Credaf fod Gramadeg y Gymraeg yn gyfeirlyfr heb ei ail i unrhyw un sy’n ymddiddori yng ngramadeg y Gymraeg. rwy’n ei ddefnyddio fel cyfeirlyfr yn gyson. Ond rhaid imi gyfaddef nad wyf erioed wedi pori trwyddo fel yr wy’n hoffi ei wneud gyda llyfrau gramadeg eraill. Un rheswm am hynny yw’r termau gramadegol idiosyncratig a ddefnyddir yn y gyfrol. Gan fod rhai ohonynt wedi eu mabwysiadu gan ychydig o ramadegwyr eraill, Credaf ei bod hi’n heb bryd cymharu’r gwahanol dermau gramadegol a geir yn y Gymraeg erbyn hyn. Penderfynais wneud hyn trwy ganolbwyntio ar Adran 3 o Gramadeg y Gymraeg, sef ‘Yr Ymadrodd Berfol’.
1. Moddau Gramadegol: Gwadu Bodolaeth y Modd Gorchmynnol
Yn y Gymraeg, fel mewn llawer o ieithoedd eraill, cydnabyddir bod yna dri modd:
- Y modd mynegol
- Y modd gorchmynnol
- Y modd dibynnol
1. Ffurfiau berfol arbennig yw’r modd mynegol sy’n mynegi gosodiadau ffeithiol neu ynteu osodiadau a drinnir fel gosodiadau ffeithiol: Mae’r môr yn las.
2. Ffurfiau berfol arbennig yw’r modd gorchmynnol sy’n mynegi gorchymyn neu gais: Aros lle rwyt ti!
3. Ffurfiau berfol arbennig yw’r modd dibynnol sy’n mynegi dymuniad, ansicrwydd, posibilrwydd neu afrealiti, e.e. “O na fyddai’n haf o hyd.”
Y Modd Gorchmynnol
“The imperative mood is a grammatical mood that forms a command or
request.” Wikipedia (2022)
Fodd bynnag,
mae Gramadeg y Gymraeg yn ymwrthod â’r cysyniad mai modd o’r iawn ryw yw’r
gorchmynnol:
“Rhan o waddol
disgrifio’r Gymraeg yn nhermau ieithoedd eraill yw’r dosbarthiad traddodiadol,
sydd yn cynnwys y Modd Gorchmynnol. Fodd bynnag, nid Modd ond casgliad o
ffurfiau Mynegol a Dibynnol a ddefnyddir at bwrpas arbennig – sef gorchymyn neu
ddyheu – yw’r berfau hynny.” Thomas (1996) (§ 3.5)
Fodd bynnag,
rwy’n gryf bod yr hyn sydd gennym yn y Gymraeg yn gweddu i’r
diffiniad cydnabyddedig i’r dim; mae’r gorchmynnol yn meddu ar un amser, sef y
presennol, ynghyd â chwe ffurf bersonol ac amhersonol. Cymerer y ferf aros:
Un.
- ----
- aros (di)
- arhosed (ef/hi)
Llu.
- arhoswn (ni)
- arhoswch (chi)
- arhosent (hwy)
Amhers.: arhoser
Yn achos yr 2 bers. un., fel arfer, bôn y ferf yw’r ffurf
orchmynnol. Dim ond yn y modd gorchmynnol y gall bôn y ferf sefyll ar ei
ben ei hunan fel ffurf ferfol gyflawn. Gellid dadlau, o bosib, fod yr arfer o
ychwanegu’r terfyniad personol -a, sy’n gysylltiedig â berfenwau: defnyddia
< defnydd (e.g.), ar gynnydd, ond mae ffurfiau fel Aros! a Saf! yn dal
yn gyffredin iawn yn nhafodieithoedd y De. Ymhellach, nid oes amheuaeth nad
ffurfiau gorchmynnol yn unig yw rhai’r 3. pers. a’r amhersonol.
2. Priflythrennu Termau Ieithyddol
Yn Gramadeg y Gymraeg, Mae enwau’r moddau yn dechrau â phriflythyren: “y Modd Mynegol” Thomas (1996) (§ 3.3). Nid wyf yn sicr pam y gwneir hyn oherwydd mai peidio â dechrau termau ieithyddol â phriflythyrennau yw’r norm:
“There are three moods [in Breton]: indicative, conditional
and imperative. Aspect is based on the perfect/imperfect distinction, the
latter comprising a progressive and a habitual.” Ball (1993) (t. 373)
“I’r modd dibynnol ceir pedwar amser : yr amser presennol,
yr amser amherffaith, yr amser gorffennol a’r amser gorberffaith.” Thorne
(1996) (t. 230)
3.
