Biceri cloch o Thuringia (Yr Almaen) a Tök2ol (Hwngari) c. 2500-2200 COG
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd erthygl ar wefan MSN, o’r enw ‘Origins of immigrants who replaced Stonehenge’s builders revealed’. Mae rhai wedi defnyddio hyn i wrthbrofi’r ddamcaniaeth ‘ddadleuol’ ‘Celtic from the West’. Dyma fy ymateb i.
====Mae’n bwysig cofio na all astudiaethau archaeogenetig brofi na gwrthbrofi damcaniaethau ieithyddol yn uniongyrchol. Ond maen nhw’n gallu olrhain symudiadau poblogaethau sydd, o bosib, yn gysylltiedig â shifftiau iaith. Gan hynny, Nid wyf yn credu bod yr astudiaeth archaeogenetig y cyfeirir ato yn erthygl MSN (Sankaran, 2026), yn gwrthbrofi’r ddamcaniaeth ‘Celtic from the West’. Fodd bynnag, mae’n cwestiynu’r syniad hen ffasiwn i’r bobloedd oedd yn gysylltiedig â’r diwylliant Bicer Gloch, gyrraedd Prydain ac Iwerddon yn uniongyrchol o Iberia, ac, am wn i, nid yw John Koch na Barry Cunliffe, sef golygyddion y gyfrol ‘Celtic from the West’ (2010) erioed wedi honni hynny.
CEFNDIR BRAS
Yn draddodiadol, y gred yw i Gelteg darddu o’r diwylliant Urnfield (c. 1300-750 COG), ar ddiwedd Oes yr Efydd. Mae’r ddamcaniaeth hon yn cysylltu’r Celtiaid â’r diwylliant Hallstatt yn Oes yr Haearn (c. 1200–500 COG) ac â’r diwylliant La Tène (c. 450 COG ymlaen) a’i dilynodd. Yn ôl y ddamcaniaeth hon, o Ganolbarth Ewrop yr ymledodd y diwylliant Celtaidd tua’r gorllewin a’r dwyrain. Ond rhaid cydnabod nad oes consensws unfrydol ynglŷn â’r cysylltiad rhwng Hallstadt/La Tène a tharddiad y Gelteg, ac, erbyn hyn, mae gennym ddamcaniaeth gredadwy arall, a adweinir fel ‘Celtic from the West’ (Cunliffe & Koch, 2010).
Yn ôl y ddamcaniaeth hon, gallai’r Gelteg ddyddio i Oes y Copr ac Oes yr Efydd (o oddeutu 2750 COG) oddi mewn i ardal a ymestynnai ar hyd arfordir Môr yr Iwerydd (gan gynnwys Prydain, Iwerddon, Armorica ac Iberia), ymhell cyn i’r diwylliannau ‘Celtaidd’ ymddangos ar y cyfandir, a’i bod hi’n gysylltiedig â’r diwylliant Bicer Gloch.
Y DADLEUON O BLAID ‘Celtic from the West’
1. Braidd dim olion o’r diwylliant Hallstadt yn Iwerddon.
Prin yw’r dystiolaeth o’r diwylliant Hallstatt (c. 1200-450 COG) yn Iwerddon ac eithrio ychydig o gleddyfau a darnau o emwaith (Hannon, 2012). Mae hyn yn groes i’r ddamcaniaeth draddodiadol sy’n honni i’r Gelteg gyrraedd Iwerddon yn ystod yr Oes Haearn gynnar.
2. PROTO-GELTEG *kʷ AC IEITHOEDD CELTAIDD Y GORLLEWIN
Mae’n ddiddorol nodi mai’r ieithoedd Celtaidd gorllewinol ar hyd arfordir Môr y Iwerydd, fel Goideleg yn Iwerddon, a Cheltibereg yn Iberia, a gadwai’r Broto-Gelteg *kʷ.
3. Y DIWYLLIANT BICER GLOCH
Er y credir mai Iberia oedd tarddle y diwydiant Bicer Gloch, roedd ei thiriogaeth yn ymestyn dros ardal eang iawn, ac felly nid oes sail i’r honiad bod darganfyddiadau’r astudiaeth dan sylw, sy’n awgrymu i boblogaethau sy’n gysylltiedig â’r diwylliant Bicer Gloch, gyrraedd Prydain o ardal moryd afonydd Rhein–Meuse, yn groes i ‘Celtic from the West’.
Gellir ystyried y diwylliant Bicer Gloch yn gymar gorllewinol i’r diwylliant Nwyddau Cnotiog yng Nghanolbarth Ewrop. Ond, o oddeutu 2400 COG, bu iddo ddechrau symud tua’r dwyrain, i mewn i ardal y diwylliant Nwyddau Cnotiog (3000–2350 COG). Mewn rhannau o Ganolbarth a Dwyrain Ewrop, mor bell i’r dwyrain â Gwlad Pwyl.
