Thursday, 23 January 2025

Gwreiddiau Ewropeaidd

 


Mae Celtyddion fel John Koch, cyd-olygydd y gyfrol enwog Celtic from the West, (Koch J. , Celtic from the West, 2013), yn troi fwyfwy at feysydd geneteg ac archaeoleg i geisio creu damcaniaeth integredig ynghylch tarddiad yr ieithoedd Indo-Ewropaidd gorllewinol (Koch J. , Celto-Germanic Later Prehistory, 2020). Hyd yn gymharol ddiweddar, roedd unrhyw astudiaethau genetig yn seiliedig ar geneteg poblogaethau cyfoes (Hay M. , Yamna Culture, 2017). Ond mae darganfyddiadau diweddar ym maes DNA hynafol wedi taflu goleuni newydd ar yr ymfudo dynol i Ewrop, a’r gobaith yn y pen draw, yw y bydd hefyd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’i hanes ieithyddol.

Yr helwyr-casglwyr

Haplo-grŵp Y-DNA I yw’r haplo-grŵp mawr hynaf yn Ewrop. Amcangyfrifir i’r haplo-grŵp IJ gyrraedd Ewrop o’r Dwyrain Canol ryw 35,000 o flynyddoedd yn ôl, ac wedyn, iddo ddatblygu’n haplo-grŵp I yn fuan wedyn (Hay M. , Haplogroup I1 (Y-DNA), 2024). 

Ffig. 1: Dosraniad haplo-grŵp I1 yn Ewrop


Roedd hyn yn ystod y Cyfnod Palaeolithig a ddilynwyd gan y Cyfnod Mesolithig a barhâi o oddeutu 13000 cog hyd at 4500 cog yng Ngogledd-orllewin Ewrop. Helwyr-casglwyr oedd y bobl hyn (Wikipedia, 2024‎ ).

Gellir lawrlwytho'r papur llawn yma.

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.