Sunday, 11 September 2022

Modd, agwedd ac amser

Wrth drafod system ferfol ieithoedd, cydnabyddir pwysigrwydd y tri chysyniad canlynol:

  1. Modd (mood)
  2. Agwedd (aspect)
  3. Amser (tense)

1. MODD

Mae modd gramadegol (“grammatical mood”) yn ymwneud â sut y mae brawddeg yn cael ei llunio i adlewyrchu’r hyn sy’n cael ei gyfleu o ran agwedd neu fwriad. Gellir gwneud hyn naill ai trwy’r defnydd o ffurfdroadau berfol neu ynteu drwy fynegiant cystrawennol o foddolrwydd (modality).

Yn y Gymraeg, cydnabyddir fod yna dri modd:

i) Y mynegol (“the indicative”)
ii) Y dibynnol (“the subjunctive”)
iii) Y gorchmynnol (“the imperative”)

1. Y modd mynegol sy’n mynegi gosodiadau ffeithiol neu ynteu rai a drinnir fel gosodiadau ffeithiol, e.e. “Mae’r môr yn las.”

2. Y modd gorchmynnol sy’n mynegi gorchymyn neu gais, e.e. “Aros lle rwyt ti!”

3. Y modd dibynnol sy’n mynegi dymuniad, ansicrwydd, posibilrwydd neu afrealiti, e.e. “O na fyddai’n haf o hyd.”

==============================================

i) Y MODD MYNEGOL 

Defnyddir y modd mynegol i fynegi gosodiadau ffeithiol neu ynteur hyn a ystyrir eu bod yn osodiadau ffeithiol:

  • Rwyn ysgrifennu am y Gymraeg.
  • Roedd y tywydd yn ofnadwy neithiwr.

Rhennir y mynegol yn amserau ac agweddau. Mewn Cymraeg llafar cyfoes, mae berfaun meddu ar ddau amser syml:

  1. Dyfodol, e.e. cysgaf
  2. Gorffennol, e.e. cysgais

Ffurfir yr amser presennol trwy gyfuno ffurfiau personol bod â berfenw, e.e. Mae Dafydd yn cysgu.

ii) Y MODD DIBYNNOL 

Defnyddir y modd dibynnol i fynegi dymuniad, ansicrwydd, posibilrwydd, afrealiti, barn, rhwymedigaeth neu weithred nad yw wedi digwydd eto. Mewn Cymraeg llafar cyfoes, ceir dau fath o ddibynnol:

a) Y dibynnol fformiwläig

b) Y dibynnol amodol

a) Y Dibynnol Fformwläig

Y dibynnol fformwläig yw’r hyn sy’n weddill o’r hen ddibynnol ‘presennol’. Fe’i ceir mewn ymadroddion hynafol ffosiledig sy’n cyfateb, yn aml, i ymadroddion cyfatebol yn y Saesneg:

  • Da boch chi! (“Goodbye!”)
  • Doed a ddelo. (“Come what may.”)
  • Boed hynny fel y bo. (“Be that as it may.”)
  • Dyn a’n helpo! (“Heaven help us!”)

Maen nhw hefyd yn digwydd mewn diarhebion a gwirebau:

  • Cartref yw cartref ble bynnag y bo.
  • Po fwyaf y bydd dyn byw, mwyaf a wêl a mwyaf a glyw.

b) Y Dibynnol Amodol

Rwyn hoffi dosbarthur dibynnol amodol yn ddau, yn dibynnu ar y posibiliad or hyn a ddymunir yn digwydd:

1 Dichonolrwydd (possibility)

Mewn Cymraeg llafar cyfoes, mae yna set o derfyniadau sy’n mynegi dymuniad, amheuaeth, tybiaeth neu afrealiti; pethau sy’n cael eu mynegi yn y Saesneg gan ‘would’ a ‘were’:

      Un.

  1. -wn i
  2. -et ti
  3. -ai fe/hi

      Llu.

