Sunday, 25 May 2025

Yr amhersonol mewn Cymraeg llafar

 

Fe’m talwyd.


Yn y Gymraeg, mynegir y stad oddefol mewn dwy ffordd (Thomas, 1996):

1. Y gystrawen oddefol lle mae’r goddrych yn derbyn gweithred y ferf ‘cael’.
2. Terfyniadau berfol diberson (amhersonol).

Dyma ddadansoddiadau o’r ddwy gystrawen hyn:

1. Y gystrawen oddefol

2. 
Y gystrawen amhersonol

Erbyn hyn, yn yr iaith lafar, mae’r defnydd o derfyniadau diberson yn gyfyngedig iawn. Nodir y ffurfiau canlynol yn Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg (Thomas a Thomas, 1989):


Rwy’n gyfarwydd ag awd ar lafar, ac felly, i geisio darganfod beth yw’r sefyllfa ledled y wlad, gofynnais y cwestiwn canlynol yn y grŵp Iaith ar Facebook:

Sut y byddech chi’n cyfieithu’r brawddegau Saesneg canlynol:

1. I was taken to hospital
2. I was brought to hospital
3. I wasn’t taken to hospital
4. I wasn’t brought to hospital

Ffurfiau llafar rwy’n chwilio amdanyn nhw, nid rhai ysgrifenedig, a hoffwn i gael gwybod ble y’u dywedir.

Diolch o galon am eich cydweithrediad ymlaen llaw.
                                                                                            (Brake, 2025)

Da gennyf ddweud i’r holiadur ddenu 36 ymateb, ynghyd â 73 sylw hyd at 20/05/2025. Ond rhaid cydnabod cyfyngiadau holiadur o’r fath; mae yna demtasiwn i gyfranwyr gynnig ffurfiau na fyddent o reidrwydd yn eu defnyddio yn eu harddulliau llafar digymell, ac wedyn, roedd ychydig iawn fel petaent heb ddeall y cwestiwn, gan roi ffurfiau llenyddol pur, e.e. Fe gefais i fy nghludo i’r ysbyty. Ond, ar y cyfan, cefais fy siomi ar yr ochr orau gan yr ymateb.

Ar yr olwg gyntaf, yr hyn a’m synnwyd fwyaf oedd y defnydd amhersonol o’r 3 pers. llu. o’r ferf. Dyma enghraifft gan gyfrannwr o’r Gogledd:

1. Athon nhw â fi i’r sbyty
2. Ddothon nhw â fi i’r sbyty
3. Athon nhw ddim â fi i’r sbyty
4. Ddothon nhw ddim â fi i’r sbyty

Er i chwech o’r cyfranwyr gynnig ffurfiau diberson ar gyfer y frawddeg gyntaf, dim ond un ohonynt a ymatebodd â ffurf ddiberson a adnabuwyd yn Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg (Thomas, 1989), sef awd. Yn ogystal, cafwyd ambell i gystrawen oddefol oedd yn seiliedig ar y ferf ‘cludo’, e.e. Mi ges i’n nghludo i’r ysbyty. Ond, yn y mwyafrif o’r achosion (52.8%), defnyddir ffurf 3 pers. llu. y ferf i fynegi’r amhersonol, e.e. Ethon nhw â fi i’r ysbyty. Euthum ar ôl y cyfrannwr a gynigiodd awd, i’w holi sut y byddai’n negyddu brawddeg o’r fath. Yr ateb a gefais oedd nad oedd yn gyfarwydd â’r defnydd negyddol o’r amhersonol negyddol ar lafar. Dengys Ffig. 1 ddosbarthioad y gwahanol ymatebion yn ôl math.[1]

Ffig. 1:  Dosbarthiad y gwahanol fathau o gystrawen a ddefnyddiwyd i fynegi I was taken to hospital.

I geisio darganfod a oes yna ddosbarthiad daearyddol i’r ymatebion a gafwyd, penderfynais rannu’r ymatebion a gafwyd fel a ganlyn:


1. Ffurf ddiberson dafodieithol
2. Ffurf ddiberson lenyddol
3. Ffurf oddefol dafodieithol
4.  furf oddefol lenyddol
5. 3 pers. llu. amhersonol dafodieithol
6. 3 pers. llu. amhersonol llenyddol

Cynheliais nifer o brofion ystadegol, gan ddefnyddio meddalwedd dadansoddi ystadegau JASP 0.19.3. Dyma’r canlyniadau ar gyfer y pum brawddeg y gofynnwyd i’r cyfranwyr eu cyfieithu:


1.

I was taken to hospital:

χ² = 5.183;

p = 0.952

2.

I wasn’t taken to hospital:

χ² = 1.757;

p = 0.995

3.

I was brought to hospital:

χ² = 4.577;

p = 0.802

4.

I wasn’t brought to hospital:

χ² = 0.839;

p = 0.933

Dengys y canlyniadau hyn nad oes cydberthynas rhwng yr ardal a nodwyd gan y cyfranwyr a’r math o atebion a roddwyd ganddynt, ac felly, gellir bod yn hyderus nad oes a wnelo daearyddiaeth ddim â’r ymatebion a roes y cyfranwyr.

Casgliadau

Mewn arddulliau llafar ffurfiol, sef Cymraeg llenyddol, mynegir y goddefol mewn dwy ffordd wahanol:

(i)  drwy’r gystrawen oddefol; a
(ii) thrwy ddefnyddio terfyniadau berfol diberson arbennig.

Fodd bynnag, dengys canlyniadau’r astudiaeth:

a) fod (ii) fwy neu lai wedi diflannu o iaith lafar yr ymatebwyr;
b) mewn sefyllfaoedd lle nad yw (i) yn bosib—fel, er enghraifft, yn achos berfau anghyflawn a ddilynir gan arddodiaid, fel mynd â—defnyddir ffurfiau’r 3 pers. llu. ‘amhersonol’; ac
c) mae'n debyg nad yw’r ffurfiau diberson sydd wedi goroesi yn iaith lafar rhai o’r cyfranwyr, yn meddu ar ffurfiau negyddol.

Gellir lawrlwytho copi PDF or papur hwn yma.

Cyfeirnodau

Brake, P. (2025, Mai 15). Iaith. Adferwyd Mai 20, 2025 o Facebook: https://tinyurl.com/5c2t2c67

Thomas, P. W. (1989). Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg...: Cyflwyno’r Tafodieithoedd. Caerdydd: Gwasg Taf.

Thomas, P. W. (1996). Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.


-------------------------------------------------------------------------

[1] Byddai hi wedi bod yn ddiddorol cynnal yr un profion ar newidynnau cymdeithasol earill, fel oedran ac addysg, ond nid oeddwn am rwystro pobl rhag ymateb.

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.