Tuesday, 8 April 2025

Pam y mae Germaneg mor wahanol i Gelteg ac Italeg?

Ysgrifen rwnig hynafol

Oddi mewn i deulu ieithoedd Indo-Ewropeaidd, rhoir y tri grŵp gorllewinol, sef Celteg, Germaneg ac Italeg, gyda’i gilydd. Maen nhw ill tair yn cael eu hystyried yn ieithoedd centum (Wikipedia, 2025). Ac eto, mae datblygiadau seinyddol y Germaneg yn wahanol iawn i’r ddau arall. Er eu bod nhw’n rhannu llawer o eirfa â’i gilydd, mae rhai’n credu mai yn y grŵp Balto-Slafeg y dechreuodd hi. Y prif reswm am hyn yw’r ffaith i wledydd Germanaidd cyfoes feddu ar gymysgedd o R1b ac R1a fel eu prif haplo-grwpiau Y-DNA: 

Proto-Germanic language probably developed as a blend of two branches of Indo-European languages, namely the Proto-Balto-Slavic language of the Corded-Ware culture (R1a-Z283) and the later arrival of Proto-Italo-Celto-Germanic people from the Unetice culture (R1b-L11). This is supported by the fact….that Proto-Germanic language is closest to Proto-Italo-Celtic, but also shares similarities with Proto-Slavic. (Hay, History of R1a - The Germanic branch, 2021)


Credir mai R1a oedd yr haplo-grŵp mwyaf cyffredin ymhlith y llwythau Proto-Indo-Ewropeaidd gogleddol a dwyreiniol, a droes yn nhreigl amser yn bobloedd Balto-Slafaidd ac Indo-Iranaidd. Yn Ewrop, mae’n gysylltiedig â’r diwylliant Nwyddau Cnotiog (“Corded Ware culture”) (c. 3000-2350 cog) (Wikipedia, 2025). Gwelir ffiniau ardal y diwylliant Nwyddau Cnotiog yn Ffig. 1. Fodd bynnag, mae’n debyg i goedwigoedd gogleddol anhreiddiadwy rwystro symudiad R1a i’r gorllewin, tra bu i R1b gyrraedd gorllewin Ewrop gyda disgynyddion bugeiliaid Yamnaya trwy Wastadedd Canolbarth Ewrop.

Ffig. 1 - Ffiniau ardal y diwylliant Nwyddau Cnotiog

Ar y llaw arall, cysylltir Celteg ac Italeg â’r diwylliant Bicer Gloch (“Bell Beaker culture”) (c. 2800-1800 cog) (Wikipedia, 2025) (gw. Ffig. 2).

Ffig. 2 - Ffiniau ardal y diwylliant Bicer Gloch


Y gred ymhlith ysgolheigion Indo-Ewropeg yw i Broto-Germaneg ymddangos yn ystod Oes yr Haearn rhwng c. 500 cog a c. 500 og (Wikipedia, 2025). Ond, mwy na thebyg, mae hi’n mynd yn ôl i o leiaf yr Oes Efydd Nordig (c. 1800-500 cog) (Wikipedia, 2025). Adnabuwyd 173 o eiremau (“lexemes”) Proto-Indo-Ewropeg a rennir rhwng Celteg a Germaneg yn unig. Dengys hyn yn glir fod rhyngweithio dwys rhwng y ddau grŵp iaith yn ystod Oes yr Efydd. Yn ogystal, mae project RAW yn pwyntio tuag at y defnydd o ryw ffurf ar Broto-Indo-Ewropeg fel iaith fasnach o gwmpas arfordir Môr yr Arfordir, yn enwedig rhwng Llychlyn, Prydain a Gogledd-orllewin Iberia a allasai droi’n Gelteg (Koch, 2020).

Beth yw’r dystiolaeth ieithyddol sy’n rhoi Germaneg yn yr un grŵp o ieithoedd Indo-Ewropeaidd â Chelteg ac Italeg? Dengys Tabl 1 eiriau cytras rhwng Celteg, Italeg, Germaneg a Balto-Slafeg, i geisio adnabod pa grwpiau sydd agosaf at ei gilydd.

Tabl 1 – Geiriau cytras mewn Celteg, Italeg, Germaneg a Balto-Slafeg


Yn ogystal â bod yn gytras âi gilydd, ac felly y gellir eu holrhain yn ôl i Broto-Indo-Ewropeg, maen nhw wedi dilyn newidiadau cyson o fewn eu grwpiau iaith penodol eu hunain. Cyn belled ag y mae Germaneg yn y cwestiwn, bu newidiadau sain sylweddol iddi, fel Rheolau Grimm, gan ei gwahaniaethu oddi wrth Italeg a Chelteg, ond mae hefyd yn rhannu nodweddion â Balto-Slafeg. Dyma rai enghreifftiau nodedig o’r newid hwn:

  • Y Saesneg hundred o’r PIE *ḱm̥tóm, cf. y Cymraeg cant a’r Lladin centum.
  • Y Saesneg hail (“cyfarch”) o’r PIE *ḱel- (“to call”), cf. y Lladin calāre (“cyhoeddi”) neu’r Groeg καλέω (kaléō) (“galwaf”).
  • Y Saesneg horn o’r PIE *ḱer- (“corn, pen”) fel yn y Lladin cornu a’r Sansgrit śṛṅga (“corn”).

