Beth yw llafariad?
Sain leisiol yw llafariad sy’n cael ei chynhyrchu heb gyfyngu ar lif y llafar. Yn y Gymraeg, mae saith llafariad: <a>, <e>, <i>, <o>, <u>, <w>, <y>. Mae ansawdd llafariad yn dibynnu ar safle’r tafod yn y geg ynghyd â safle’r gwefusau.
Marc diacritig yw acen sy’n dynodi newid yn ansawdd neu brosodi'r llafariad y bo ymddangos drosti hi.
Mae yna bedair
acen yn Gymraeg sy’n dylanwadu ar ansawdd y llafariaid sy’n gysylltiedig â nhw:
1. Yr acen ddyrchafedig (´) sy’n digwydd uwchben <a>
2. Yr acen ddisgynedig (`), sy’n digwydd uwchben <i> ac <o>
3. Gall yr acen grom (^) ddigwydd uwchben unrhyw lafariad, i ddangos ei bod hi’n hir.
4. Y didolnod (¨) a ddefnyddir i ddangos fod llafariaid drws nesaf i’w gilydd yn cael ei hynganu ar wahân.
1. Acen ddyrchafedig
Mae’r acen ddyrchafedig (´) nodi’r acen bwys heb newid ansawdd y llafariad ei hunan. Am wn i, dim ond gydag <a> mae’n cael ei defnyddio:
amgáu, casáu, tristáu,
Pwynt i’w gofio
Os daw <h> brosodig o flaen y sillaf acennog, does dim angen acen ddyrchafedig:
glanhau, parhau, parhad, sarhau, sarhad
2. Acen ddisgynedig
Defnyddir yr acen ddisgynedig (`) i wahaniaethu rhwng ansawdd llafariaid. Yn achos y gair benthyg sgìl, defnyddir yr acen ddisgynedig i ddangos fod y llafariad yn fyr, cf. clos (buarth) a clòs (close [tywydd]).
3. Acen grom (to bach)
Gall llafariad Gymraeg fod yn hir neu’n fyr. Mae’r llafariad yn hir mewn geiriau unsill sy’n gorffen â:
b, ch, d, dd, g, f, ff, s, th
Ac, felly, nid oes angen rhoi acen grom arni hi:
pob, coch, rhad, gradd, cig, twf, saff, cas, peth
Pwynt i’w gofio
Mae’r collnod ’ yn cael ei arfer i gynrychioli’r newid <ae> > <â> ac <oe> > <ô> mewn geiriau unsill sy’n digwydd yn rhai o dafodieithoedd y De:
<ae> > <â>
lla’th < llaeth, ma’n < maen, tra’d < traed
<oe> > <ô>
co’d < coed, o’s < oes, po’th < poeth
A dyna’r rheswm dros roi collnod yn yr adferf ma’s, sy’n dod yn wreiddiol o maes.
Mae’r hyd hefyd yn amrywio o flaen <l>, <n> neu <r>. Fel arfer, mae angen acen grom uwchben <a>, <e>, <o> ac <w> pan fyddant yn hir, mewn gair unsill sy’n gorffen ag <l>, <n> neu <r>:
pâr, cân, gên, stên, côr, môr, stôl, tôn, sŵn, tŵr
Ac, fel arfer, mae <i> ac <u> yn hir o flaen y cytseiniaid hyn, ac felly, nid oes angen acen grom i ddynodi hynny:
hir, ffin, hil, llun, (yn) sgil, sur
Eithriadau: prin, swil, bil, pin
Os bydd dwy gytsain yn dilyn y llafariad mewn gair unsill, fel arfer, mae'r llafariad yn fyr:
bant, pert, corff, punt, brwnt
Mae’r llafariad yn hir o flaen -nt (ffurfiol) ac -n nhw (anffurfiol), a rhoir acen grom uwch ei phen i ddangos hynny:
cânt (cân nhw), ânt (ân nhw), gwnânt (gwnân nhw), dônt (dôn nhw)
Yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd yw fod dwy lafariad fer yn cael eu cywasgu, gan roi un llafariad hir:
cânt (cân nhw) < ca- (bôn amser dyfodol y ferf ‘cael’) + -ant (-an nhw) (terfyniad 3 pers. llu. yr amser presennol/dyfodol)
Os bydd gair unsill yn gorffen â llafariad, mae’r llafariad yn hir:
ffa, lle, to, da, si, llu, llw
Ac felly, nid oes angen rhoi acen grom arno.
Eithriad: tŷ
4. Y didolnod
Defnyddir y didolnod ¨ i ddangos fod y llafariad yn cael ei hynganu ar wahân, yn hytrach na ffurfio deusain â’r llafariad drws nesaf iddi hi; nid yw ansawdd y llafariad ddim yn newid:
gwrandäwr, sïon, storïau
Pwynt i'w gofio
Oherwydd nad yw llafariaid dwbl yn ddeuseiniaid yn y Gymraeg, ni ddylid defnyddio'r didolnod mewn geiriau fel:
amgaeedig, deellais, deellaist, deellir
Llyfryddiaeth
- Brake, Ph. (1998) Cymraeg Graenus, Gwasg Gomer.
- Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd (1928) Orgraff yr Iaith Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
- Thorne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.