Sunday, 9 February 2025

Astudiaeth geneteg newydd a all daflu goleuni ar darddiad ieithoedd Indo-Ewropeaidd

 

Byrfoddau
CP: Cyn y presennol
DAG: Y diwylliant Amffora Gron (“Globular Amphora Culture”)
DBG: Y diwylliant Bicer Gloch (“Bell Beaker Culture”)
DNC: Y diwylliant Nwyddau Cnotiog (“Corded Ware Culture”)
GC: Groeg Clasurol
GD: Groeg Diweddar
Myc.: Mycenaeeg
PA: Proto-Armeneg
PIE: Proto-Indo-Ewropeg
Y-DNA: Y deunydd genetig a geir ar y cromosom Y, sy’n cael ei drosglwyddo o’r tad i’r mab

Cyfwyniad
Derbynnir yn gyffredinol i ymlediad Indo-Ewropeg ar draws Ewrop o’r pumed mileniwm cp, gyfateb i ehangu a gwahanu achau Y-DNA sy’n gysylltiedig â’r Paith Pontig o ddechrau Oes yr Efydd. Fodd bynnag, canfuwyd gwahanol boblogaethau o achau paith yn Ewrop yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae’n aneglur sut y bu i’w hiaith/ieithoedd droi’n Italeg, Celteg, Groeg ac Armeneg. Dengys Ffig. 1 batrymau mudo tebygol Y-DNA haplo-grŵp R1b o’r Palaeolithig hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (c. 3,000 cp) (Hay, 2009).

O oddeutu 5,000 cp, gwelwyd mudo dynol ar raddfa fawr iawn a gafodd effaith sylweddol ar gyfansoddiad genetig poblogaethau ar draws Ewrasia. Bu i fugeilwyr symudol o ddiwylliant yr Yamnaya ymledu mewn tonnau yn ystod Oes yr Efydd, gan adael ôl diwylliannol a genetig amlwg ar eu hôl. Mae’n debyg i’r ymfudo hwn hefyd chwarae rhan allweddol yn yn y broses o ledaenu’r teulu iaith Indo-Ewropeg. Bu iddynt gyrraedd rhanbarthau Gorllewin Ewrasia drwy fecanweithiau gwahanol ac ar adegau gwahanol. Weithiau, cysylltir y mudo hwn â diwylliannau archaeolegol fel y diwylliant Nwyddau Cnotiog (5,000–4,350 cp) (Wikipedia, 2025) a’r diwylliant Bicer Gloch (4,800–4,300/3,800 cp) (Wicipedia, 2017). Fodd bynnag, mae llai o ddealltwriaeth o’r hyn a ddigwyddodd yn nwyrain ardal Môr y Canoldir a Gorllewin Asia cyfagos. Ar ben hynny, er bod achau paith wedi eu canfod oddi mewn i unigolion cynhanesyddol o Iberia, yr Eidal, Gwlad Groeg a’r Cawcasws, erys cwestiynau ynghylch y sefyllfa yn ardal Môr y Canoldir.

Ffig. 1:  Map sy’n dangos mudo tebygol Y-DNA haplo-grŵp R1b o’r Palaeolithig hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (c. 3000 cp) (Hay, 2009).

Tybir fod lledaenu achau paith fod yn gysylltiedig yn agos â rhannu Proto-Indo-Ewropeg yn grwpiau iaith a adnabyddir heddiw. Dengys Ffig. 2 y diwylliannau sydd wedi eu hadnabod yng Ngorllewin Ewrasia a Gorllewin Asia yn ystod yr Oes Gopr gynnar (4,500-4,000 CP).

Ffig. 2:  Map o’r diwylliannau a adnabuwyd yng Ngorllewin Ewrasia a Gorllewin Asia yn ystod yr Oes Efydd gynnar, ynghyd â’u cysylltiad posib â haplo-grwpiau Y-DNA (Hay, 2009).

Yr Astudiaeth ei hunan

Er mwyn ymchwilio i hanes achau grwpiau Indo-Ewropeg yn Ne Ewrop, cynhaliwyd astudiaeth o genomau o 314 o unigolion hynafol o ardal Môr y Canoldir a’r rhanbarthau cyfagos, yn rhychwantu cyfnod o 5,200 cp hyd 2,100 cp, yn ogystal â chynnal dadansoddiadau isotop strontiwm ar 224 o’r unigolion hyn (Yedliay, 2024).

