Thursday, 28 November 2024

A oes rheol yn y Gymraeg i ddangos sut i ynganu < wy >?

 


Mewn geiriau unsill, nid hawdd gwahaniaethu rhwng [ʊɪ]/[ʊɨ][1] and [wɪ] (lle mae [w] yn cynrychioli’r lledlafariad fel yn gwên), e.g.


[ʊɪ]/[ʊɨ]

bwyd, cwyn, dwyn, llwyn, mwyn, mwys, nwyd, rhwyd, rhwym, rhwysg, swyn, twyn

 

[wɪ]

chwyn, chwyrn, gwyn, gwyn

Ond, yn fy marn i, dylid ystyried y geiriau felly ac ynddynt [wɪ] yn eithriadau. 

Weithiau defnyddir yr acen grom i wahaniaethu rhwng ynganiad ac ystyr. Er enghraifft, cymerer y gair cwyn (“complaint”). Fe’i hyngenir fel cŵyn ([kʊɪn]/[kʊɨn]), ond dim ond yn ei ffurfiau treigledig y defnyddir yr acen grom (^) i ddangos hynny (Thomas, 1996):

dy gŵyn (di), ei gŵyn (ef), ei chŵyn (hi)

Yn yr arddulliau ffurfiol, ymddengys mai <ŵy> ([ʊɪ]/[ʊɨ]) yw ynganiad diofyn <wy> mewn geiriau lluosoll oni nodir yn wahanol. Er enghraifft:


Yn y goben

cynhwysfawr, cynllwyngar, egwyddor, pwyllgor

 

Yn y sillaf olaf

addfwyn, annwyd, cynnwys, prifwyl, Tafwys

 Eithriad: -wyr fel yn ffermwyr, garddwyr, lladdwyr, a.yb.

 Yn Gramadeg y Gymraeg, nodir nifer o eiriau lluosill y ceir [ʊɪ]/[ʊɨ] mewn arddulliau ffurfiol, ond y caniateir [wɪ] erbyn hyn (Thomas, Gramadeg y Gymraeg, 1996):


cadwyn, cannwyll, cwympo, synnwyr

Ond beth am y geiriau lluosill a chanddynt [wɪ] yn y goben ynn hanesyddol? Yne llawer ohonynt mae [wɪ] yn dod o flaen clwm cytseiniol:


gwyddbwyll ([ˈɡwɪðbʊɨɬ])

gwyntoedd ([ˈɡwɪntɔɪð])

gwystl ([ɡwɪstl])

wystrys ([ˈwɪstrɪs]) 

Eithriad: bwystfil ([ˈbʊɪstvil] 

Tybed ai dyna sy’n gyfrifol am yr ynganiad [wɪ] 

Tynnwyd fy sylw at y ffaith y ceir [wɪ] yn sillaf olaf enwau lluosog rhai mathau o goed. I edrych i mewn i hyn, lluniais restr o enwau coed cyffredin:

Mae’n fy nharo i mai coed sydd ddim yn frodorol i Gymru yw’r rhai a chanddynt [ʊɪ] yn y goben ac [wɪ] yn y sillaf olaf:


ffynidwydden, ffynidwydd

palmwydden, palmwydd

sycamorwydden, sycamorwydd

Sylwer eu bod nhw hefyd yn seiliedig ar gwydd ([ɡʊɪð]) (“gwyllt, coediog”), cf. gwez (“coed”) yn y Llydaweg.

Yn olaf, dylid nodi, ar lafar, mewn geiriau lluosill, fod tuedd i ynganu <wy> fel [wɪ] yn y tafodieithoedd gogleddol ac fel [ʊ] yn y tafodieithoedd deheuol. Er enghraifft:

Yn Gramadeg y Gymraeg nodir nifer o eiriau lluosill y ceir [ʊɪ]/[ʊɨ] yn y sillaf olaf mewn arddulliau ffurfiol (Thomas, Gramadeg y Gymraeg, 1996):


cadwyn, cannwyll, cwympo, synnwyr

Casgliadau

Nid hawdd ceisio esbonio’r rheolau ynglŷn â sut i ynganu <wy> yn y Gymraeg. Ond dengys yr astudiaeth fer hon:

1. Ni ellir esbonio’r gwahaniaethu rhwng [ʊɪ]/[ʊɨ] ac [wɪ] mewn geiriau unsill, ond [ʊɪ]/[ʊɨ sydd y mwyafrif llethol ohonynt.

2. Mewn Cymraeg safonol, [ʊɪ]/[ʊɨ] yw’r ynganiad diofyn mewn geiriau lluosill, er bod y ffin rhwng arddulliau ffurfiau a rhai anffurfiol yn torri i lawr.

3. Ar lafar, yn y tafodieithoedd gogleddol, ceir [wɪ] yn y goben a’r sillaf olaf, tra, yn y tafodieithoedd deheuol, ceir [ʊɪ] yn y goben ac [ʊ] yn y sillaf olaf.

Gellir lawrthlwytho PDF o'r papur hwn yma.

Cyfeirnodau

Thomas, P. W. (1996). Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Thomas, P. W. (1996). Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.


[1]  Mae’r ffurf ar y dde yn cynrychioli yr ynganiad yn nhafodieithoedd y De, a’r ffurf ar y dde’r ynganiad yn nahfodieithoedd y Gogledd.


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.