Saturday, 22 February 2025

Indo-Ewropeg o'r dwyrain a Chelteg o'r gorllewin

 

Mae Celtyddion fel John Koch ac archaeolegwyr fel Barry Cunliffe, cyd-olygyddion y gyfrol enwog Celtic from the West (Cunliffe & Koch, 2010), ynghyd ag ieithyddion Indo-Ewropeg eraill, yn awgrymu i Gelteg ddatblygu ar hyd arfordir Môr yr Iwerydd yn ystod Oes yr Efydd. Ond cydnabyddir i Broto-Indo-Ewropeg (PIE) gyrraedd Gorllewin Ewrop o’r dwyrain, o’r Paith Pontig-Caspaidd (Hay, Yamna Culture, 2017). Sut felly y gellir sgwario’r ddwy ddamcaniaeth hyn sydd fel petaent yn gwrthddweud ei gilydd? Mae darganfyddiadau diweddar ym maes DNA hynafol wedi taflu goleuni newydd ar yr ymfudo dynol i Ewrop, a’r gobaith yn y pen draw, yw y bydd hefyd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’i hanes ieithyddol.

O oddeutu 5000 CP, gwelwyd mudo dynol ar raddfa fawr iawn a gafodd effaith sylweddol ar gyfansoddiad genetig poblogaethau ar draws Ewrasia (Wikipedia, 2025). Bu i fugeilwyr symudol o ddiwylliant yr Yamnaya ar y Paith Pontig-Caspaidd, ymledu mewn tonnau yn ystod Oes yr Efydd, gan adael ôl diwylliannol a genetig amlwg ar eu hôl. Mae’n debyg i’r ymfudo hwn hefyd chwarae rhan allweddol yn yn y broses o ledaenu’r teulu iaith Indo-Ewropeaidd. Bu iddynt gyrraedd rhanbarthau gorllewin Ewrasia drwy fecanweithiau gwahanol ac ar adegau gwahanol. Weithiau, cysylltir y mudo hwn â diwylliannau archaeolegol fel y diwylliant Nwyddau Cnotiog (5000–4350 cp) (Wikipedia, 2025) a’r diwylliant Bicer Gloch (4800–4300/3800 cp) (Wicipedia, 2017). Dengys Ffig. 1 fudo tebygol Y-DNA haplo-grŵp R1b o’r Palaeolithig hyd at ddiwedd Oes yr Efydd.

Ffig. 1:  Map sy’n dangos mudo tebygol Y-DNA haplo-grŵp R1b o’r Palaeolithig hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (c. 3000 cp) (Hay, Haplogroup R1b (Y-DNA), 2023).


PIE Gorllewinol

Mae’r ddamcaniaeth draddodiadol ynglŷn â tharddiad y Gelteg yn dibynnu i raddau helaeth, ar astudiaethau phylogenetig sy’n ceisio dilyn hynt yr haplo-grŵp Y-DNA R-M269 (R1b1a1b), sy’n digwydd mewn canrannau uchel yn y poblogaethau modern sy’n byw yn yr ardaloedd hynny a gysylltir â’r diwylliant Celtaidd hynafol (Ffig. 3). Heddiw gwelir fod y canrannau ar eu huchaf yn yr ardaloedd hynny lle y siaredir ieithoedd Celtaidd heddiw (a Gwlad y Basg!).

Mae astudiaeth geneteg o boblogaethau modern yn awgrymu fod R-M269 yn gysylltiedig ag ymlediad yr amaethwyr Neolithig o’r Dwyrain Agos i Anatolia (Myres, 2011). Fodd bynnag, mae astudiaeth geneteg DNA hynafol ddiweddar yn atgyfnerthu’r ddamcaniaeth i R-M269 gyrraedd Gorllewin Ewrop o’r Paith Pontig-Caspaidd wedi’r cwbl, ond i hynny ddigwydd mewn tonnau a allai fod wedi cael effaith ar y mathau o PIE a gâi ei throsglwyddo i’r poblogaethau brodorol (Yedliay, 2024).

Ffig. 2:  Map o’r diwylliannau a adnabuwyd yng Ngorllewin Ewrasia a Gorllewin Asia yn ystod yr Oes Efydd gynnar, ynghyd â’u cysylltiad posib â haplo-grwpiau Y-DNA (Hay, Haplogroup R1b (Y-DNA), 2023).

Astudiaeth Yedliay et al.

Dengys yr astudiaeth a arweiniwyd gan Yedliay, i achau paith gyrraedd Ewrop yng nghwmni achau amaethu sy’n gysylltiedig â’r diwylliant Amffora Gron (“Globular Amphora culture”) (Wikipedia, 2024). Mae’r achau amaethu hyn yn bresennol yn achau’r diwylliant Nwyddau Cnotiog (“Corded Ware culture”) (Wikipedia, 2025), ond maen nhw’n absennol yng Ngwlad Groeg. Mae hyn wedi arwain at gynnig ail-lunio coeden achau’r ieithoedd Indo-Ewropeaidd (Maclean, The Greek/European Genetic and Linguistic Divide, 2025) (Ffig. 4).

Celteg o’r Gorllewin

Yn draddodiadol, y gred yw mai’r diwylliant Urnfield (Wikipedia, 2025), (c. 1300-750 cog), ar ddiwedd Oes yr Efydd yng Nghanolbarth Ewrop, oedd tarddiad Proto-Gelteg. Mae’r ddamcaniaeth hon yn cysylltu’r Celtiaid â’r diwylliant Hallstatt (Wikipedia, 2025) yn Oes yr Haearn a’i dilynodd (c. 1200–500 cog), ac â’r diwylliant La Tène (c. 450 COG ymlaen) (Wikipedia, 2025). O Ganolbarth Ewrop y credid i’r diwylliant Celtaidd ymledu tua’r gorllewin a’r dwyrain. Ond, erbyn hyn, mae damcaniaeth arall a adnabyddir fel ‘Celteg o’r gorllewin’ (Cunliffe & Koch, 2010). Dengys Ffig. 5 y prif lwythau ‘Celtaidd’ a adweinid gan y Rhufeiniaid yng Ngorllewin Ewrop.


Ffig. 4: Coeden achau’r Indo-Ewropeg bosib yn dilyn yr astudiaeth Yedliay.

Ffig 5: Llwythau’r Celtiaid yn ystod Oes yr Haearn (Wikipedia, Celts, 2023)


Arolwg o ddiwylliannau Hallstatt a La Tène
  Tiriogaeth graidd Hallstatt (800 cog).
  Tiriogaethau dan ddylanwad Hallstatt (erbyn 500 cog).
  Tiriogaeth La Tène (450 cog).
  Tiriogaethau dan ddylanwad La Tène (by 250 cog).

Yn ôl y ddamcaniaeth hon, gallai Proto-Gelteg ddyddio i Oes y Copr ac Oes yr Efydd (o oddeutu 2750 cog) ar hyd arfordir Môr yr Iwerydd (gan gynnwys Prydain, Iwerddon, Armorica ac Iberia), ymhell cyn i’r diwylliannau ‘Celtaidd’ ymddangos ar y cyfandir, a’i bod hi’n gysylltiedig â’r diwylliant Bicer Gloch.

Gellir lawrlwytho’r papur cyfan yma.

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.