Gwyddys i achau paith gyrraedd Ewrop yng nghwmni achau amaethu sy’n gysylltiedig â’r Diwylliant Amffora Gron (Wikipedia, 2024). Mae’r achau amaethu hyn yn bresennol yn achau DNC, ond maen nhw’n absennol yng Ngwlad Groeg. Felly, dyma raniad clir mewn achau paith rhwng ardaloedd gorllewinol Môr y Canoldir a’r rhai dwyreiniol.

Drwy gyflwyno trydedd ffynhonnell sy’n gysylltiedig â’r paith o’r clwstwr DBG, mae De-orllewin Ewrop yn dangos achau sy’n gysylltiedig â DBG, tra bo rhai Gwlad Groeg yn gysylltiedig â’r Yamnaya, yn enwedig yn y Peloponnesos (Ffig. 3).

Ffig. 3:  Dosbarthiad cyfrannau achau sy'n deillio o DBG ac Yamnaya (Yedliay, 2024).



Dehonglwyd hyn fel tystiolaeth glir o ymfudo uniongyrchol o’r Yamnaya i’r Peloponnesos. Er enghraifft, canfuwyd achau haplo-grŵp Y-DNA R1b-Z2103—sy’n nodweddiadol Yamnaya—mewn unigolion o fynwent Mycenaeaidd yn Ayios Vasileios. 

Cyn iddi hi gael ei Lladineiddio, ceid clytwaith o ieithoedd yn yr Eidal, gan gynnwys grwpiau Indo-Ewropeaidd a rhai an-Indo-Ewropeaidd. Ceir y dystiolaeth ardystiedig hynaf o’r Italeg gyntaf mewn arysgrifau Hen Ladin ac Wmbreg o oddeutu 2,650 cp. Arweiniodd y sefyllfa hon at ddwy ddamcaniaeth wahanol ynglŷn â tharddiad yr Italeg:

1.    Yr hypothesis Italo-Gelteg

2.    Yr hypothesis Italo-Germaneg

Fodd bynnag, mae achau paith yr unigolion o’r Eidal sy’n rhan o’r astudiaeth, yn perthyn i DBG yn hytrach na Yamnaya (Yedliay, 2024). Mae hyn yn debyg i boblogaethau Celtaidd hanesyddol yng Ngorllewin Ewrop, ac mae’n gyson â’r hypothesis Italo-Gelteg.

Canfuwyd achau paith mewn unigolion o Ogledd Gwlad Groeg mor gynnar â ~4,200 cp, a dengys yr astudiaeth fod yr achau paith hyn yn tarddu’n uniongyrchol o boblogaethau sy’n gysylltiedig â Yamnaya, a’u bod nhw’n wahanol i boblogaethau DNC a chanddynt achau Yamnaya ac achau amaethwyr (Yedliay, 2024).

Mae ymddangosiad achau paith yng Ngwlad Groeg felly yn rhagddyddio’r sgript Linear B, sef y dystiolaeth uniongyrchol hynaf o’r iaith Roeg. A gall yr eirfa an-Indo-Ewropeaidd a geir yn y Roeg, fod yn ganlyniad i gyfnewidiadau llafar â phoblogaethau brodorol a chanddynt eirfa dechnegol arbenigol.

Mae achau paith o’r Oes Efydd ganol wedi eu canfod yn Ne’r Cawcasws hefyd, gan gyd-fynd â’r newid o’r diwylliant Kura-Araxes (Wikipedia, 2024) i’r diwylliant Trialeti (Wikipedia, 2025) erbyn diwedd y 5ed mileniwm cp. Mae hyn hefyd yn cefnogi’r hypothesis Graeco-Armeneg, ac yn awgrymu i Broto-Armeneg gyrraedd y Cawcasws erbyn diwedd y 5ed mileniwm cp.

Cafodd poblogaethau DBG effaith enetig a diwylliannol amlwg yn Iberia, tra bo’r sefyllfa yn yr Eidal yn fwy cymhleth. Mae Gwlad Groeg yn datgelu darlun gwahanol. Cyflwynwyd cyfran paith amlwg i’r tir mawr a’r Peloponneson oddeutu 3,800 cp, gan ddod yn gyffredin mewn safleoedd claddu dros y canrifoedd i ddod. Yn nhreigl amser, aeth y signal paith gwreiddiol yn wannach oherwydd y cymysgedd rhwng poblogaethau lleol ac achau amaethwyr.

Ar sail canlyniadau’r astudiaeth newydd (Yedliay, 2024), cynigir coeden achau adolygedig ar gyfer yr ieithoedd Indo-Ewropeg (Maclean, 2025). (gw. Ffig. 4).

