Mewn Cymraeg llenyddol, gall y dyfodol cryno gyfleu’r presennol:
A dyna’r lle eisteddaf yn magu fy mrawd ieuengaf, Dafydd, mewn siôl.
(Y Lôn Wen gan Kate Roberts)
Eisteddaf = Yr wyf yn eistedd
Penderfynaf ddilyn fy rheswm er bod ofn arnaf. (Y Lôn Wen gan Kate Roberts)
Penderfynaf = Yr wyf yn penderfynu
P’run bynnag, edrychaf ymlaen yn eiddgar iawn at eu weld. (Annwyl D.J. gan Emyr Hywel)
Edrychaf = Yr wyf yn edrych
Presennol/Dyfodol Rheolaidd, e.e. ‘Gweld’
Un.
1. Gwelaf I see/will see
2. Gweli You see/will see
3. Gwêl* He/she/it sees/will see
Llu.
1. Gwelwn We see/will see
2. Gwelwch You see/will see
3. Gwelant They see/will see
* Mae llawer o amrywiaeth yn ffurfiau’r trydydd person.
Dyma rai enghreifftiau
o ddiarhebion, emynau a dywediadau:
Os gwelwch yn
dda. Please (Lit. If you see well)
Adar o’r un lliw hedant ynghyd. Birds
of a feather fly together.
Mi glywaf dyner lais yn galw
arnaf i. I hear a
tender voice calling me…. (emyn)
Amgaeaf amlen â stamp arni. I enclose a
stamped envelope.
e.e.
|
Berfenw |
3 pers. un. |
3 pers. llafar |
Saesneg Llenyddol |
|
gweld |
gwêl |
Mae/Bydd e/hi’n gweld/Gweliff e/hi |
He/she/it sees/will see |
|
dangos |
dengys |
Mae/Bydd e/hi’n dangos/Dangosiff e/hi |
He/she/it shows/will show |
|
sefyll |
saif |
Mae/Bydd e/hi’n sefyll/Safiff e/hi |
He/she/it stands/will stand |
|
aros |
erys |
Mae/Bydd e/hi’n aros/Arhosiff e/hi |
He/she/it waits/will /remain |
|
codi |
cwyd |
Mae/Bydd e/hi’n codi/Codiff e/hi |
He/she/it rises/will rise |
|
dweud |
dywed |
Mae/Bydd e/hi’n dweud/Dwediff e/hi |
He/she/it says/will say |
|
canu |
cân |
Mae/Bydd e/hi’n canu/Caniff e/hi |
He/she/it sings/will sing |
|
credu |
cred |
Mae/Bydd e/hi’n credu |
He/she/it believes |
Dyma ddwy enghraifft o’r defnydd o’r 3 pers. un. mewn diarhebion:
Gwyn y gwêl y
frân ei chyw. Some peoples kids can do no wrong. (lit.The
crow sees her chick white).
Amser a ddengys. Time will tell.
Mae berfau sy’n seiliedig ar enwau neu ansoddeiriau’n ffurfio’r 3 pers. un. trwy ychwanegu <a> at y bôn: golygu < golwg (to mean)
e.e.
Golyga hyn lawer o newidiadau. This means/will mean many changes.
Dyma rai enghreifftiau o’r iaith lenyddol:
|
Cymraeg |
Saesneg |
|
Saif y castell ar fryn yng
nghanol y dref. |
The castle stands on a hill in the
middle of the town. |
|
Cwyd yr haul am bump o’r gloch. |
The sun rises at five o’clock. |
|
Dywed yr heddlu.... |
The police say.... |
|
Cân yr adar mân bob bore. |
The small birds sing every morning |
|
Cred rhai mai celwydd ydyw. |
Some believe it’s a lie. |
Llyfryddiaeth
- Brake, Ph. (1998) Cymraeg Graenus, Gwasg Gomer.
- Thomas, P.W (1996) Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
- Thorne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer.
- Williams, S. J. (1980) Elfennau Gramadeg Cymraeg. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.