Berfau cyflawn
berf gyflawn (“intransitive verb”) yw berf sydd ddim yn cymryd gwrthrych uniongyrchol (“direct object”), e.e.
Mae’r haul yn disgleirio.
Crynodd y ddeilen.
Mae’r dafodiaith ar fin diflannu.
Dyma
enghreifftiau o ferfau cyflawn eraill:
ciniawa,
gwaedu, gwegian, gwynegu, gwywo, llewygu, marw, pendwmpian, petruso
Weithiau
mae’n bosib dilyn berf
gyflawn ag ymadrodd adferfol (“adverbial phrase”) sy’n cynnwys gwrthrych anuniongyrchol (“indirect object”). Mae Thomas (1996, 402) yn dosbarthu’r rhain fel a ganlyn:
(i) Berfau
sy’n dynodi safle, e.e.
aros, eistedd, gorwedd, gorffwys, penlinio, sefyll, e.e.
Rwy’n aros mewn gwesty.
Roedd y crots yn eistedd ar y wal.
Peidiwch â gorffwys ar eich rhwyfau.
(ii) Berfau
sy’n dynodi symudiad, e.e.
cwympo/syrthio,
dod, hercian, loncian, mynd, nofio, rhedeg, teithio, ymadael, ymlwybro, e.e.
Cwympodd y ferch i lawr y staer.
Des i o hyd i bum punt ar y llawr.
Rhedais i fyny’r rhiw.
(iii) Berfau sy’n dynodi sŵn nodweddiadol, e.e.
brefu, clochdar,
cyfarth, chwyrnu, gweryru, peswch, rhuo, sgrechian, taro untro.
Roedd yn brefu ar bawb a adweiniai.
Mae’r meirch yn gweryru ar ei gilydd.
Rhuodd ar ei wraig yn ystod y siwrnai ddiflas.
Sylwer
mai ar yw’r arddodiad i’w ddefnyddio yma bron yn ddieithriad.
Berfau anghyflawn
berf anghyflawn (“transitive verb”) yw un sy’n cymryd gwrthrych uniongyrchol (“direct object”). Dyma batrwm sylfaenol cymal sy’n cynnwys berf anghyflawn:
Berf + Goddrych + Gwrthrych
Mae
Thomas (1996, 403a) yn adnabod pedwar prif fath o wrthrych sy’n dilyn berf anghyflawn:
(i) Ymadrodd
enwol, e.e. Prynais ddarlun.
(ii) Rhagenw,
e.e. Fe’i prynais.
(iii) Cymal enwol, e.e. Bwriadem weld cadeirydd y cwmni.
(iv) Cwestiwn anuniongyrchol, e.e. Gellid deall ar bwy yr oedd
y bai.
Dadleua
Thomas (1996, 403b) mai math arbennig o ferf anghyflawn yw’r ferf arddodiadol,
e.e.
dygymod
â, siarad â, angofio am, siarad am, aflonyddu ar, dechrau ar, cyfeirio at,
perthyn i, tyngu i, arswydo rhag, dianc
rhag, dweud wrth, arbenigo yn/mewn, gafael yn/mewn
Dyma enghreifftiau
o ferfau anghyflawn a all gael
ymadrodd enwol neu ragenw yn wrthrych iddynt:
adnabod,
cludo, chwynnu, ennill, gwasanaethu, gwasgu, gyrru, hyfforddi, lladd, llygru,
palu, paratoi, pwyso, siglo, tyfu, yfed, ysgwyd
Cyfeiriadau
Thomas, P.W. (1996, 402) Gramadeg y Gymraeg, Gwasg
Prifysgol Cymru.
Thomas, P.W. (1996, 403a) Gramadeg y Gymraeg, Gwasg
Prifysgol Cymru.
Thomas, P.W. (1996, 403b) Gramadeg y Gymraeg, Gwasg
Prifysgol Cymru.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.