Mewn Cymraeg cyfoes, ffurf unigol yr enw yw’r
ffurf ddiofyn ar ôl rhifol:
dau gi, tair cath, pymtheg chwaraewr
(i) rhifol
+ enw unigol
(ii) rhifol + o + enw lluosog
a) Pan fo’r rhif yn fawr iawn:
mil a phum cant o bobl, mil o leisiau
b) Pan ddefnyddir rhif cyfansawdd:[1]
un ar ddeg o chwaraewyr
pedair ar bymtheg o ysgolion
Mae ganddo bedwar o blant.
Allwch chi gyfnewid y papur decpunt ’ma am
ddeg o bunnoedd?
Roedd pump o ddefaid yn y cae.
Eithriad amlwg i’r rheol hon yw’r defnydd o’r ffurf luosog hanesyddol blynedd ar ôl rhifolion sy’n uwch nag un:
tair blynedd, saith mlynedd, un mlynedd ar hugain[2]
Cyfeirnodau
Willis, D. (2019, Mawrth). Datblygiad cystrawen y rhifolion yn y Gymraeg. Adferwyd 12 13, 2024 o Gwerddon: https://gwerddon.cymru/storfa-erthyglau/datblygiad-cystrawen-y-rhifolion-yn-y-gymraeg/
====
[1] Nid
rheol haearnaidd mo hon.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.