Yn ddiweddar cefais gwestiwn gan ddysgwr oedd am wybod pam nad yw ffurf 3 pers. y ferf yn newid yn ôl rhif pan fo ymadrodd enwol yn gweithredu fel goddrych y ferf. Dyma gyfieithiad o’m hesboniad i.
Iaith analytig[i] yw’r Gymraeg, a chanddi drefn geiriau sefydlog, ond mae'n dal i gadw nodweddion synthetig[ii] fel ffurfiau berf personol. Cymerwch y gorffennol syml er enghraifft, sy'n cael ei ffurfio gan fôn y ferf + ôl-ddodiad personol:
Un.
1. ateb- + -ais (i) (“I answered”)
2. ateb- + -aist (ti) (“you answered” (cyf.))
3. ateb- + -odd (e/o; hi) (“he; she; it answered”)
Ll.
1. ateb- + -(s)on (ni) (“we answered”)
2. ateb- + -(s)och (chi) (“you answered”)
3. ateb- + -(s)on (nhw) (“they answered”)
Mae hyn yn iawn pan mai rhagenw yw’r goddrych, ond os ymadrodd enwol ydyw, nid yw’r Gymraeg yn gwahaniaethu rhwng unigol a lluosog:
i) Atebodd y derbynnydd y ffôn. (un.)
(“The receptionist answered the phone.”)
ii) Atebodd y derbynyddion y ffonau. (ll.)
("The receptionists answered the phones.")
Ymddengys mai datblygiad ‘cyfoes’ yw hyn, gan fod y sefyllfa’n fwy cymhleth mewn Gymraeg Canol:
A phan ordiweddassant y llu neur disgynnasai Arthur a’e lu y kedyrn od is Kaer Vadon.[iii]
(“And when the host caught up, Arthur and his mighty host descended beneath Caer Faddon.”)
(o Breuddwyd Rhonabwy yn Llyfr Coch Hergest (1382-1410)
Yn y pen draw, mae’n debyg mai dyma enghraifft o gysoni’r iaith, fel y digwyddodd gyda rhifolion.[iv]
Gellir lawrlwytho'r postiad hwn yma.
====
[i] Iaith analytig yw iaith y mae ei gramadeg yn cael ei fynegi’n bennaf drwy eiriau ar wahân, mewn trefn geiriau penodol. Er enghraifft, cydnabyddir y Gymraeg fel iaith VSO (berf + goddrych + gwrthrych.
[ii] Iaith synthetig yw iaith y mae ei gramadeg yn cael ei fynegi drwy ffurfdroadau, ac nad oes ganddi drefn geiriau penodol. (Ar ôl dweud hynny, cydnabyddir y Lladin fel iaith SOV (gwrthrych + gwrthrych + berf), gan mai dyna’r drefn geiriau mwyaf cyffredin.
[iii] Yma trinnir llu (“host”) fel enw lluosog, ac felly, ceir ffurf y 3 pers. ll.: -assant.
[iv] Mewn Cymraeg Canol, roedd llawer o enwau’n meddu ar ffurfiau rhifyddol (“numerical”). Am wn i, mewn Cymraeg cyfoes, dim ond blwyddyn sy’n meddu ar ffurf rifyddol:
un flwyddyn; dwy flynedd, tair blynedd, pedair blynedd, pum mlynedd, a.y.b.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.