Monday, 12 May 2025

Ffonoleg y Gymraeg

Cyflwyniad

Yr wyf wedi ymddiddori mewn ieithyddiaeth erioed, yn enwedig tafodieitheg a sosio-ieithyddiaeth. Bwriais fy mhrentisiaeth drwy ysgrifennu traethawd ymchwil ar ‘dafodiaith’ plwyf yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin. Roedd yr astudiaeth honno’n cynnwys disgrifiad o ffonoleg a morffoleg siaradwyr hŷn oedd yn enedigol o’r plwyf, ac oedd wedi byw yno trwy gydol eu hoes. Er fy mod i’n hapus iawn â’r canlyniad, dros y blynyddoedd, deuthum i gwestiynu y dehongliad o’r llafariaid a ddisgrifiwyd gennyf, yn enwedig y llafariaid ‘agored’. Fel eraill o’m blaen, penderfynais eu rhannu’n ddwy ffonem, sef y llafariad flaen agored anghron /a/, a’r llafariad ôl agored anghron /ɑ/. Dengys Ffig. 1 a Ffig. 2 yn fras wahanol fannau cynhyrchu posib y ddwy ffonem dan sylw.

Ffig. 1: Mannau llefaru /a/ siaradwyr Cymraeg plwyf yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin


Ffig. 2: Mannau llefaru /ɑ/ siaradwyr Cymraeg plwyf yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin


Gwelir fod y ddwy ffonem hyn yn clystyru o gwmpas safle’r llafariad ganolog lled agored anghron [ɐ]. Ac, ar ôl pendroni’n hir dros y pwnc, darllenais astudiaeth ddiweddar o ffonoleg Cymraeg Gogledd Cymru (Bell, 2023), a deuthum i’r un casgliad mai hyd sy’n eu gwahaniaethu yn y bôn, ac felly, nawr hoffwn gynnig y dosbarthiad ffonemig canlynol: 

1.  /ɐ/ (sillaf acennog): man ([mɐn]) (“place”)

2. /ɐː/ (sillaf acennog): mân ([mɐːn]) (“small”)

3. [ɐˑ] (goben acennog): manwl ([ˈmɐˑnʊl]) (“detailed”) (De Cymru)

Yn y goben acennog, mae /ɐ/ yn hanner hir ([ɐˑ]). Gan hynny, yr wyf i o’r farn y dylid ei hystyried yn allffon o /ɐː/.

Cais y dadansoddiad canlynol grynhoi’r sustem ffonemig ar gyfer Cymraeg Cyfoes.

Y Llafariaid

Yn y Gymraeg, ceir parau o lafariaid ‘hir’ a ‘byr’, er mai ansawdd sy’n chwarae’r rhan bwysicaf wrth ffurfio parau lleiafaint. Mae p’un a gynhyrchir llafariad hir neu lafariad fer yn dibynnu ar safle, yr acen bwys a’r cytseiniaid dilynol. Mewn sillafau diacen, mae pob llafariad yn fyr (Williams, 1983). Yn nhafodieithoedd y De, gall llafariaid hir ddigwydd yn y goben acennog a’r sillaf olaf acennog, tra bo llafariaid hir wedi eu cyfyngu i eiriau unsill a’r sillaf olaf acennog yng nhafodieithoedd y Gogledd (Awberry, 1984) (Hannahs, 2013) (Iosad, 2017). Dengys Ffig. 3 yn fras safleoedd cynhyrchu prif lafariaid y Gymraeg.

Ffig. 3: Prif lafariaid y Gymraeg

Parau lleiafaint

/iː/ vs /ɪ/

pin ([piːn]) (“pine-tree”), pin ([pɪn]) (“pin”)

/eː/ vs /ɛ/

llên ([ɬeːn]) (“literature”); llen ([ɬɛn]) (“curtain”)

/uː/ vs /ʊ/

pŵl ([puːl]) (stupid”); pwl ([pʊl]) (bout of illness”)

/oː/ vs /ɔ/

ffôn ([foːn]) (“telephone”); ffon ([fɔn]) (“stick”)

/ɐː/ vs /ɐ/

câr ([kɐːr] ) (“kinsman”); car ([kɐr]) (“automobile”)

/ɨː/ vs /ɨ/ (Gogledd Cymru)

<y>

Llŷn ([ɬɨːn]) (enw ardal); llyn ([ɬɨn]) (“lake”)

<u>

llun ([ɬɨːn]) (“picture”); tun ([tɨn]) (“tin”)

/ə/

Fel rheol, dim ond yn y goben (acennog) y bydd /ə/ yn digwydd lle mae’n cynrychioli <y>, e.e. llyn [ɬɪn]/[ɬɨn] (“lake”), llynnoedd [ˈɬənɔɪð] (“lakes”).

Amwysedd [ɛː]

Mewn Cymraeg safonol, ceir [ɐː] mewn geiriau unsill fel cath a tad, neu ynteu yn sillaf olaf acennog geiriau lluosill fel caniatâd, mwynhad. Ond yn rhai tafodieithoedd yng Nghanolbarth Cymru ac yn Ne-ddwyrain Cymru, ceir [ɛː]. Mae hyn wedi eu nodi ym mhob un o’r astudiaethau tafodieithol lleol a gynhaliwyd yn yr ardalodd hyn. Ond nid hawdd profi statws ffonem [ɛː]. Mae dau brif reswm dros hyn:

 

1.   Yn nhafodieithoedd Blaenau Morgannwg a Chymoedd y Rhondda, mae [ɛː] mewn amrywiad rhydd ag [ɐː] (Brake, 2011).

2.  Dim ond mewn geiriau unsill, neu ynteu yn y sillaf olaf acennog, y digwydd [ɛː]; allffonau o [ɐː] a geir mewn safleoedd eraill. Er enghraifft: [tɛːd] ond [ˈtɐˑdɐ], [frɛːm] ond [ˈfrɐˑmɪn].

