Tuesday, 27 May 2025

Ddim o

Weles i ddim ohono fe!
Gwrthrych pendant
Mewn Cymraeg Llafar Ysgrifenedig, negyddir berf seml (ffurfdroëdig) a chanddo wrthrych pendant â dim o:

Welais i ddim ci. (“I didn’t see a dog.”) (amhendant)
Welais i ddim o’r ci. (“I didn’t see the dog.”) (pendant)

Goddrych pendant
Yn nhafodieithoedd De-orllewin Cymru, yn y presennol, ceir ffurfiau personol negyddol arbennig sy’n seiliedig ar dim o. Efallai mai’r paradeim canlynol yw’r un mwyaf adnabyddus erbyn hyn:

Talfyriad o does dim o yw sa, so: does dim ohona i. Er mwyn creu goddrych gyda dim o, rhaid defnyddio ffurf 3 pers. un. y ferf, sef oes yn yr achos arbennig hwn:

Does dim ohona i’n gwybod. (“Dw i ddim yn gwybod.”)

Ar lafar yng Ngheredigion, clywir sdimo, sy’n debyg iawn i’r gystrawen wreiddiol:

Sdim o fi’n gwbod. (“Dw i ddim yn gwybod.”)

Yn rhai o dafodieithoedd Sir Benfro, ymestynnir y gystrawen hon i’r amser gorffennol:

Daw wena i o dŵedd dim ohona i, sydd yn ei dro, yn dod o doedd dim ohona i.

Yn rhai o dafodieithoedd Ceredigion, gellir ffurfio negyddol y stad oddefol yn yr un ffordd: Ga’th ddim o fi yn nal.(“I wasn’t caught”). Dyma’r paradeim:


No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.