Thursday, 8 September 2022

Y Wenhwyseg

Y Wenhwyseg yw’r enw ar dafodieithoedd Cymraeg De-ddwyrain Cymru. Mae ffiniau’r Wenhwyseg fel petaent yn cyfateb i Faes Glo De Cymru (Ffig. 1); o Afon Llwyd yn y dwyrain i Gwm Gwendraeth yn y gorllewin[1]. Ond, yn hanesyddol, siaredid y Wenhwyseg hefyd ym Mro Morgannwg a De Sir Fynwy.

Ffig. 1 Maes Glo De Cymru

Dengys ffig. 2 ardal y rhaniadau bras o fewn i ardal y Wenhwyseg.

Ffig. 2 Ardal dybiedig y Wenhwyseg

Gellir synied am diriogaeth y Wenhwyseg fel ardal o drawsnewid ieithyddol. Ond mae rhai nodweddion seinyddol sy’n gyffredin i’r ardal gyfan - i raddau mwy neu lai:

  1. <e> hir> ac <o> hir yng ngoben geiriau lluosill, e.e. menyn [ˈmenɪn], gofyn [ˈgovɪn];
  2. terfyniad 3. un. y gorff. syml ‑ws [-ʊs] yn lle -odd
  3. Calediad Morgannwg (CM) ("provection"), sef <b, d, g> > <p, t, c> rhwng y goben a’r sillaf olaf, e.e. dicwdd (digwydd) [ˈdɪkʊð], doti (dodi) [ˈdoti], eclws (eglwys) [ˈɛklʊs]
  4. Colli <h> mewn geiriau fel haf [ɛːv]/[aːv] a chwarae [ˈwaːrä], ynghyd ag <r> /r/ yn lle <rh> /r̥/ mewn geiriau fel rheol [ˈre.ɔl].

1. <e> hir  ac <o> hir yng ngoben geiriau lluosill

Mae'r nodwedd hon yn digwydd yn gyson ledled ardal y Wenhwyseg.

2. [-ʊs] yn lle [-oð] fel terfyniad 3 pers. gorff. y ferf syml

Mae terfyniad 3. un. y gorff. syml ‑ws  [-ʊs] yn mynd y llai cyffredin wrth symud o’r dwyrain i’r gorllewin. Wrth gyrraedd De-ddwyrain Sir Gâr, yn anaml iawn y clywir ‑ws, os o gwbl.

3. Calediad Morgannwg

Mae Calediad Morgannwg (provection) hefyd yn mynd y llai a llai cyffredin wrth symud o’r dwyrain i’r gorllewin. Ymddengys taw Blaenau Morgannwg, yn enwedig rhannau uchaf Cwm Cynon, yw’r ardal lle mae CM ar ei gryfaf. Ond mae hefyd yn bosib i’r ymchwilwyr, a fu'n gweithio yn yr ardal honno - efallai yn isymwybodol - wneud ymdrech arbennig i gasglu eitemau geiregol oedd yn arddangos y nodwedd hon! (Er gwybodaeth, nodwyd cyfflocied 'woodcook' (un. cyffylog), nid cyflogied, gen i yng Ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yn saithdegau.

4. Colli <h>

Fel yn achos [-ʊs] a CM, mae colli <h> yn tueddu i fynd yn llai wrth symud o’r dwyrain i’r gorllewin. Ond mae’n dal i ddigwydd yn nhafodieithoedd Gogledd‑orllewin Sir Gaerfyrddin a draw dros Afon Teifi yng Ngheredigion.

Er gwybodaeth, defnyddir <h> i ddynodi pwyslais yn nhafodieithoedd Cymraeg y De‑ddwyrain, e.e. Roedd e’n ddicon i ala haeth [ofn mawr] arno i. [oːð än ˈðɪkɔn iː älä hɛːθ ärno i]), ac mae hefyd yn nodwedd sydd wedi ei throsglwyddo i'r Saesneg a siaredir yn yr ardal, e.e. She’s my hauntie she is! [ʃiːz məɪ ˈhanti ʃiː ɪz].

Mae dwy nodwedd a gyfyngir i ddwyrain ardal y Wenhwyseg, ac, ymhlith tafodieithoedd Cymraeg De Cymru, a ystyrir yn unigryw i'r dafodiaith hon:

1. [ɛː] yn lle /aː/ mewn sillafau acennog.

2. <a> yn sillaf olaf ddiacen geiriau lluosill.

1. [ɛː] 

Mae’r rhan ddwyreiniol ardal y Wenhwyseg yn enwog am y sain flaen hanner agored hir [ɛː] yn lle’r sain flaen agored hir /aː/ mewn geiriau unsill fel cath [kɛːθ], haf [ɛːv] a tad [tɛːd] ac yn sillaf olaf acennog geiriau lluosill fel gwahân [gwä.ˈɛːn] a Cymraeg [kʊmˈrɛːɡ]. O’r astudiaethau a wnaed yn y chwedegau a’r saithdegau, ymddengys mai ym Mro Morgannwg, ac yn rhan isaf Cymoedd Dwyrain Morgannwg, y mae’r nodwedd hon ar ei chryfaf. Mae Blaenau’r Cymoedd yn ardal lle ceir amrywio rhydd rhwng [ɛː]  ac /aː/. Ymddengys mai Cwm Nedd yw ffin orllewinol y nodwedd hon.

2. <a> yn sillaf olaf ddiacen geiriau lluosill

Yn y Wenhwyseg, clywir <a> /ayn sillaf olaf ddiacen geiriau lluosill lle y disgwylid y deuseiniaid <ae, ai, au> yn yr iaith safonol: gwaniath [ˈgwänjäθ] < gwahaniaeth, ciffila [kɪfˈɪlä] < ceffylau.