Terminoleg y Gystrawen Gwmpasog
Dros y blynyddoedd, datblygwyd termau pwrpasol i ddisgrifio’r amserau a’r agweddau a geir yn y Gymraeg. Yn y bôn, mae dwy sustem ferfol yn y Gymraeg:
(i) yr amserau syml a chanddynt ffurfiau personol ffurfdroadol:
·
Presennol/dyfodol: cerddaf, a.y.b.
·
Gorffennol: cerddais
·
Gorberffaith: cerddaswn
(ii) y sustem gwmpasog (“periphrastic”):
|
Amser |
Agwedd |
Enghraifft |
|
Presennol |
Amherffaith |
Mae Emyr yn
ysgrifennu. |
|
Perffaith |
Mae Elen wedi
ysgrifennu. |
|
|
Gorffennol |
Amherffaith |
Roedd Emyr yn
ysgrifennu. |
|
Perffaith |
Roedd Elen wedi
ysgrifennu. |
|
|
Dyfodol |
Amherffaith |
Bydd Emyr yn
ysgrifennu. |
|
Perffaith |
Bydd Elen wedi
ysgrifennu. |
- Presennol perffaith parhaol: Mae Emyr wedi bod yn ysgrifennu.
- Gorffennol perffaith parhaol: Roedd Elen wedi bod yn ysgrifennu.
- Dyfodol perffaith parhaol: Bydd Siôn wedi bod yn ysgrifennu.
Ond, am ryw reswm, yn Gramadeg y Gymraeg, bathir termau gwahanol i ddisgrifio’r sustem gwmpasog:
|
Gramadeg
y Gymraeg |
Term
traddodiadol |
Enghraifft |
|
Y Presennol Parhaol |
Y presennol amherffaith |
Yr wyf yn clywed. |
|
Y Presennol Gorffenedig |
Y presennol perffaith |
Yr wyf wedi clywed. |
|
Y Presennol Parhaol Gorffenedig |
Y presennol perffaith
parhaol |
Yr wyf wedi bod yn
cerdded. |
|
Y Dyfodol Parhaol |
Y dyfodol amherffaith |
Byddaf yn gobeithio. |
|
Y Dyfodol
Gorffenedig |
Y dyfodol perffaith |
Byddaf wedi meddwi. |
|
Y Dyfodol Parhaol Gorffenedig |
Y dyfodol perffaith
parhaol |
Byddaf wedi bod yn
cystadlu. |
|
Y Gorffennol Penodol |
Y gorffennol ‘bod’
(preterite) |
Bûm yn hwylio. |
|
Yr Amherffaith |
Y gorffennol amherffaith |
Braf oedd cael
ymlacio. |
|
Y Gorffennol Parhaol |
Y gorffennol amherffaith |
Yr oeddwn yn
gobeithio. |
|
Y Gorffennol Gorffenedig |
Y gorffennol perffaith |
Yr oeddwn wedi
ymlâdd. |
|
Y Gorffennol Parhaol
Gorffenedig |
Y gorffennol perffaith
parhaol |
Yr oeddwn wedi bod
yn tuchan. |
4. Y Modd Dibynnol
Cyn symud ymlaen i drafod sut y trinnir y modd dibynnol yn Gramadeg y Gymraeg, hoffwn dreulio tipyn o amser yn disgrifio’r dibynnol yn y Gymraeg sy’n deillio o’m gwaith ymchwil fy hunan. Mae’r disgrifiad hwn yn seiliedig ar astudiaethau cymharol mewn ieithoedd eraill, ac rwyf wedi gwneud fy ngorau i ddefnyddio termau sy’n gydnabyddedig yn rhyngwladol. Myfi sy’n gyfrifol am fentro i fathu’r termau Cymraeg am ‘possibility’ ac ‘impossibility’!
Yn y Gymraeg, mae ffurfiau berfol sy’n mynegi dymuniad,
ansicrwydd, posibilrwydd neu afrealiti. Maen nhw’n ffurfio modd y gelwir y
dibynnol. Y peth pwysig yw nad oes a wnelont â’n canfyddiad ni o amser llinol fel y gwneir yn y
modd mynegol.
Erbyn hyn, mae modd gwahaniaethu rhwng sut y gweithia’r
modd dibynnol yn yr iaith lafar a’r iaith lenyddol.
Yr Iaith Lafar
Yn yr iaith lafar, gellir disgrifio’r modd dibynnol fel a ganlyn:
- Y dibynnol fformwläig
- Y dibynnol amodol
1) Y dibynnol fformwläig
Dyma olion yr hen ddibynnol presennol, sydd wedi eu ffosileiddio mewn ymadroddion sefydlog. Er enghraifft:
- Da boch chi
- Doed a ddelo.
