Tuesday, 13 September 2022

Y lluosog yn y Gymraeg

Yn y Gymraeg, ffurfir y lluosog o’r unigol mewn pedair prif ffordd:

  1. Newid llafariad
  2. Ychwanegu terfyniad lluosog
  3. Gollwng terfyniad unigol
  4. Cyfnewid terfyniad unigol am un lluosog

1. Newid Llafariad

<a> yn troi’n <ai>                       <a> yn troi’n <ei>

brân                brain                           iâr                   ieir

llygad              llygaid                        car                   ceir

<a> yn troi’n <y>                       <e> yn troi’n <y>

alarch             elyrch                         castell             cestyll

paladr             pelydr                         cyllell              cyllyll

2. Ychwanegu Terfyniad Lluosog

-au

afal, afalau; barn, barnau; cae, caeau; coes, coesau; crefft, crefftau; darn, darnau; ffrog, ffrogiau; poen, poenau

-iau

clust, clustiau; esgid, esgidiau; het, hetiau

-ion

atgof, atgofion; cwyn, cwynion; dyn, dynion; gorwel, gorwelion; porthor, porthorion; ysgol, ysgolion

-on

cysur, cysuron; gofal, gofalon; gweddw, gweddwon; holiadur, holiaduron; nwy, nwyon; si, sïon

-i

llen, llenni, llestr, llestri; proffwyd, proffwydi; siglen, siglenni; llwyn, llwyni; pentref, pentrefi

-ydd

afon, afonydd;  bwyd, bwydydd; diod, diodydd; heol, heolydd

-oedd

ardal, ardaloedd; dinas, dinasoedd; gwisg, gwisgoedd; môr, moroedd; oes, oesoedd

-iaid 

anifail, anifeiliaid; barcut, barcutiaid; estron, estroniaid; gwennol, gwenoliaid

-od

baban, babanod; cath, cathod; corrach, corachod; menyw, menywod; llew, llewod

3. Gollwng Terfyniad Unigol

llygoden, llygod; mochyn, moch; plufyn, pluf; mwyaren, mwyar; ffäen, ffa; pysgodyn, pysgod

4. Cyfnewid Terfyniad Unigol am Derfyniad Lluosog

unigolyn, unigolion; diferyn, diferion; cwningen, cwningod; polyn, polion; twpsyn, twpsod: blodyn, blodau

Llyfryddiaeth

  • Brake, Ph. (1998) Cymraeg Graenus, Gwasg Gomer.
  • Thorne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer.
  • Williams, S. J. (1980) Elfennau Gramadeg Cymraeg. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.

 

No comments:

Post a Comment

Mae croeso ichi adael sylwadau.