Monday, 3 February 2025

Y gwahaniaeth rhwng 'er' ac 'ers'

 

ER

Mewn Cymraeg Cyfoes, mae’r arddodiaid er yn meddu ar tair prif ystyr:

1. oherwydd, er mwyn;

2. er gwaethaf; ac

3. oddi ar.

Er enghraifft:

 1. “Er cofio am arwres arall.”[i]

2. “….er imi ddeud fy mod i’n ri chasáu hi.”[ii]

3. “….er cyfnod Hen Gymraeg.”[iii]

ERS

Mae ers, sy’n dalfyriad o er + ys, yn golygu oddi ar yn unig.

ER vs ERS

Yn yr arddulliau ffurfiol, mae er yn cyfeirio at bwynt penodol yn y gorffennol. Gall y pwynt hwnnw gael ei gyfleu gan enw pendant neu gan ddyddiad. Mae ers ar y llaw arall, yn cyfeirio at gyfnod heb iddo ffiniau amseryddol pendant, neu ynteu nas diffinnir mor fanwl, e.e.

ER: “....sydd wedi wynebu toriadau blynyddol ER y flwyddyn 2011.”[iv]

ERS: “....ar ôl glaw y Mis Medi gwlypaf ERS blynyddoedd.”[v]

O ran defnyddio naill ai er neu ers gyda ddoe, mewn chwiliad sydyn yn yr Internet Archive, deuthum o hyd i 60 enghraifft o ers ddoe o’u cymharu â 23 enghraifft o er ddoe.

(Am drafodaeth fwy manwl, gw. Gramadeg y Gymraeg (1996) (§ 5.36, t. 369))



[i] Pigion y Talwrn (2012)

[ii] Tri Diwrnod ac Angladd gan John Gwilym Jones (1979)

[iii] Cyflwyniad i Astudio’r Iaith Gymraeg’ gan D. Thorne (1985)

[iv] Ysgrifau Beirniadol XXX1V (2016)

[v] Tri Diwrnod ac Angladd gan John Gwilym Jones (1979)


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.