Rhifolion
un dyn, tair merch, deuddeg buwch, un milwr ar bymtheg
Sylwer taw enw unigol sy’n dilyn rhifol. Ond mae yna un ffurf luosog sy’n cael ei defnyddio gyda rhifolion, sef blynedd sy’n afreolaidd iawn o ran treiglo yn ogystal.
***PWYSIG***
Enw lluosog yw blynedd yn y bôn, a dyna sy’n esbonio pam nad yw ansoddeiriau yn treiglo ar ei ôl, ac eithrio ar ôl dwy:
y tair blynedd diwethaf, pedair blynedd caled
Ond:
y ddwy flynedd ddiwethaf, dwy flynedd gofiadwy
Yn achos rhifolion cyfansawdd, dylid rhoi’r enw yn syth ar ôl yr elfen gyntaf:
tair merch ar ddegpedwar llyfr ar bymthegdau dudalen ar hugain
Yn yr iaith lenyddol, defnyddir pum, chwe, a can o flaen enw:
pum dyn, chwe merch, can punt, pum afon, chwe awr, can mlynedd
Ar lafar yn Ne Cymru ceir pump, hwech [(h)weːχ] of flaen pob enw:
pump (h)ewl; (h)wech punt; pump bachgen, (h)wech merch
Rhifolion gyda ‘o’
Mae yna ddwy ffordd o rifo pethau yn Gymraeg:
(i) rhifol + enw unigol
(ii) rhifol + ‘o’ + enw lluosog
Yn fras, mae (ii) yn digwydd o dan yr amgylchiadau canlynol:
a) Pan fo’r rhif yn fawr:
mil a phum cant o bobl, mil o leisiau
b) Pan ddefnyddir rhif cyfansawdd:
un ar ddeg o chwaraewyrpedair ar bymtheg o ysgolion
c) Pan fyddir yn synied am y gwrthrychau unigol fel unedau ar wahân:
Mae ganddo bedwar o blant
Oes gennych/gyda chi ddeg o bunnoedd yn lle’r papur decpunt yma?
Roedd yna bump o ddefaid yn y cae
Y defnydd o ein, eich a ill gyda rhifolion
Ceir ein, eich, ill yn aml o flaen y rhifolion canlynol:
un, dau/dwy, tri/tair, pedwar/pedair, pump
e.e.
Aethom/Aethon ni yno ein dau. (We both went there.)Aethant/Aethon ni yno ill tri. (All three of them went there.)Aethoch (chi) yno eich pump. (All five of you went there.)
Drwy gydweddiad, ceir ych [əχ] ar lafar yn lle eich ac ill:
’Fuoch chi’ch dau yn y dre ddoe
’Fuon nhw’ch dau yn y dre ddoe
Trefnolion
Mae’r trefnolion syml yn dod o flaen yr enw:
ail fab, y drydedd bennod, y seithfed ferch
Yn achos trefnolion cyfansawdd, daw’r enw ar ôl yr elfen gyntaf:
yr unfed mis ar ddegy drydedd wraig ar hugainy pumed llyfr ar ddeg ar hugain
Fel arfer, mae cyntaf yn dod ar ôl yr enw:
y dyn cyntaf, y nofel gyntaf, y flwyddyn gyntaf
Ond mae hefyd yn ansoddair yn y radd eithaf, ac felly, fe’i ceir weithiau o flaen yr enw:
cyntaf peth, yn gyntaf dim
Unfed yw’r ffurf a geir mewn ffurfiau cyfansawdd:
yr unfed mis ar ddegyr unfed ferch ar bymthegyr unfed myfyriwr ar ddeg a phedwar ugain
Lle mae’r rhif yn fawr, mae’r trefnolion Cymraeg yn gallu bod yn drwsgl iawn, ac felly, wrth ddynodi rhif emynau a thudalennau, defnyddir y dull degol o rifo:
emyn tri chant chwe deg a dau (362)tudalen wyth deg a naw (89)
Wrth nodi oedran, dylid defnyddio’r ffurfiau benywaidd, e.e.
dwy (flwydd) (oed)tair (blwydd) (oed)pedair (blwydd) (oed)
Llyfryddiaeth
- Brake, Ph. (1998) Cymraeg Graenus, Gwasg Gomer.
- Brake, Ph., Brake J. (2020) Welsh in 12 Weeks, Gwasg Carreg Gwalch.
- Lewis, D.G. (1993) Y Treigliadur, Gwasg Gomer.
- Lewis, D.G., Lewis, N. (2022) Y Gweiadur - y Geiriadur Cymraeg-Saesneg, ar gael: https://www.gweiadur.com/geiriadur-cymraeg (Cyrchwyd 01/10/2022).
- Morgan, T.J, (1952) Y Treigladau a’u Cystrawen, Gwasg Prifysgol Cymru.
- Thomas, P.W (1996) Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
- Thorne, D.A. (1996) Gramadeg Cymraeg, Gwasg Gomer.

No comments:
Post a Comment
Mae croeso ichi adael sylwadau.