Monday, 23 December 2024

A oes modd esbonio treigladau sefyllfaol?

 

Un o’r nodweddion sy’n gyffredin i bob un o’r ieithoedd Celtaidd byw yw’r newid morffoffonolegol lle mae cytsain ar ddechrau gair yn newid. Treiglo (“mutation”) y gelwir y broses hon yn Gymraeg. Fel rheol, achosir y treiglad gan y gair sy’n rhagflaenu, ond weithiau, y cyd-destun gramadegol sy’n gyfrifol am y treiglad. Mae yna bedwar math o dreiglad sefyllfaol:

1. Gwrthrych uniongyrchol y ferf gryno, e.e. Cefais frecwast mawr.

2. Torymadroddi, neu sangiad[1], sef gair, neu ymadrodd, yn torri ar draws rediad gramadegol y frawddeg, gan achosi’r treiglad meddal.

3. Adferfolion.[2]

4. Y treiglad cyfarchol; wrth gyfarch rhywun neu rywbeth, treiglir enwau cyffredin yn feddal.

5. Y treiglad ‘ansefydlog’, sef y cymal enwol bod yn treiglo’n feddal ar ôl ffurfiau amhersonol y ferf ac ymadroddion adferfol, e.e. Credir fod pawb yn gwybod; Rwy’n credu fod pawb yn gwybod; Hwyrach fod pawb yn gwybod.

1. Gwrthrych uniongyrchol y ferf gryno

Yn Y Treigladau a’u Cystrawen, adweinir tri chyd-destun lle y gallai ymadrodd enwol, a ddilynai’r ferf gryno, dreiglo’n feddal mewn Cymraeg Canol (Morgan, 1952):


i) Ffurfiad berfol + enw (goddrych neu wrthrych) yn syth ar ôl y ferf

        Treiglir yr enw ar ôl ffurfiadau berfol sy’n diweddu mewn llafariad, e.e. torrai, clybu, cigleu; a chedwir y gysefin ar ôl eraill sydd gan mwyaf yn diweddu mewn cytsain: tyr, torro, torrodd, torres, cymerth, dug, gwnaeth

ii) Ffurfiad berfol + goddrych enwol + gwrthrych enwol

Yma pennir a fydd treiglad i’r goddrych neu beidio gan y ffurfiad berfol fel yn i), ond nid y gwrthrych

iii) Ffurfiad berfol + rhagenw atodol + gwrthrych.

Fodd bynnag, erbyn cyfnod Cymraeg Diweddar, mae’r goddrych yn ddidreiglad yn i), ac mae’r gwrthrych yn treiglo yn i), ii) a iii). Gellir dehongli’r sefyllfa bresennol fel canlyniad i resymoli’r duedd i dreiglo pob ymadrodd enwol sy’n dilyn y ferf gryno sy’n diweddu mewn llafariad neu soniarusyn (“sonorant”), boed iddynt fod yn oddrych neu’n wrthrych y ferf (Hewitt, 2019).

2. Torymadroddi neu sangiad

Torymadroddi, neu sangiad, yw lle mae gair neu ymadrodd yn torri ar draws rhediad gramadegol brawddeg ond sy’n gysylltiedig ag ef o ran ystyr. Yn y Gymraeg, mae ymadrodd o’r fath yn achosi’r treiglad meddal.

Trafodir y gwahanol fathau o sangiad yn Y Treigladau a’u Cystrawen (Morgan, 1952), ond ni cheir ymgais i’w hesbonio. Mae Hewitt (2019) yn cysylltu sangiad ag esblygiad treiglo gwrthrych uniongyrchol y ferf gryno. Ond tybed a ddylid ystyried sangiad yn dreiglad cyswllt (“contact mutation”) o’r iawn ryw? Gellir dangos hyn yn y brawddegau canlynol:

i) Gwelai ddyfryn ffrwythlon yn y pellter.

ii) Gwelai yn y pellter ddyffryn ffrwythlon.

iii) Gwelwyd dyffryn ffrwythlon yn pellter.

iv) Gwelwyd yn y pellter ddyfryn ffrwythlon.

Yn i) a ii) gellir dadlau fod y treiglad i dyffryn yn ganlyniad i’w swyddogaeth fel gwrthrych uniongyrchol y ferf gryno. Ond mae’r ffaith fod yr un treiglad yn digwydd yn iv) yn profi mai’r sangiad, yn y pellter, sy’n gyfrifol am y treiglad in ii) hefyd.