Mae cymaint o debygrwydd rhwng yr Italeg a’r Gelteg, rwy’n syn i glywed fod yr hypothesis Italo-Gelteg yn dal i gael ei amau erbyn. Ymhellach, gyda’r holl dystiolaeth ieithyddol, genetig ac archaeolegol sydd wedi ei chyflwyno hyd yn hyn, rwy’n syn nad yw’r ddamcaniaeth sy’n honni fod y Gelteg yn ganlyniad i Italo-Gelteg—a elwir weithiau’n PIE Gorllewinol—yn crisialu’n ar hyd arfordir Môr yr Iwerydd yn ystod Oes yr Efydd (Koch, Celtic from the West, 2010) a (Koch, Indo-European from the east and Celtic from the west: Reconciling models for languages in later history, 2014) wedi ei derbyn yn gyffredinol eto.

Ffig. 4:  Coeden achau’r Indo-Ewropeg bosib yn dilyn yr astudiaeth newydd. 

Ystyriaethau ieithyddol

O ran y cysylltiad rhwng y Roeg a’r Armeneg, ar yr wyneb, rhaid cyfaddef nad oes llawer o debygrwydd rhwng y ddwy iaith hyn. O ran y rhifolion 1-10, mae’r Roeg yn ymdebygu i’r ieithoedd Italo-Geltaidd. Dengys Tabl 1 y rhifolion 1-10 mewn PIE a hefyd mewn chwe iaith gyfoes sy’n cynrychioli gwahanol grwpiau o’r teulu ieithoedd Indo-Ewropeg.

Tabl 1:  Y Rhifolion 1-10 mewn chwe iaith sy’n cynrychioli gwahanol grwpiau o’r teulu ieithoedd Indo-Ewropeg.

 

 

Italeg

Celteg (P)

Heleneg

Germaneg

Balto-Slafoneg

Armeneg

Rhifol

PIE

Eidaleg

Cymraeg

Groeg

Almaeneg

Latfïeg

Armeneg

1

*Hoi-no

uno (m.)

un

éna (n.)

einz

viens (g.)

mek

2

*d(u)wo-

due

dau

dýo

zwei

divi (g.)

yerku

3

*trei- / *tri-

tre

tri

tría (n.)

drei

trīs (g.)

yerek

4

*kʷetwor- 

quattro

pedwar

téssara (n.)

vier

četri (g.)

chors

5

*penkʷe

cinque

pump

pénte

fünf

pieci (g.)

hing

6

*s(w)eḱs

sei

chwech

éxi

sechs

seši (g.)

vets

7

*septm̥

sette

saith

eptá

sieben

septin̹i (g.)

jot

8

*oḱtō

otto

wyth

oktṓ

acht

aston̹i (g.)

ut

9

*(h₁)newn̥

nove

naw

enniá

neun

devin̹i (g.)

inne

10

*deḱm̥(t)

dieci

deg

déka

sehn

desmit

tas

Mae’r rhifolion Armeneg Diweddar yn edrych yn wahanol iawn i’r rhai’r ieithoedd eraill. Fodd bynnag, Mycenaeeg yw’r ffurf ardystiedig hynaf ar yr iaith Roeg (Wikipedia, 2024). Er eu bod nhw wedi eu hail-greu, mae’r rhifolion Mycenaeeg, ar y cyfan, n edrych yn debyg iawn i’w cymheiriaid Proto-Armeneg, ac mae’n ddiddorol nodi fod y gair Proto-Armeneg a’r gair Groeg Diweddar am ‘pedwar’ ill dau’n dechrau â /t/: *tʿer (PA); téssara (GD).

Tabl 2:    Y Rhifolion 1-10 mewn Proto-Armeneg a Mycenaeeg.

Rhifol

PA

Myc.

1

*mi

*hemi

2

*erku

*dwo

3

*erekʿ

*tri

4

*tʿer

*quetro

5

*hing

*pente

6

*vecʿ

*wex

7

*ewtʿ

*hepta

8

*okʿ

*okto

9

*inis

*ennewo

10

*tas

*deka

Mae geiriau yn y Roeg ac yn yr Armeneg y cydnabyddir eu bod yn deillio o Broto-Indo-Ewropeg. Dyma rai ohonynt:

Groeg Clasurol:[1]

