Wednesday, 5 October 2022

Y fannod (y/yr/’r)

Mae yna dair ffurf ar y fannod yn y Gymraeg:

             yr, y, ’r

(i)  Y ffurf lawn yw yr

Mae hon yn digwydd:

a)   O flaen llafariad:

            yr afon, yr enw, yr afal, yr eryr

b)  O flaen deusain:

            yr aur, yr eira, yr oen, yr Wyddfa, yr wy, yr iaith

c)   O flaen <h>:

            yr haf, yr heol, yr haul

(ii) Ceir <y> rhwng dwy gytsain, neu ynteu rwng cytsain ac w-gytsain:

            Ffald-y-brenin, Pen-y-bryn, Tal-y-bont, wrth y wal, ymyl y cae, yn y wlad

Fel arfer, ceir ’r ar ôl geiriau sy’n gorffen â llafariad:

            dwylo’r ferch, tŷ’r prifathro, propaganda’r llywodraeth

Y Treiglad Meddal ar ôl y Fannod

Mae naw cytsain sy’n treiglo’n feddal:


Cytsain Gysefin

Treiglad

 p

t

c

b

d

g

ll

m

rh 

 b

d

g

f

dd

-

l

f

(i)  Pan ddaw’r fannod o flaen enw benywaidd unigol, treiglir dechrau’r enw yn feddal:

pont > y bont

torth > y dorth

cyllell > y gyllell

buwch > y fuwch

dafad > y ddafad

gardd > yr _ardd

gŵyl > yr _ŵyl

gwên, y _wên

mam > y fam;

tref > y dref

***PWYSIG***

Nid yw <ll> a <rh> yn treiglo ar ôl y fannod mewn geiriau benywaidd unigol:

               y llong, y llaw, y lleuad, y rhaff, y rhaw

Mae llawer o enwau lleoedd a mynyddoedd yn enwau benywaidd unigol ac, felly, maen nhw’n treiglo ar ôl y fannod:

            Y Bont-faen, Y Fan Fach, Y Felinheli, Y Waun, Yr Wyddfa

Yn aml iawn, erys y treiglad er bod y fannod yn diflannu:

            Dre-fach, Felin-fach, Felindre, Efail-wen, Gilfach Goch, Gors-goch, Waun-fawr, Waun-lwyd

Yn achos yr enw torfol benywaidd pobl, ceir treiglad rheolaidd, y bobl, a cheir treiglad afreolaidd yn y lluosog, y bobloedd (gan nad yw enwau lluosog yn treiglo ar ôl y fannod fel rheol).

(ii)    Mae dau a dwy yn treiglo ar ôl y fannod:

            y ddau ddyn, y ddwy ferch, y ddau le ar bymtheg

(iii)   Nid yw’r rhifolion, ac eithrio dau a dwy, yn treiglo ar ôl y fannod:

            y can punt, y deg adnod, y pedair gwlad, y tair gwraig, y pum heol

***PWYSIG***

Ond treiglir y trefnolion, pan fyddant yn fenywaidd:

            y drydedd bennod, y bedwaredd flwyddyn, y bumed adnod, y ddegfed salm, y ddeuddegfed _wers

 

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.