  1. -en ni
  2. -ech chi
  3. -en nw

Dywedir fod brawddeg fel:

         Gallwn i fynd i’r gêm (heno), pe byddai amser gyda fi.

yn mynegi dichonolrwydd, gan nad yw’r digwyddiad y cyfeirir ato, sef y ‘gêm’ wedi digwydd eto, ac felly, mae dal siawns o’i mynychu.

2 Annichonolrwydd (impossibility)

Mae brawddeg fel:

Gallwn i fod wedi mynd i’r gêm (neithiwr), pe byddai amser gyda fi.

yn mynegi annichonolrwydd oherwydd fod y digwyddiad y cyfeirir ato, sef y gêm, wedi digwydd, ac felly, does dim gobaith ei mynychu.

Yr Iaith Lenyddol

Gellir dadlau fod yr iaith lenyddol yn meddu ar system ddibynnol wahanol i’r hyn a geir yn yr iaith lafar; mae’r hyn a elwir y dibynnol fformwläig yn yr iaith lafar yn meddu ar dri ‘amser’, ynghyd â pharadeimiau cyflawn, yn yr iaith lenyddol:

  1. Y dibynnol presennol
  2. Y dibynnol amherffaith
  3. Y dibynnol gorberffaith

1. Y dibynnol presennol

Mae’r ffurfiau hyn yn mynegi digwyddiad rhagweledig yn y dyfodol:

            Un funud fach cyn elo’r haul o’r wybren,

            Un funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w hynt

                        Cofio gan Waldo Williams

neu at weithred neu gyflwr damcaniaethol:

            Pan rodiwyf  ddaear Ystrad Fflur

            O’m dolur ymdawelaf.

                        Ystrad Fflur gan T. Gwyn Jones

Maen nhw hefyd yn gyffredin ar ôl y cysylltair pan:

           O, mae’n braf ar Draeth y Pigyn

Lle mae’r môr yn bwrw’i ewyn.

Pan fo’r awel ar y creigiau,

Pan fo’r haul ar las y tonnau.

            Traeth y Pigyn gan T. llew Jones

2. Y dibynnol amherffaith

Yn achos yr amserau syml, maer dibynnol amherffaith yn defnyddio ffurfdroadaur mynegol amherffaith. Ond mae bod ar berfau afreolaidd eraill, yn meddu ar ffurfiau dibynnol arbennig:

“….eithr, ebe fe, po bellaf yr elem* ni, mwyaf fyddai y perygl a gyfarfyddai â ni: am hyny a droisom, ac yr ydym yn myned yn ol.” Bunyon (1860) (cyfieithiad)

Sylwer fod ffurfiau arbennig i’r berfau afreolaidd sy’n seiliedig ar 'mynd' yn yr ‘amser’ hwn.

3. Y dibynnol gorberffaith

Mae ffurfiau’r dibynnol gorberffaith yn seiliedig ar rai’r mynegol gorberffaith:

Gallasai hyn fod yn waeth iddo, oni buasai i Dduw ddarpar yn amgen, na phe lladdasent ef yn y fan.” Gurnell (1796-1820) (cyfieithiad)

Mae’r tabl isod yn crynhoi’r gwahaniaethau rhwng y modd dibynnol yn yr iaith lafar a’r iaith lenyddol:

Y MODD DIBYNNOL

YR IAITH LAFAR

YR IAITH LENYDDOL

 

I  Dibynnol fformiwläig

    e.e.  Da boch chi.

            Doed a ddelo.

 

II  Dibynnol amodol

a)  Dichonolrwydd

i)   ‘gallu’, ‘hoffi’, ‘dylai’

      e.e.      Gallwn i fynd...

 

ii)  ‘bod’ + yn + berfenw

      e.e.  Byddwn i’n poeni...

 

b)  Annichonolrwydd

i)   ‘gallu’, ‘hoffi’, ‘dylai’

      e.e.  Gallwn i fod wedi mynd...