4. CELTIBEREG
Dengys y ffaith fod ieithoedd Celtaidd eisoes yn Iberia cyn cyfnod y diwylliannau Hallstadt a La Tène, nad y rheiny oedd yn gyfrifol am eu cyflwyno i’r penrhyn. Mae archaeolegwyr fel Almagro Gorbea (1996) yn gweld y diwylliant Castro fel un “proto-Geltaidd” ac yn rhan o ddatblygiad mewnol Iberia, nid mewnfudo diweddarach o’r dwyrain. Ymhellach, mae ieithoedd Celteg hynafol Iberia wedi cadw nodweddion PIE, e.e. y drefn eiriau SOV, sy’n awgrymu iddynt hwythau fod yn hynafol. Mae hyn yn cyd-fynd â’r syniad i’r Gelteg ddatblygu ar hyd arfordir yr Iwerydd.
5. TARTESEG
Er nad yw’r consensws ieithyddol yn derbyn y ddamcaniaeth eto, yn ei bapur ‘A Case for Tartessian as a Celtic language’, mae Koch (2009) yn dadlau bod enwau personol, enwau lleoedd, ynghyd â rhai elfennau gramadegol (yn enwedig y geiryn rhagferfol ro ), yn awgrymu mai iaith Indo-Ewropeaidd, ac yn benodol iaith Geltaidd, oedd ‘Tarteseg’. Mae’n pwysleisio hefyd fod y cysylltiadau archaeolegol rhwng Gorllewin Iberia a gwledydd Môr yr Iwerydd yn gryf iawn yn ystod yr Oes Efydd Ddiweddar. (Mae’n ddiddorol i’r stylae ‘Tarteseg’ gael eu darganfod yn nhiriogaeth llwyth a adweinid fel Cynetes yn y byd clasurol. Mae’n bosib mai Proto-Gelteg *kwon (“ci”) yw rhan gyntaf yr enw, gan atgyfnerthu’r cysylltiad Celtaidd yn Iberia yn ystod Oes yr Efydd.
CASGLIADAU
Yn fyr, mae’r dystiolaeth archaeogenetig ac ieithyddol ddiweddar yn awgrymu model rhwydweithiol, aml-ffynhonnell ar gyfer tarddiad y Gelteg, ac mae hynny’n cyd-fynd â’r ddamcaniaeth ‘Celteg o'r Gorllewin’ yn well na’r model Hallstatt/La Tène traddodiadol.
Yr wyf innau o’r farn mai ymgais pur dda i geisio esbonio tarddiad yr ieithoedd Celtaidd yw ‘Celtic from the West’, ynghyd â sut y bu iddynt ymledu, yn enwedig i Ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Gwnaed hyn trwy geisio cysoni tystiolaeth ieithyddol ac archaeogenetig diweddar. Y canlyniad yw damcaniaeth hybrid sy’n honni i Broto-Indo-Ewropeg gyrraedd Gorllewin Ewrop gyda phoblogaethau o dras y Paith Pontig yn ystod yr Oes Efydd gynnar, a thrwy asio’u diwylliant ag un y poblogaethau Neolithig brodorol, crewyd diwylliant unigryw a adweinir fel y diwylliant Bicer Gloch, sydd, yn ei dro, yn gysylltiedig â PIE Gogledd-orllewinol, sef y continwwm ieithyddol a roes fod i’r Italeg yn Nwyrain Iberia a’r Gelteg ar hyd arfordir Môr yr Iwerydd, gan gynnwys Ynysoedd Prydain ac Iwerddon.
====
CYFEIRIADAU
Almagro-Gorbea, M. (1996). Los castros de la Meseta. Gallaecia.
Cunliffe, B., & Koch, J. (Gol.). (2010). Celtic from the West. Rhydychen: Oxbow Books.
Hannon, G. (2012, 4 4). Celtic Conundrum. Adferwyd 2 18, 2025 o Irish Media Man: https://irishmediaman.wordpress.com/2012/04/04/celtic-conundrum/
Koch, J. T. (2009). A case for Tartessian as a Celtic language. Palaeohispanica. Revista sobre lenguas y culturas de la Hispania Antigua, (9), 339-351.
Sankaran, V. (2026) ‘Origins of immigrants who replaced Stonehenge’s builders revealed’, https://www.msn.com/en-us/news/world/origins-of-immigrants-who-replaced-stonehenge-s-builders-revealed/ar-AA1WbNAp, cyrchwyd 15/02/2026.
No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.