Sunday, 13 October 2024

Dyddiau'r Wythnos

 

Heb gael y cyfle i astudio Lladin yn ffurfiol, roeddwn i’n syn i ddysgu pa mor debyg yw dyddiau’r wythnos yn y Gymraeg i’r rhai Lladin Clasurol. Mae’r siart isod yn cynnwys y Ffrangeg a Gaeleg yr Alban yn ogystal â’r Gymraeg a’r Lladin:


Cymraeg

Lladin

Ffrangeg

Gaeleg yr Alban

dydd Llun

dies Lunae

Lundi

Diluain

dydd Mawrth

dies Martis

Mardi

Dimàrt

dydd Mercher

dies Mercurii

Mercredi

Diciadain

dydd Iau

dies Iovis

Jeudi

Diardaoin

dydd Gwener

dies Veneris

Vendredi

Dihaoine

dydd Sadwrn

dies Saturni

Samedi

Disathairne

dydd Sul

dies Solis

Dimanche

Didòmhnaich

Iaith Gelteg P yw’r Gymraeg a gâi ei dylanwadu’n fawr iawn gan y Lladin (iaith Italeg Q) a siaredid ym Mhrydain adeg y meddiant Rhufeinig.

Disgynnydd i’r Lladin yw’r Ffrangeg, ac eto, mae mwy o gyfatebiaeth rhwng dyddiau’r wythnos yn y Gymraeg a’r Lladin na rhwng y Ffrangeg â’r Lladin.

Iaith Gelteg Q yw Gaeleg yr Alban sy’n deillio, yn y pen draw, o’r un famiaith â’r Gymraeg, ac eto, ar y cyfan, mabwysiadwyd dyddiau’r wythnos Lladin ganddi hithau.

Dyma esboniad o enwau’r dyddiau sydd ddim yn cyfateb i’r rhai Cymraeg/Lladin:

Ffrangeg

Samedi: o’r Hen Ffrangeg samedi, o’r Lladin Llafar *sambatum a *sambatī diēs, o’r Lladin Sabbatī diēs, sy’n amrywiad ar diēs Sabbatī (“dydd y Saboth”), o sabbatum, o’r Roeg Hynafol ábbaton)
Dimanche: o’r Hen Ffrangeg diemenche, o’r Lladin Diweddar diēs Dominicus (“dydd yr Arglwydd”) via *didominicu > *diominicu.

Gaeleg yr Alban
Diciadain: Di- +‎ ciadain, o’r Hen Wyddeleg ceud (“cyntaf”) ac aoine (“ympryd”).
Diardaoin: o’r Hen Wyddeleg dardóen (“dydd rhwng dau ympryd”).
Dihaoine: Di- +‎ aoine (“dydd yr ympryd”). 
Dìdomhnaich: o’r Lladin diēs Dominicus (“dydd yr Arglwydd”).

Nodiadau
1. Mae’r gair Cymraeg dydd a’r Lladin dies yn gytras, o’r PIE *dyḗws.
2. Mae gair arall am ‘dydd Sul’ yng Ngaeleg yr Alban: Là na Sabaid (“Dydd y Saboth”).
3. Diddorol nodi fod y gair am ‘dydd’ yn wahanol i’r gair Proto-Gelteg (*dīyos) a’r gair Proto-Italeg (*djēm) yn y Ffrangeg (jour) a Gaeleg yr Alban (latha) erbyn hyn.

Gellir cyrchu PDF o’r post hwn yma.


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.