 

ii)  ‘bod’ + wedi + berfenw

      e.e.  Byddwn i wedi poeni...

 

 

I     Dibynnol presennol

      Un.                  Llu.

      1.   -wyf          -om

      2.   -ych          -och

      3.   -o              -ont

 

II   Dibynnol amherffaith

            Un.            Llu.

      1.   -wn           -em

      2.   -it              -ech

      3.   -ai             -ent

 

III  Dibynnol gorberffaith

            Un.              Llu.

      1.   -aswn          -asem

      2.   -asit             -asech

      3.   -asai             -asent

 


3. Y MODD GORCHMYNNOL 

Defnyddir y modd gorchmynnol i fynegi gorchmynion, cyfarwyddiadau neu geisiadau. Mewn Cymraeg llafar cyfoes, rhennir y gorchmynnol yn bedwar person:

Un

2. Cwsg       

3. Cysged

Llu.

1. Cysgwn

2. Cysgwch

Ni chlywir ffurf y 3 pers. un. yn aml iawn yn yr iaith lafar erbyn hyn. 

Yn yr iaith lenyddol, yn ogystal âr pedair ffurf bersonol uchod, ceir yn ogystal: (i) 3 pers. llu., e.e. cysgent, a (ii) ffurf amhersonol, e.e. cysger.

==============================================

2. AMSER

Categori ieithyddol yw amser gramadegol sy’n mynegi cyfeiriad at amser. Fe’i hamlygir drwy ffurfiau arbennig o ferfau, yn enwedig patrymau rhedadwy, ac felly, fe’i cyfyngir i’r modd mynegol.

==============================================

2. AGWEDD

Categori gramadegol yw agwedd sy’n helpu i gyfleu gwybodaeth am nodweddion amseryddol gweithred. I fynegi agwedd, mae’r Gymraeg yn defnyddio’r gystrawen gwmpasog sy’n seiliedig ar ‘bod’. Gellir rhannu’r rhain fel a ganlyn:

AMSER

AGWEDD

CYMRAEG

SAESNEG

Presennol

Amherffaith

dw i’n dysgu

I am learning

Perffaith

dw i wedi dysgu

I have learnt

Gorffennol

Amherffaith

roeddwn i’n dysgu

I was learning

Perffaith

roeddwn i wedi dysgu

I had learnt

Dyfodol

Amherffaith

bydda i’n dysgu

I will be learning

Perffaith

bydda i wedi dysgu

I will have learnt


1. Y MODD MYNEGOL 

Llyfrydddiaeth

  • Brake, Ph. (1998) Cymraeg Graenus, Gwasg Gomer.
  • Brake, Ph., Brake J. (2020) Welsh in 12 Weeks, Gwasg Carreg Gwalch.
  • Morris Jones, Bob (1993) Ar Lafar ac ar Bapur, Y Canolfan Astudiaethau Addysg, Y Gyfadran Addysg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
  • Lewis, D.G. (1995) Y Llyfr Berfau, Gwasg Gomer.
  • Lewis, D.G., Lewis, N.  (2022) Y Gweiadur - y Geiriadur Cymraeg-Saesneg, ar gael: https://www.gweiadur.com/geiriadur-cymraeg (Cyrchwyd 01/10/2022).
  • Morgan, T.J, (1952) Y Treigladau a’u Cystrawen, Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Thomas, P.W (1996) Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
  • Thorne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer.
  • Quirk, R., Greenbaum, S., Leech, G. a Svartvik, J. (1972) A Grammar of Contemporary English, Longman, Llundain.
  • Quirk, R., Greenbaum, S., Leech, G. a Svartvik, J. (1985) A Comprehensive Grammar of the English Language, Longman, Llundain.
  • Richards, M. (1970) Cystrawen y Frawddeg Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
  • Williams, S. J. (1980) Elfennau Gramadeg Cymraeg. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.