3. Adferfolion

Cyflwyno gwybodaeth ychwanegol am y ferf yw swyddogaeth adferfolion. Mae a wnelont â’r rheswm dros wneud rhywbeth, pryd, ymhle neu sut y’i gwnaethpwyd. Er mai ar ddiwedd y frawddeg yw safle arferol adferfol, gall hefyd ddod ar y dechrau neu yn y canol. Gall treiglo cytsain flaen elfen gyntaf adferfol ddibynnu ar ei safle yn y frawddeg. Ymddengys mai datblygiad ‘diweddar’ yw treiglo adferfolion ar ddechrau’r frawddeg (Thomas, 1996).

Yn Gramadeg y Gymraeg, dywedir y gall pum math o ymadrodd weithredu fel adferfol (Thomas, 1996). Yn eu plith rhestrir ‘Ymadrodd Dibeniadol’, a rhoir yr enghraifft ganlynol:


Daeth i mewn yn wên o glust i glust.

Tybed ai dyna a ysgogodd y treiglad mewn mathau eraill o adferfolion, a hynny drwy gydgyfeiriant (“convergence”)?

4. Y treiglad cyfarchol

Wrth gyfarch rhywun neu rywbeth, treiglir enwau cyffredin yn feddal:


Helo bobol!; Byddwch yn dawel blantos!

Ond ai treiglad sefyllfaol o’r iawn ryw sydd yma mewn gwirionedd? Yn Ngaeleg yr Alban, ceir y geiryn cyfarchol a sy’n achosi meddalu (“lenition”) yn y gair a’i dilyno:


Hàlo a Chatrìona. (“Helo Catrin”) (< Catrìona)

 A cheid yr un sefyllfa mewn Cymraeg Canol lle defnyddir ha fel geiryn cyfarchol:


Ha _wreic heb ef; Ha veibion

Felly, ymddengys nad treiglad sefyllfaol o’r iawn ryw mo’r treiglad cyfarchol wedi’r cwbl.

5. Y treiglad ‘ansefydlog’

Dylid treiglo’r cymal enwol bod pan fo’n gweithredu fel gwrthrych uniongyrchol y ferf gryno. Ond mae traddodiad hir iawn o dreiglo bod ar ôl berfenwau yn y gystrawen gwmpasog ac fel gwrthrych uniongyrchol ffurfiau amhersonol y ferf (Morgan, 1952). Er nad oes modd esbonio’r treiglad hwn ar ben ei hunan, tybed ai enghraifft o gydgyfeiriant ydyw, yn dilyn patrwm 1. iii) uchod? Er gwybodaeth, yn nhafodieithoedd y gogledd, mae bod yn treiglo’n feddal ar ôl yr arddodiad er.

Casgliadau

Mae meddalu (“lenition”) neu dreiglo’n gyffredin i bob un o’r ieithoedd Celtaidd byw, ond dim ond yn y Gymraeg y ceir treigladau nas achosir gan y gair rhagflaenol Adnabuwyd pum math o dreigladau sefyllfaol. Dangoswyd mai treiglad cyswllt o’r iawn ryw yw un ohonynt, tra mai cyfuniad o’r pen yn achosi’r treiglad a chydgyfeiriant yw’r lleill.

Gellir lawrlythor PDF yma.

Cyfeirnodau

Hewitt, S. (2019). Welsh syntactic mutation and Arabic indefinite accusative: Case or configuration. 16th International Congress of Celtic Studies, ICCS-XVI, tt. 8-12,23-24. Bangor.

Morgan, T. (1952). Y Treigladau a'u Cystrawen. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Thomas, P. W. (1996). Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.


Darllen Pellach


Ball, M. & Müller, N. (1992) Mutation in Welsh. Routledge. Llundain.

Borsley, R.D., Tallerman, M. and Willis, D., (2007) The syntax of Welsh. Cambridge University Press.

Tallerman M. (2006) The syntax of Welsh “direct object mutation” revisited, tt. 1750-76 in Borsley, R.D., Roberts I.G., Sadler L., Willis, D. (goln), Celtic Linguistics, special issue of Lingua 116.


====


[1] Term llenyddol yw sangiad, a fabwysiadwyd gan ieithyddion fel T.J. Morgan a Peter Wynn Thomas.

[2] Mae llawer o eithriadau i’r ‘rheol’ hon (Thomas, 1996).



No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.