Monday, 1 September 2025

Dirgelwch Mynydd Cellan


Nid yw’r postiad hwn yn ymwneud â gramadeg yn uniongyrchol, ond mae a wnelo â’r iaith Gymraeg yr un peth, gan mai'r Gymraeg fyddai iaith y bobl a drigai, ac a weithiai, yn y safle a drafodir yma.

Ers imi gerdded llwybrau Mynydd Cellan, Ceredigion (rhwng Dyffryn Teifi a Chwm Twrch, Cynnwyl Caeo, Sir Gaerfyrddin), gyntaf, fe’m cyfareddwyd gan adfeilion setliad bychan sy’n guddiedig oddi mewn i ‘lannerch’ o goed collddail yng nghanol y blanhigfa goed fytholwyrdd. Dyma rai lluniau o’r safle:



Er ei fod yn edrych fel pentre bach, mae archaeolegwyr yn mynnu mai ffermdy oedd Esgair Fraith a chanddo lawer o dai allanol mewn rhes! Fel rhywun o Gymoedd De Cymru, mae'r adeiladau hyn yn fy atgoffa i o dai teras hen ffasiwn:

Mae'r ffaith fod pob un ohonyn nhw'n meddu ar simnai ac aelwyd yn ategu'r ddamcaniaeth hon.

Gellir lawrlwytho'r papur cyfan yma.



No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.