Monday, 22 January 2024

Y defnydd o'r didolnod yn Gymraeg


Ddefnyddir y didolnod ¨ i ddangos fod llafariad yn sillafog, yn hytrach na ffurfio deusain gyda’r llafariad drws nesaf iddi. Ni fydd ansawdd y llafariad dan y didolnod yn newid:

Defnyddir y didolnod gyda’r llafariaid <i> gan mwyaf:

 

beili > beilïau; copi > copïo; gweddi > gweddïo; parti > partïon; si > sïon;

stori > storïau

 

Ond does dim angen y didolnod pan ddaw <i> yng ngoben geiriau deusill:

 

dianc, diau, dieithr, diod, ciaidd, ffiaidd, piau, priod


Y defnydd o’r didolnod gyda llafariaid eraill

<e>

Dilynir yr un rheolau parthed defnyddio’r didolnod gydag <e> â chydag <i>

 

cyfleu > cyflëwyd; dileu > dilëwyd; ffoi > ffoëdig;

 

Ond caniateir y defnydd o’r didolnod yn y goben mewn gair deusill:

 

creu > crëwyd; gweu > gwëwyd

 

Does dim angen y didolnod i wahanu dwy lafariad unfath, sydd, yn y bôn, yn golygu’r olyniad <ee>:

 

amgáu > amgaeedig; cau > caeedig; > deall > deellir; dileu > dileer

 

<a>

Dilynir yr un rheolau parthed defnyddio’r didolnod gydag <a> a chydag <i>, ond mae’r amlder yn llawer llai:

 

lladrata > lladratäwr; Llydaw > Llydäwr; llysieufwyd > llysieufwytäwr

 

Yn ogystal, ni roir didolnod uwchben <a> pan ddaw yn y goben o flaen <o> ac <wy>:

 

<o>

casáu > casaodd; dwysáu > dwysaodd; mwynhau > mwynhaodd; parhau > parhaodd, parhaol; sarhau > sarhaodd

 

<wy>

casáu > casawyd; dwysáu > dwysawyd; mwynhau > mwynhawyd; parhau > parhawyd; sarhau > sarhawyd

 

<o>

Dilynir yr un rheolau parthed defnyddio’r didolnod gydag <o> â chydag <i>, ond mae’r amlder yn llawer llai:

 

ffoi > fföedigaeth; troi > tröedigaeth

 

Yn ogystal, caniateir y didolnod yng ngoben geiriau deusill:

 

bro > bröydd; glo > glöwr; to > töen; to > töwr

 

Ac, fel yn achos <a>, ni roir didolnod uwchben <o> o flaen y ddeusain <wy>:

 

paratoi > paratowyd; rhoi > rhowyd; troi > trowyd

 

<u>

Dilynir yr un rheolau parthed defnyddio’r didolnod gydag <u> â chydag <i>, ond mae’r amlder yn llawer llai:

 

Ond caniateir y defnydd o’r didolnod yn y goben mewn gair deusill:

 

du > düwch;

 

<y>

Fel rheol, ni cheir y didolnod uwchben <y>.

Fel rheol, ni cheir y didolnod uwchben <y>.


Cwestiwn

“Swyddogaeth y didolnod yw rhannu llafariaid er mwyn dangos bod dwy lythyren olynol yn cynrychioli dwy lafariad wahanol yn hytrach na deusain.” (Thomas, t. 778) Os felly, beth yw’r rhesymeg tu ôl i ddefnyddio’r didolnod gydag <e> mewn ffurfiau fel crëwyd a dilëwyd ond nid gydag <a> mewn ffurf fel dwysawyd a parhawyd ac ar <o> mewn ffurf fel paratowyd a trowyd, gan fod y deuseiniaid <aw> <ew>, ac <ow> yn digwydd yn y Gymraeg?

 

Casgliadau

Yn ôl y cyfarwyddiadau a geir yn Orgraff yr Iaith Gymraeg, mae’r ‘rheolau’ ynglŷn â’r defnydd o’r didolnod yn y Gymraeg yn fwy cymhleth nag yr ymddangosant ar yr olwg gyntaf, gydag eitha’ tipyn o eithriadau. Nid wyf wedi llwyddo i ddod o hyd i’r rhesymeg sydd tu ôl i ganiatáu’r didolnod yn dilëwyd, ond nid yn sarhawyd.


Llyfryddiaeth

Brake, P. (1998) Cymraeg Graenus, Gwasg Gomer.

Lewis C. (1987) Orgraff yr Iaith Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru.

Morris-Jones J. (1928) Orgraff yr Iaith Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru.

Thomas, P.W. (1996) Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru.

Thorne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer

Williams, S.J. (1980) Elfennau Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru.


Atodiad 1

Geiriau ac ynddynt <a | wy>:

 

awyr

awyren

awyrendy

llawysgrifen

brawychu

gorawyddus

trawydd

awyrblan

awyrell

awyrennaeth

awyrennwr

ffawydd

awyrlong

awyrol

hawyr

awyrydd

awyrgludo

ffawydd

awyriadur

brawychiaeth

brawychwr

gorawydd

awyrladrad

awyrbost

awyrenneg

Grawys

isawyrol

diawydd

awyrlun

awyrlu

awydd

llawysgrif

awyddus

ffawydden

mynawyd y bugail

brawychol

awyrgylch

mynawyd

awyru

awyriad

croesawydd

metawybyddiaeth

awyrfaen

awyrgludiad

brawychus

Manawydan

gwrthawyrennol

gwrthdrawydd

Hawys

Sawyl


Atodiad 2

Geiriau ac ynddynt <e | wy>:


adlewyrchydd

dilewyrch

newyn

adnewyddiad

adnewyddadwy

llewyrchu

tewychydd

cewyn

tewychiad

gewyn

giewyn

newyddiaduraeth

newyddian

newynog

rhyddewyllysiwr

ysgewyll

blewynna

cnewyllol

newydd

dadrewydd

perlewyg

llewyrchiad

pentewyn

ewynnu

adnewyddol

newynu

anadnewyddadwy

newyddiadura

newyddu

cnewyllyn

adnewyddwr

gewynnol

adlewyrchiad

newyddbeth

rhewydd

ewyllysgarwch

ewyllysiwr

tewychu

ewyllys

blewyn

gewynnog

adnewyddu

dadlewygu

adlewyrchadwy

adlewyrchedig

adnewyddedig

distewydd

rhewyn

newydd-ddyfodiad

llewygu

ewyllyswraig

anewyllysgar

ffrewyll

ewyllys

llewyrchus

tewyn

ewyllysio

ewyn

ysgewyllen

ewynnog

ewythr

newydd

gwewyr

newydd

ewyllysgar

llewyg

llewys

cewyll

olewydden

adlewyrchol

gwreiddflewyn

aloewydden

crewyn

gwrthrewydd

dewyrth

newyddiadureg

adlewyrchu

newyddair

llewyrch

tenewyn

trewyn

rhewynt

anewyllysgarwch

rhyddewyllysiaeth

llewyrchyn

ewyllysiad

llewych

olewydd

diewyllysedd

newyddlen

dilewys

newydd-deb

newyddiadurwr

newyddion

newydd-anedig

clewyn



Atodiad 3


Geiriau ac ynddynt <o | wy>:


trowynt

nanowyddoniaeth

cedowydd

cowyll

 

Diolch o galon i Nudd Lewis am yr atodiadau.

 

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.