/ Y sain ganolig gaeedig

Yn Nhir Iarll, sydd yn cyfateb yn fras ir ardal o gwmpas Maesteg, i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr, cofnodwyd enghreifftiau o’r sain ganolig gaeedig [ɨː] fel yn nhafodieithoedd Gogledd Cymru. Ond nid ffonem yw hi, ac mae mewn amrywiaeth rydd â'r sain flaen gaeedig /i/. (Cofnodwyd y nodwedd hon fel gan un siaradwr mewn astudiaeth o dafodiaith Plwyf Pencarreg, Gogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin, yn ôl yn y saithdegau.)

Sosio-ieithyddiaeth

Wrth drafod yr iaith lafar, mae ffactorau allieithyddol i'w hystyried. Er enghraifft, dangoswyd bod cydberthynas rhwng y defnydd o’r nodweddion a ddisgrifir uchod a chyd-destunau cymdeithasol. Er enghraifft, po fwyaf ffurfiol yw’r sefyllfa y lleiaf yw’r defnydd o’r nodweddion tafodieithol hyn.

Geirfa

Dim ond rhai nodweddion ieithyddol y cyffyrddir â nhw yma. Ond rhan bwysig iawn o unrhyw astudiaeth dafodieithol yw geirfa. Mae rhai geiriau yn nodweddiadol o’r Wenhwyseg fel wilia [ˈwɪljä] (“siarad”), tsha thre [tʃa‿ˈθre] (“adre”), dishgwl [ˈdɪʃɡʊl] (“edrych”), erfyn [ˈɛrvɪn] (“disgwyl”), cwpla [ˈkʊplä] (“gorffen”), glowty [ˈɡləʊti] (“beudy”), galanastra [ɡalanˈasträ] (“llanastr”), garitsh [ˈɡaːrɪtʃ] (“moron”), a.y.b. Ond, unwaith eto, mae’r defnydd ohonynt yn dibynnu ar ffactorau daearyddol a chymdeithasol.

DARLLEN PELLACH

Os oes gennych ddiddordeb yn y Wenhwyseg, dyma restr o ffynonellau defnyddiol dros ben:

CYHOEDDIADAU

  • Griffith, J. (1902) Y Wenhwyseg – A Key to the Phonology of the Gwentian Dialect, ar gael o: https://tinyurl.com/2t34av9w [Cyrchwyd 24 Medi 2020].
  • Jones, T. (1911) Tafodieithoedd Morgannwg, ar gael o: https://tinyurl.com/2vexcvbe [Cyrchwyd 24 Medi 2020].
  • Lewis, R. (2008), Wenglish – The Dialect of the South Wales Valleys, Y Lolfa: Tal-y-bont, Ceredigion.
  • Thomas, C.H. (1964-5) ‘Rhai nodweddion ffonolegol tafodiaith Nantgarw’, Bwletin Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd (XXX1), tt. 18-26.
  • Thomas, C.H. (1973) ‘The verbal system and the responsive in a Welsh dialect of south-east Glamorgan’, Studiad Celtica (X111/1X),  tt. 383-7.
  • Thomas, C.H. (1975-6) ‘Some phonological features of dialects in south-east Wales,’ Studia Celtica (X/X1), tt. 345-6.
  • Wiliam, M. (1990) Blas ar Iaith Blaenau’r Cymoedd, Gwasg Carreg Gwalch: Llanrwst.

GWEITHIAU ACADEMAIDD

  • Bevan, J. (1970), Astudiaeth Seinyddol o Gymraeg Coety Walia a Rhuthun ym Mro Morgannwg, Traethawd M.A. Prifysgol Cymru, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Brake, P. (2011), ‘Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau’, yn Gwerddon (7): https://tinyurl.com/wpn76rus
  • Davies, L. (1968) Astudiaeth Seinyddol gan Gynnwys Geirfa o Dafodiaith Merthyr Tudful a’r Cylch, Traethawd M.A. Prifysgol Cymru, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Middleton, M. (1965) Astudiaeth Seinyddol gan Gynnwys Geirfa o Gymraeg Llafar Tafarnau Bach, Sir Fynwy, Traethawd M.A. Prifysgol Cymru, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Rees, E.C. (1958) Tafodiaith Rhan Isaf Dyffryn Llwchwr, Traethawd M.A. Prifysgol Cymru, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Ruddock, G.E. (1968) Astudiaeth Seinyddol o Dafodiaith Hirwaun ynghyd â Geirfa, Traethawd M.A. Prifysgol Cymru, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Samuel, O.M. (1970) Astudiaeth o Dafodiaith Cylch y Rhigos, Traethawd M.A. Prifysgol Cymru, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Thorne, D. (1977) Astudiaeth Gymharol o Ffonoleg a Gramadeg Iaith Lafar y Maenorau oddi mewn i Gwmwd Carnwyllion, Traethawd Ph.D. Prifysgol Cymru, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

AMGUEDDFA WERIN CYMRU, SAIN FFAGAN

  • Mae casgliad cynhwysfawr gan Amgueddfa Werin Cymru o dafodiaith Bro Morgannwg wedi ei recordio gan Vincent Phillips yn y chwedegau: https://tinyurl.com/y5frpbfv.

FFYNONELLAU ERAILL


[1] Yn ddaearegol, mae Maes Glo De Cymru’n disgyn o dan Bae Caerfyrddin ac yn ymddangos unwaith eto yn ne Sir Benfro.

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.