- Boed hynny fel y bo.
2) Y dibynnol amodol
Gan nad ydys yn delio ag amser llinol yn y modd dibynnol amodol, rhaid meddwl am ffordd arall o’i rannu. Un ffordd yw trwy ddefnyddio’r cysyniad semantaidd o bosibilrwydd:
- Dichonolrwydd (“possibility”)
- Annichonolrwydd (“impossibility”)
a) Dichonolrwydd
Os oes gan rywun ddyhead am fynychu digwyddiad sydd ddim wedi digwydd eto, ac felly mae siawns - ni waeth pa mor fechan - o’i mynychu, yr ydys yn trafod dichonolrwydd:
Gallwn i fynd i’r gêm (heno), petai gen i amser.
Yn yr iaith lafar, mae set o derfyniadau sy’n mynegi
dymuniad, amheuaeth, tybiaeth neu afrealiti:
Un. Llu.
1. -wn (i) -em
(ni)
2. -it (ti) -ech (chi)
3. -ai (ef, hi) -ent (hwy)
b) Annichonolrwydd
Disgrifir 'annichonolrwydd’ naill ai fel:
i) Dychmygu canlyniad sefyllfa yn y gorffennol na fu:
Petawn i wedi astudio, byddwn i wedi
llwyddo yn yr arholiad
neu ynteu’n:
ii) Dyheu am ddigwyddiad sydd eisoes wedi digwydd:
Gallwn i fod wedi mynd i’r gêm
(neithiwr), petai amser gen i.
Yma mae’r digwyddiad a gyfeirir ato, sef y gêm, eisoes
wedi digwydd, ac felly does dim modd o’i fynychu.
Ffurfiau amodol
arbennig
Yn ogystal â therfyniadau dibynnol amodol arbennig, mae gan
y ferf bod hithau ffurfiau amodol arbennig:
Un. Llu.
1. byddwn (i) byddem (ni)
2. byddit (ti) byddech (chi)
3. byddai (ef, hi) byddent (hwy)
Mae gan y dibynnol amodol ffurf arbennig ar y cysylltair
amodol, sef pe(d). Ymhellach, mae ffurfiau berfol arbennig sy’n cynnwys pe;
Un. Llu.
1. petawn (i) petaem (ni)
2. petait (ti) petaech (chi)
3. petai (ef, hi) petaent (hwy)
Yr iaith lenyddol
Yn draddodiadol, rhennir y dibynnol yn dri ‘amser’:
- Y dibynnol presennol
- Y dibynnol amherffaith
- Y dibynnol gorberffaith
a) Y dibynnol presennol
Mae’r ffurfiau hyn yn cyfleu’r syniad bod yr hyn a
ddisgrifir yn digwydd yn gyson neu ynteu ei fod yn dragywydd:
Un
funud fach cyn elo’r haul o’r wybren,
Un
funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w hynt
Cofio gan Waldo Williams
Neu ynteu maen nhw’n cyfeirio at ddymuniad na chyfyngir gan derfynau
amser:
Pan
rodiwyf ddaear Ystrad Fflur
O’m
dolur ymdawelaf.
Ystrad Fflur gan T. Gwyn Jones
Maen nhw hefyd yn gyffredin ar ôl y cysylltair pan:
O,
mae’n braf ar Draeth y Pigyn
Lle mae’r môr yn bwrw’i ewyn.
Pan fo’r awel ar y creigiau,
Pan fo’r haul ar las y
tonnau.
Traeth y Pigyn gan T. llew Jones
b) Y dibynnol amherffaith
Yn achos yr amserau syml, mae’r dibynnol amherffaith yn defnyddio ffurfdroadau’r mynegol amherffaith. Ond mae bod a’r berfau afreolaidd eraill, yn meddu ar ffurfiau dibynnol arbennig:
“….eithr, ebe fe, po bellaf yr elem[1] ni, mwyaf fyddai y perygl a gyfarfyddai â ni: am hyny a droisom, ac yr ydym yn myned yn ol.” Bunyon (1860) (cyfieithiad)
c) Y dibynnol gorberffaith
Mae ffurfiau’r dibynnol gorberffaith yn seiliedig ar rai’r mynegol gorberffaith:
“Gallasai hyn fod yn waeth iddo, oni buasai i
Dduw ddarpar yn amgen, na phe lladdasent ef yn y fan.” Gurnell (1796-1820) (cyfieithiad)
Mae’r tabl isod yn crynhoi’r gwahaniaethau rhwng y modd
dibynnol yn yr iaith lafar a’r iaith lenyddol:
|
Y Modd Dibynnol |
|
|
Yr iaith lafar |
Yr iaith lenyddol |
|
I Dibynnol fformiwläig e.e. Da
boch chi. Doed a ddelo.
