Monday, 23 January 2023

Dillad bob dydd v. dillad pob dydd

 

Rhagair

Yn dilyn cwestiwn a ofynnwyd yng y grŵp Gramadeg y Gymraeg ar Facebook ym mis Ionawr, 2023, ynglŷn ag a ddylid treiglo pob mewn ymadrodd enwol fel dillad bob dydd (Jones, 2023), cafwyd un sylw mai da o beth fyddai ceisio pennu a oes unrhyw arwyddocâd daearyddol i’r dosraniad a ddaeth i’r amlwg. Gwyddwn i’r grŵp Iaith ar Facebook gael ei sefydlu i edrych i mewn i ddosraniad geiregol yn y Gymru gyfoes (Rhys, 2020). Mae gan y grŵp Iaith 15,500 o aelodau. Felly, meddyliais mai da o beth fyddai gofyn am eu help nhw yn hyn o beth.

Methodoleg

Ysgrifennais bost yn y grŵp ‘Iaith’ ar Facebook (Brake, 2023), yn gofyn y cwestiwn hwn:

Yn dilyn cwestiwn a ofynnwyd yng y grŵp Gramadeg y Gymraeg, hoffwn i gael gwybod a fyddech chi’n dweud dillad pob dydd neu ynteu dillad bob dydd. Cofiwch nodi ble, os gwelwch yn dda! Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad.[1]

Gan wybod fod diddordeb pobl mewn postiau Facebook yn gallu pylu’n gyflym iawn, penderfynais gau ymateb i’r post ar ôl dau ddiwrnod.

Ar gyfer yr astudiaeth dan sylw, penderfynwyd rhannu’r ymatebwyr yn fras yn rhai o’r Gogledd a rhai o’r De. Defnyddiwyd ffin ogleddol Ceredigion fel y ffin rhwng y Gogledd a’r De, gan ei bod hi’n gweithredu fel isoglos i lawer o nodweddion yr ystyrir eu bod yn rhannu tafodieithoedd gogleddol y Gymraeg oddi wrth rai’r De. Yr hypothesis yw nad oes cydberthynas rhwng y defnydd o dillad bob dydd v. dillad pob dydd a man geni/magwraeth yr ymatebwyr.

Canlyniadau

Dros gyfnod o ddau ddiwrnod, cafwyd 79 o ymatebion yn gyfan gwbl oddi wrth 51 o ymatebwyr. Yn anffodus, ni lwyddwyd i adnabod lleoliad dau ohonynt, ac felly, fe’u diystyriwyd.

O ran dillad bob dydd v. dillad pob dydd, dywedodd 39 (84.78%) o’r ymatebwyr eu bod yn dweud dillad bob dydd o’u cymharu â 7 (15.22%) a ddywedodd eu bod yn dweud dillad pob dydd.

O’r 24 o ymatebwyr o’r Gogledd, dywedodd 20 (83.33%) eu bod yn dweud dillad bob dydd o’u cymharu â 4 (16.67%) a ddywedodd eu bod yn dweud ddillad pob dydd. O’r 22 o ymatebwyr o’r De, dywedodd 19 (86.36%) eu bod yn dweud dillad bob dydd o’u cymharu â 3 (13.64%) a ddywedodd eu bod yn dweud ddillad pob dydd. Dengys Tabl 1 ganlyniadau’r holiadur.

Tabl 1: Dosbarthiad yr ymadrodd ‘dillad bob dydd’ v. ‘dillad pob dydd’

Dengys Ffig. 1 yr un wybodaeth ar ffurf graff.

Fig. 1: Dosbarthiad yr ymadrodd ‘dillad bob dydd’ v. ‘dillad pob dydd’


Dengys Tabl 2 ddosraniad daearyddol dillad bob dydd v. dillad pob dydd.

Tabl 2: Dosraniad daearyddol ‘dillad bob dydd’ v. ‘dillad pob dydd’


Mae’r canlyniadau mor debyg nad yw’n edrych fel petai gwahaniaeth arwyddocaol rhwng patrwm y Gogledd ag un y De. Ond, i fod yn gwbl sicr, cynhaliwyd dadansoddiad ystadegol â phrawf-t samplau annibynnol. Dengys Tabl 3 y canlyniadau.


Mewn ystadegau, cydnabyddir fod p < 0.05 yn dynodi gwahaniaeth arwyddocaol. Nid yw canlyniad y profion-t uchod, sef p = 0.78 a p = 0.79, yn dod yn agos at hynny. Felly, gellir bod yn hyderus iawn nad oes a wnelo man geni/magwraeth—ac felly dafodiaith—â dosraniad dillad bob dydd v. dillad pob dydd.

Casgliadau

Mae dosraniad dillad bob dydd v. dillad pob dydd yn diddorol. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl a ymatebodd yn reddfol yn dewis dillad bob dydd, er bod synnwyr cyffredin yn dweud nad oes angen treiglad ar ôl enw lluosog. Fe geisiais i fy ngorau glas i esbonio pam, yn fy marn i, mai dillad bob dydd yw’r dewis gorau. Ond rwy’n credu mai’r esboniad cryno canlynol, gan aelod profiadol iawn o’r grŵp Gramadeg y Gymraeg sy’n haeddu’r wobr gyntaf:

Dillad bob dydd.... oherwydd…. ein bod ni’n eu gwisgo.... bob dydd!

Prif ganlyniad yr ymchwiliad cyflym hwn yw nad oes cydberthynas rhwng dosraniad dillad bob dydd v. dillad pob dydd a lle mae dyn yn byw. Ond, gan fod y sampl mor fach, ni ellir honni ei bod hi’n ddiffiniadol.

Yn olaf, rhaid cofio mai ymadrodd eithaf diweddar yw’r un dan sylw, ac roedd pobl, gan gynnwys awdur y papur hwn, yn arfer defnyddio geiriau eraill i ddisgrifio dillad hamdden, a bod rhai yn dal i wneud.

Diolchiadau

Hoffwn ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd at y mini-ymchwiliad hwn.

Phyl Brake

Ionawr 2023

Cyfeiriadau

Brake, P. (2023) Gramadeg y Gymraeg. Ionawr, 17. Facebook. Ar gael o: https://www.facebook.com/groups/413517082015337/search/?q=Adferfau%27n%20gweithredu%20fel%20ansoddeiriau%20-%20holiadur (wedi ei gyrchu 23/01/2023).

Jones, L. (2023) Gramadeg y Gymraeg. Iaith. Ionawr, 17. Facebook. Ar gael o: https://www.facebook.com/groups/1460386087511688/search/?q=dillad%20bob%20dydd (wedi ei gyrchu ar 23, Ionawr, 2023).

Rhys, G. (2020) Amrywiaith – Blas ar dafodieithoedd Cymru. Gwasg Carreg Gwalch. Llanrwst.

Gellir lawrlwytho'r PDF yma.

--------

[1]  Er mai dillad bob dydd v. dillad pob dydd y gofynnwyd amdano, cafwyd yn ogystal dri phosibiliad arall: (i) dillad dwetydd [ˈdɪɬad ˈdweˑtɪð]; (ii) dillad chwarae [ˈdɪɬad ˈχwɑˑrä]; a (iii) dillad gwisgo [ˈdɪɬad ˈgwɪsgo].

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.