Pam y mae treiglad yn yr arwydd hon gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd?
Yr arfer, yn y Gymraeg, wrth gyfarch rhywun, neu rywbeth, yw
treiglo’r enw, e.g.
Foneddigion a boneddigesau....
Helo bawb!
Bore da blantos!
Farwél bleserau darfodedig.
Yn hanesyddol, canlyniad treiglad cywsllt yn dilyn hen
eirynnau cyfarchol fel ha, och a o yw’r treiglad
presennol:
Ha ŵyr ardderchog!
Och Fair fyw farw y ferch fwyn.
O Dduw yr wyf yn diolch iti
Yn hyn o beth, mae’r Gymraeg yn wahanol i’r ieithoedd Goedeleg
fel yr Wyddeleg neu Aeleg yr Alban, lle cedwir nid yn unig y geiryn cyfarchol a ond hefyd y cyflwr cyfarchol[1],
e.g.
Madainn mhath, a Sheumais! [ˈmatiɲ vɑː ə ˈheˑmɪʃ] (“Bore da, Siâms!”)
o Seumas
[ˈʃeˑməs]
Ceir trafodaeth lawn o’r treiglad cyfarchol yn Y
Treigladau a’u Cystrawen (tt. 415-18) gan T.J. Morgan, sef tad y diweddar
Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru.
[1] Ceir llawer o gyflyrau mewn ieithoedd clasurol fel y Lladin lle mae newid terfyniad gair yn newid ei berthynas â geiriau eraill. Ceir pedwar cyflwr yn y Lladin: (i) enwol (nominative); (ii) gwrthychol (accusative); (iii) arddodiadol (dative); (iv) genidol (genitive); (v) abladol (ablative). Ceir pedwar cyflwr yng Ngaeleg yr Alban: (i) enwol; (ii) cyfarchol; (iii) genidol; (iv) arddodiadol. Ceir dau gyflwr yn y Saesneg: (i) enwol; (ii) genidol. A dim ond y cyflwr enwol a geir yn y Gymraeg.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.