Y Cytseiniaid


Enghreifftiau

Y Ffrwydrolion

Fel rheol, yn y Gymraeg, llais vs di-lais sy’n gwahaniaethu rhwng y ffrwydrolion di-lais: /p/, /t/, /k/ a’r rhai lleisiol: /b/, /d/, / ɡ/. Yn fy nhraethawd ymchwil i, disgrifiais y gwahanol allffonau, ynghyd â’u cyd-destun seinegol (Brake, 1980). Er enghraifft, mae’r ffrwydrolyn dwywefusol di-lais /p/ yn anadlog ar ddechrau, yng nghanol ac ar ddiwedd gair:
 

pâl ([pʰɐːl]) (“spade”), capel ([ˈkʰɐpʰɛl]) (“chapel”), cap ([kʰɐpʰ]) (“cap”)

 
Mae’r ffrwydrolyn dwywefusol lleisiol /b/ yn rhannol ddi-lais ar ddechrau ac ar ddiwedd gair, ond yn gwbl leisiol yng nghanol gair rhwng dwy lafariad:

beudy ([ˈb̥bəɪdi]) (“cowshed”), mab ([mɐːbb̥]) (“son”), anniben (ɐnˈiˑbɛn]) (“untidy”)

Fodd bynnag, yn y papur or’r enw ‘Northern Welsh’, penderfynwyd gwahaniaethu rhwng y ddwy set o ffrwydrolion hyn fel anadlog vs dianadl (Bell, 2023).

Yn nhafodieithoedd y Gogledd, mae’r ffrwydrolion gorfannol yn ddeintiol: /t̪/, /d̪/.

/r/

Mewn Cymraeg cyfoes, gall y tril gorfannol /r/ gael ei sylweddoli gan sawl allffon, ac mae rhai siaradwyr hyd yn oed yn ynganu /r/ fel y ffrithiolen wfwlar leisiol [ʁ]. Ond rhaid pwysleisio mai perthyn i ideolect unigol siaradwyr y mae’r nodwedd hon, ac nad yw’n allffon o’r iawn ryw. Gan hynny, mae gan /r/ ddwy brif allffon: [r] a [ɹ]. Digwydd [r] rhwng llafariaid fel yn bara ([ˈbɐˑrɐ]), ond fel [ɹ] yn dilyn y ffrwydrolion gorfannol: tref ([tɹ̥ɹeː(v)]), godro ([ˈɡɔdɹo]). Mae hyn yn arbennig o wir yn achos tafodieithoedd deheuol; yn nhafodieithoedd gogleddol, clywir [r], gan fod [t] a [d] yno’n ddeintiol. Ar ôl dweud hynny, ynaml iawn, clywir y tap gorfannol [ɾ] gan gyn-ddigyblion ysgolion dwyieithog yn Ne-ddwyrain Cymru, yn enwedig y rhai o aelwydydd di-Gymraeg.

/r̥/

Fel rheol, cynhyrchir /r̥/ fel [ɹ̥], ond cedwir y sumbol am dril gorfannol gan ei fod yn debyg i’r sumbol orgraffyddol.

Y Treigladau


Y Deuseiniaid
Ceir 13 deusain y Gymraeg. Mae 11 ohonynt yn ffonemig. Yngenir <u, y> fel /ɨ/ yn nhafodieithoedd y Gogledd, ac fel /ɪ/ yn nhafodieithoedd y De.


Gellir lawrlwytho copi PDF yma.

Cyfeirnodau

Awberry, G. (1984). Phonotactic constraints in Welsh. Yn M. B. Jones, Welsh phonolgy: Selected readings (tt. 65-104). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Bell, E. (2023). Northern Welsh. Journal of the International Phonetic Association, 53(2), 53(2), 487-510.

Brake, P. (1980). Astudiaeth o seinyddiaeth a morffoleg tafodiaith Cwm-Ann a'r cylch (Traethawd ymchwil). Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.

Brake, P. (2011). Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau. (7), 9-44. Adferwyd o Gwerddon: https://doi.org/10.61257/AFQJ8335

Hannahs, S. (2013). The Phonology of Welsh. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.

Iosad, P. (2017). The phonologization of redundacy: Length and quality in Welsh vowels. Phonology, 34(1), 121-162.

Williams, B. (1983). Stress in Modern Welsh. Traethawd Ph.D. Prifysgol Caergrawnt.


Darllen Pellach

Jakielski, K.J. a Gildersleeve-Neumann, C. (2023) Phonetic science for clinical practice. Plural Publishing.

Johnson, K. a Johnson, K. (2004) Acoustic and auditory phonetics. Phonetica, 61(1), 56-58.

Knight, R.A. and Setter, J. (goln) (2021) The Cambridge handbook of phonetics. Gwasg Prifysgol Caergrawnt.

Ladefoged, P. (2006) A course in phonetics (Cyfrol 3). Boston: Thomson Wadsworth.

Laver, J. (1994) Principles of phonetics. Gwasg Prifysgol Caergrawnt.

Reetz, H. a Jongman, A., (2020) Phonetics: Transcription, production, acoustics, and perception. John Wiley & Sons.

Zsiga, E.C. (2024) The sounds of language: An introduction to phonetics and phonology. John Wiley & Sons.


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.