Ar wahân i’r cytseiniaid a ddynodir gan ddwy graffem:
dim ond dwy lythyren sy’n cael eu dyblu yn y Gymraeg, sef <n> ac <r>, a hynny yn bennaf pan fyddan nhw’n digwydd rhwng y goben a’r sillaf olaf mewn gair lluosill.
Eithriad: tyn > tynn (wrth dreiglo, e.e. ‘yn dynn’), ynn
DYBLU <n>
Mae <n> yn cael ei dyblu dan yr amgylchiadau canlynol:
1. Yn y goben ar ôl llafariad fer:
cannu, diflannu, ffynnu, mynnu, pennu, tennyn, tynnu, synnu, a.y.b.
Eithriadau:
(i) crynu, penderfynu, prynu (lle mae’r gytsain yn ‘hanesyddol’ hir)
(ii) menyn (lle mae’r llafariad yn dal yn hir mewn rhai tafodieithoedd cyfoes)
(iii) lle mae deusain ddisgynedig yn y goben (sydd bob amser yn hir):
llwyni, meini, poeni, taenu, a.y.b.
(iv) lle ceir cytsain o flaen yr <n>:
llwydni, partner, trefnus, a.y.b.
2. Yn y sillaf gyntaf lle mae’r rhagddodiad negyddol an- (sy’n achosi’r treiglad trwynol yn achos <p>, <t>, <c>, <b>, <d> a’r treiglad meddal yn achos <g> ac <m>) yn dod ar ddechrau gair sy’n dechrau â <t> neu <d>:
annheilwng < teilwng, annisgwyl <disgwyl, a.y.b.
Eithriadau: lle dilynir <t> neu <d> gan gytsain neu lle mae’r gair yn dechrau â llafariad neu <h>:
anhrefn < trefn, anhrwsiadus < trwsiadus, anofnus < ofnus, anhapus < hapus, a.y.b.
DYBLU <r>
Mae <r> yn cael ei dyblu yn y goben ar ôl llafariad fer:
fferru, torri, tyrru, a.y.b.
Eithriadau: pori (lle mae’r gytsain yn dal yn hir mewn rhai tafodieithoedd)
Ond, pan fydd yr acen yn symud o ganlyniad i ychwanegu sillaf, fel, er enghraifft, terfyniad berfol, fe gollir un o’r llythrennau dwbl:
ennill (ènnill) + -ais = enillais (eníllais)
cyrraedd (cỳrraedd) + -iadau = cyraeddiadau (cyraeddiádau)
Llyfryddiaeth
- Brake, Ph. (1998) Cymraeg Graenus, Gwasg Gomer.
- Thomas, P.W (1996) Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.




No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.