósper, B. M. (2014, Awst 17). Some observations on the classification of Tartessian as a Celtic language. The Journal of Indo-European Studies, 468-486. Adferwyd o Academia: https://www.academia.edu/7649315/Some_observations_on_the_classification_of_Tartessian_as_a_Celtic_language

Wikipedia. (2023, Mehefin 23). Celts. Adferwyd o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Celts

Wikipedia. (2023, Awst 17). Tartessos. Adferwyd o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Tarterros

Wikipedia. (2024, 10 29). Argenthonios. Adferwyd 1 11, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Arganthonios

Wikipedia. (2024, 12 7). Haplogroup R1b. Adferwyd 1 14, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Haplogroup_R1b

Wikipedia. (2024, 10 25). Historia Brittonum. Adferwyd 1 11, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Historia_Brittonum

Wikipedia. (2025, 1 8). Lebor Gabála Érenn. Adferwyd 1 11, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Lebor_Gab%C3%A1la_%C3%89renn

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.