1. Y presennol perffaith
i) Defnyddir
y presennol perffaith i sôn am brofiadau bywyd, h.y. os ydych chi wedi gwneud rhywbeth
neu beidio, e.e.
“Ydych chi wedi darllen Enoc
Huws gan Daniel Owen?”
“Nac ydw. Dw i erioed
wedi darllen nofel gan Daniel Owen.”
Yma nid pryd y
digwyddodd y weithred sy’n bwysig – dim ond y ffaith eich bod wedi darllen
y nofel.
ii) Defnyddir
y presennol perffaith i sôn am bethau a ddigwyddodd yn y gorffennol, ond eu bod yn dal yn berthnasol, e.e.
“Dw i wedi gwneud
teisen iti.”
Digwyddodd y
weithred o wneud y deisen yn y gorffennol, ond dyma hi nawr.
“Dw i wedi torri fy mys.” (Ac mae’n dal i waedu nawr.)
2. Y gorffennol
syml
Os am ddweud pryd
y digwyddodd rhywbeth yn y gorffennol, mae angen defnyddio’r gorffennol syml, e.e.
“Aethon nhw i Gypres ar
eu mis mêl.”
“Pryd yr aethon nhw ar eu
mis mêl?”
“Aethon nhw ar eu mis mêl
llynedd.”
Mae’n bosib defnyddio’r
presennol perffaith a’r gorffennol syml mewn sgwrs fel yr un fel a ganlyn:
“Wyt ti erioed wedi bod
ym Mharis?”
“Ydw. Es i i Baris yn
2010.”
3. Ymadroddion
amser anorffenedig
Mae’n
bosib defnyddio adferfau amser fel y bore ’ma, heddiw, heno, yr
wythnos hon, y mis hwn, eleni, y ganrif hon,
a.y.b., gyda’r presennol perffaith os ydys yn dal yr
un ffrâm amser. Ymadroddion amser anorffenedig y gelwir adferfolion o’r fath. Er
enghraifft, mae’n bosib dweud:
Wyt ti wedi bod yn y gampfa heddiw?
sy’n awgrymu fod amser ar ôl i fynd i’r gampfa heddiw. Ar y llaw arall, mae:
Est ti i’r gampfa heddiw?
yn awgrymu ei bod hi’n rhy hwyr i fynd i’r gampfa heddiw bellach.
Golyga hyn oll nad yw adferfol fel, y bore ma, ond yn ymadrodd amser anorffenedig yn ystod bore heddiw. Er enghraifft, mae’n bosib dweud:
Dw i
wedi gwneud llawer o waith y bore ’ma.
am 11 y.b., ond
Gwnes i
lawer o waith y bore ’ma.
am, dyweder, 1 y.p. Os sonnir am rywbeth a ddigwyddodd yn gynharach na heddiw, rhaid defnyddio’r gorffennol syml, e.e.
“Gwnes i lawer o waith ddoe,” ✔
“Dw i wedi gwneud llawer o
waith ddoe.” ✖

Cefais ysbrydoliaeth am yr eitem hon gan y fideo yma ar YouTube.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.