Tuesday, 27 May 2025

Marcwyr agwedd neu farcwyr amser?


Yn y Gymraeg, mae dau brif farciwr agwedd:
  1. y marciwr agwedd parhaus (“progressive aspect”): yn.
  2. y marciwr agwedd perffeithiol (“perfective aspect”): wedi.

Mae yn yn mynegi’r agwedd barhaus heb ffiniau pendant, tra bo wedi yn mynegi’r agwedd berffeithiol sy’n cyfeirio at weithred sydd wedi ei chwblhau neu sydd â ffiniau pendant. Dadleuir y gall geiriau eraill weithredu fel marcwyr agwedd. Dyma a ddywedir yn Gramadeg y Gymraeg:

                                                                                                                        
(Thomas, 1996)

Defnyddir y term ‘ategydd berfol’ i ddisgrifio yn agweddol yn Gramadeg Cymraeg hefyd (Thorne, 1996).

Fodd bynnag, mae dadansoddiad arall yn bosib. Mae modd dadlau fod yr ‘ategion’ a restrir uchod yn gweithredu fel arddodiaid amserol neu ynteu fel marcwyr amserol, nid ‘marcwyr amser’, ac mai dim ond y ffaith eu bod nhw’n gallu rhagflaenu berfenw yn y gystrawen gwmpasog sy’n rhoi’r argraff mai marcwyr amser ydyn nhw.

Y rhesymeg tu ôl i’r dehongliad hwn yw nad yw’r geiriau a adweinir fel marcwyr agwedd yn y Gymraeg, yn cael eu dehongli felly mewn ieithoedd eraill. Er enghraifft, yn y Saesneg, mae nearly—sy’n cyfateb i bron â—mewn brawddeg fel: I have nearly finished writing (“Dw i bron â gorffen ysgrifennu”) yn cael ei ystyried yn adferf sy’n dynodi gradd (“degree adverb”). Gan hynny, onid gwell ystyried yr ‘ategion’ uchod yn arddodiaid amserol, neu’n farcwyr amser, yn hytrach na marcwyr agwedd?

Amwysedd ‘newydd’
Gan mai ansoddair yw newydd, nid yw’n rhagflaenu berfenwau fel rheol, ac felly, awgrymaf y dylid ei ystyried yn farciwr agwedd o’r iawn ryw[1]. Dwy ddadl o blaid hyn yw fod newydd yn: (i) rhagflaenu berfenw yn y gystrawen gwmpasog; a (ii) mae’n disodli yn neu wedi. Ymhellach, gan na all dau arddodiad gydfodoli yn yr un safle syntactig, mae’r ‘ategion’ a nodir yn y rhestr uchod hwythau’n disodli yn ac wedi. Cymharer y tair brawddeg ganlynol:
  1. Mae’r awdur yn dechrau ysgrifennu.
  2. Mae’r awdur ar ddechrau ysgrifennu.
  3. Mae’r awdur (yn eistedd) wrth ddesg.

Er bod yn yn gweithredu fel marciwr agwedd yn (1), yr unig wahaniaeth rhyngddo ac  arddodiaid gofodol eraill yw nad yw’n achosi treiglad.

Er gwybodaeth. yng Ngaeleg yr Alban, mae’r adferf dìreach yn cyfateb i newydd agweddol yn y Gymraeg. Cymharer y brawddegau canlynol:

  1. Tha mi air sgrìobhadh. (“Dw i wedi ysgrifennu.”)
  2. Tha mi dìreach air sgrìobhadh. (“Dw i newydd ysgrifennu.”)

Mae’r GyrA air yn cyfateb i’r Cym. wedi, ac mae’n marciwr agwedd o’r iawn ryw. Ond cyfetyb dìreach i’r Saes. just: I have just written.

Cyfeirnodau

Thomas, P. W. (1996). Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Darllen Pellach
Quirk, R., Greenbaum, S., Leech, G.N. and Svartvik, J. (1972). A grammar of contemporary English. Llundain: Longman.
Williams, S.J. (1959). Elfennau Gramadeg Cymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

Gellir lawrlwytho'r PDF o'r papur hwn yma.

--------

[1] 
Arddodiad yw wedi, ond ansoddair yw newydd. Diddorol nodi y defnyddir yr un gair i fynegi’r presennnol perffaith uniongyrchol yn y Llydaweg hefyd: Dw i newydd glywed. (Cymraeg); Klevet em eus nevez a zo. (Llydaweg).

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.