II Dibynnol amodol a) Dichonolrwydd i) ‘gallu’, ‘hoffi’, ‘dylai’ e.e. Gallwn
i fynd...
ii) ‘bod’ + yn + berfenw e.e. Byddwn
i’n poeni...
b) Annichonolrwydd i) ‘gallu’, ‘hoffi’, ‘dylai’ e.e. Gallwn
i fod wedi mynd...
ii) ‘bod’ + wedi + berfenw e.e. Byddwn
i wedi poeni...
|
I Dibynnol presennol Un. Llu. 1. -wyf -om 2. -ych -och 3. -o -ont
II Dibynnol amherffaith Un. Llu. 1. -wn -em 2. -it -ech 3. -ai -ent
III Dibynnol gorberffaith Un. Llu. 1. -aswn -asem 2. -asit -asech 3. -asai -asent
|
Y Modd Dibynnol yn Gramadeg y
Gymraeg
Yn Gramadeg y Gymraeg, dywedir:
“Cyfeirio at y ffordd yr ydys yn cysynied am gyflawni
cyflwr neu weithred y ferf y mae Modd….os at bosibilrwydd, tybiaeth neu
ddymuniad y cyfeirir, sef cysyniadau na ellir eu lleoli mewn amser pendant,
gellir defnyddio’r Modd Dibynnol.” Thomas (1996) (§ 3.4)
Ceir hefyd y dosbarthiad bras hwn:
|
MODD |
ADEG CYFLAWNI’R WEITHRED |
ENGHRAIFFT |
|
Dibynnol |
Rhywbeth amhendant
yn y dyfodol |
(Taler i…) neu a
enwo |
|
|
Rhywbeth amhendant
yn y gorffennol |
Pe baet ti wedi dod… |
Thomas (1996)
(§ 3.33)
Er hynny, eir ymlaen i sôn am “amserau Dibynnol”:
“Dim ond gan y saith berf afreolaidd y mae Amserau y gellir
eu hystyried yn Amhenodol Dibynnol….” Thomas (§ 3.43)
Fel yn achos y modd mynegol, mae’r derminoleg a ddewisir i
ddisgrifio’r modd dibynnol yn anghonfensiynol. Dengys y siart isod yn y derminoleg wahanol:
|
Gramadeg
y Gymraeg |
Y
term traddodiadol |
Y
term confensiynol |
Enghraifft |
|
Y Dyfodol Dibynnol |
Y dibynnol presennol |
Y dibynnol fformwläig |
talwyf |
|
Yr Amhenodol
Dibynnol |
dibynnol amherfaith |
Y dibynnol amodol |
elwn |
Cymaint yw’r parch a ddangosir at Gramadeg y Gymraeg, mae termau ‘Amhenodol’ (sic) a ‘Dibynnol Dyfodol’ (sic) wedi ei fabwysiadu gan awduron eraill. Er enghraifft, mae Y Gweiadur (ffig. 1) yn defnyddio’r termau hyn:
“geiriadur Cymraeg-Saesneg/Saesneg-Cymraeg
ar-lein yn cynnwys diffiniadau ac ynganiadau yn rhan o gasgliad o adnoddau
aml-gyfrwng ar gyfer defnyddwyr y Gymraeg o bob oedran a gallu.” Y Gweiadur (2022)
Ffig 1. Ciplun o wefan Y Gweiadur
Cyfeiriadau
- Ball, M.J. a Fife, J. (gol.) (1993) The Celtic Languages, Routledge.
- Bunyon J. (1860) Taith y pererin; neu Ymdaith y gwir Gristion, Gwasg Gee.
- Gurnell T. (1796-1820) Y Cristion mewn cyflawn arfogaeth, neu, Draethawd am ryfel y saint yn erbyn y diafol.
- Jones T.Ll. (2015) Y Fro Eithinog: casgliad o gerddi T. Llew Jones, Gwasg Gomer.
- Llwyd, A. (2014) Waldo Williams : cerddi 1922-1970, Gwasg Gomer.
- Locock, M. (2014) Poetry from Strata Florida, Gwasg Carreg Ffylfan.
- Thomas, P.W (1996) Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
- Thorne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer.
- Wikipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/Imperative_mood, cyrchwyd 05/09/2022.
- Wikipedia (2025) Imperative, Wikipedia, ar gael o: https://en.wikipedia.org/wiki/Imperative, (Cyrchwyd 19/04/2026).
====
[1] Sylwer bod ffurfiau arbennig i’r berfau afreolaidd sy’n seiliedig ar mynd yn yr ‘amser’ hwn.


No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.