Fel y dywedwyd eisoes, y consensws cyffredinol ymhlith ysgolheigion Indo-Ewropeg yw i Broto-Germaneg ddod i’r amlwg c. 500 COG i 500 OG, felly mae'n debyg i’r shifft *> *h ragddyddio’r cyfnod hwn, gan ddigwydd o bosib rhwng 1000 cog a 500 og.

Mae satemeiddio yn digwydd mewn Balto-Slafeg ac Indo-Iraneg. Credir i’r newidiadau satem, fel * yn troi’n *ś or *s, ddigwydd yn gynharach na’r newidiadau mewn Germaneg. Mae'r newidiadau hyn yn gysylltiedig â’r camau Proto-Indo-Iranaidd a Phroto-Balto-Slafaidd, yr amcangyfrifir eu bod wedi bodoli oddeutu 2000  i 1500 cog.

Ymddengys i Germaneg gael ei thynnu i mewn i orbit PIE Gogledd-orllewinol yn ystod Oes yr Efydd, neu tybed a allai’r newidiadau sain a welwyd mewn Germaneg, ynghyd â’r tebygrwydd cystrawennol rhwng Germaneg a Balto-Slafeg, fod yn is-haen Broto-Balto-Slafaidd mewn gwirionedd? Mae rhai ieithyddion wedi sylwi ar y tebygrwydd rhwng rhai agweddau ar gystrawen ieithoedd Germaneg (megis aliniad gweithredus-deublyg berfau, trefn geiriau) ac ieithoedd Balto-Slafeg. Er enghraifft, unwaith y troes gair fel PIE *ḱm̥tóm (“cant”) yn, dyweder Sansgrit satem śatam, cam bach yn unig fyddai troi’n Broto-Germaneg *hundą, ac ymhen amser, yn hundred Saesneg (o’r Proto-Germaneg *hundaradą (o *hundą + *rada̜ (“rhifo”)), cf. yr /h/ ar dechrau’r Cymraeg haf o’r Proto-Gelteg *samos, ond cedwir Proto-Gelteg *s yng Ngaeleg yr Alban samhradh ([sãʊ̃rəɣ]). Os derbynnir mai canlyniad mabwysiadu iaith fasnach oedd yn seiliedig ar PIE Gogledd-orllewinol oedd tarddiad Celteg, pam na allasai’r un peth ddigwydd yn y Baltig, yn enwedig ac ystyried y cysylltiadau masnachol a diwylliannol agos ar hyd arfordir Môr yr Iwerydd? Ond byddai’r faith mai siaradwyr Balto-Slafeg oedd pobloedd y Baltig wedi effeithio’n drwm ar y math o PIE Gogledd-orllewinol a ddatblygai yno.

Gellir lawrlwytho PDF or papur hwn yma.

Cyfeirnodau

Hay, M. (2009). Genetics. Adferwyd o Eupedia: https://www.eupedia.com/europe/neolithic_europe_map.shtml

Hay, M. (2021, Ionawr). History of R1a - The Germanic branch. Adferwyd Ebrill 4, 2025 o Eupedia: https://www.eupedia.com/europe/Haplogroup_R1a_Y-DNA.shtml

Koch, J. (2020). Celto-Germanic - Later Prehistory and Post-Proto-Indo-European vocabulary in the North and West. Adferwyd o Cronfa Ymchwil Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: https://repository.uwtsd.ac.uk/id/eprint/1543/1/JK4.pdf

Wikipedia. (2025, Ebrill 4). Bell Beaker culture. Adferwyd Ebrill 5, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Bell_Beaker_culture

Wikipedia. (2025, Ionawr 12). Centum and satem languages. Adferwyd Ebrill 4, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Centum_and_satem_languages

Wikipedia. (2025, Ebrill 4). Corded Ware culture. Adferwyd Ebrill 5, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Corded_Ware_culture

Wikipedia. (2025, Ebrill 2). Nordic Bronze Age. Adferwyd Ebrill 5, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Nordic_Bronze_Age

Wikipedia. (2025, Mawrth 14). Proto-Germanic language. Adferwyd Ebrill 6, 2025 o Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Proto-Germanic_language

 


[1]  Craidd yw'r gair Cymraeg cytras, o’r Proto-Gelteg *cridyom, or PIE *ḱḗr-.

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.