·         πατήρ (patēr) (“tad”), o’r PIE *pǝtḗr

·         μήτηρ (mētēr) (“mam”), o’r PIE *mǝtḗr

·         ἀδελφός (adelphos) (“brawd”), o’r PIE *bʰréh₂tēr

·         θυγάτηρ (thugatēr) (“merch”), o’r PIE *dʰugh₂tḗr

·         ἀστήρ (astēr) (“seren”), o’r PIE *h₂stḗr

·         κύνες (kynes) (“cŵn”), o’r PIE *ḱʷṓn

·         γυνή (gynē) (“benyw”), o’r PIE *gʷḗn

·         ἵππος (hippos) (“ceffyl”), o’r PIE *h₁éḱwos

·         ὕδωρ (hydōr) (“dŵr”), o’r PIE *wódr̥

·         φύλλον (phyllon) (“deilen”), o’r PIE *bʰolyo-

·         θύρα (thyra) (“drws”), o’r PIE *dʰwer-

 

Armeneg Clasurol:[2]

·         հայր (hayr) (“tad”), o’r PIE *pǝtḗr

·         մայր (mayr) (“mam”), o’r PIE *mǝtḗr

·         եղբայր (ełbayr) (“brawd”), o’r PIE *bʰréh₂tēr

·         դուստր (dustr) (“merch”), o’r PIE *dʰugh₂tḗr

·         աստղ (astġ) (“seren”), o’r PIE *h₂stḗr

·         շուն (šun) (“cŵn”), o’r PIE *ḱʷṓn

·         կին (kin) (“benyw”), o’r PIE *gʷḗn

·         ձի (dzi) (“ceffyl”), o’r PIE *h₁éḱwos

·         ջուր (ǰur) (“dŵr”), o’r PIE *wódr̥

·         թուղթ (tʿuxtʿ) (“deilen”), o’r PIE *bʰolyo-

·         դուռ (durr) (“drws”), o’r PIE *dʰwer-

Casgliadau

Dengys yr astudiaeth i achau paith gyrraedd Iberia, Ffrainc ar Eidal drwy boblogaethau DBG o Orllewin Ewrop, gan gyfrannu at darddiad yr Italeg a’r Gelteg. Ond cafodd poblogaethau Armenia a Gwlad Groeg eu hachau paith yn uniongyrchol oddi wrth grwpiau Yamnaya o Ddwyrain Ewrop. Mae’r canlyniadau hyn yn gyson â’r damcaniaethau ieithyddol Italo-Celteg a Graeco-Armeneg sy’n ceisio rhoi cyfrif am darddiad y rhan fwyaf o ieithoedd Indo-Ewropeaidd yn ardal Môr y Canoldir yn ystod y cyfnod clasurol.

Cyfeirnodau

Fehér, T. (2021, 1 1). Celtic and Italic from the West - The Genetic Evidence. Adferwyd 2 8, 2025 o ACADEMIA | Letters: https://doi.org/10.20935/AL1782

Hay, M. (2009). Genetics. Adferwyd o Eupedia: https://www.eupedia.com/europe/neolithic_europe_map.shtml

Koch, J. (2010). Celtic from the West. Rhydychen: Oxbow Books.

Koch, J. (2014, 9 4). Indo-European from the east and Celtic from the west: Reconciling models for languages in later history. Celto-Slavica 7. Bangor.

Maclean, K. (2025, 1 31). The Greek/European Genetic and Linguistic Divide. Adferwyd 2 5, 2025 o YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=zzh_5fOKVxs&list=LL&index=14

Wicipedia. (2017, 3 13). Diwylliant Bicer Gloch. Adferwyd 2 7, 2025 o Wicipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Diwylliant_Bicer_Gloch

Wikipedia. (2024, 10 21). Globular Amphora culture. Adferwyd 2 7, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Globular_Amphora_culture

Wikipedia. (2024, 12 16). Kura–Araxes culture. Adferwyd 2 7, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Kura%E2%80%93Araxes_culture

Wikipedia. (2024, 12 16). Mycenaean Greek. Adferwyd 2 7, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Mycenaean_Greek

Wikipedia. (2025, 1 10). Corded Ware Culture. Adferwyd 2 7, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Corded_Ware_culture

Wikipedia. (2025, 1 10). Trialeti culture. Adferwyd 2 7, 2025 o Wikipedoia: https://en.wikipedia.org/wiki/Trialeti_culture

Yedliay, F. E. (2024). Ancient genomics support deep divergence between Eastern and Western Mediterranean Indo-European languages. bioRxiv, 2024-12.


Gellir lawrlwytho copi PDF or papur hwn yma.

 


[1]      500-400 cog

[2]     600-1300 og






No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.