Gan fod llawer o amser
gennyf y dyddiau hyn, penderfynais wneud ymdrech arbennig i geisio dysgu Gaeleg
yr Alban. Mae sawl rheswm am wneud hyn:
- Rwy’n ffan mawr iawn o’r grŵp roc Runrig, a hoffwn ddeall geiriau eu caneuon Gaeleg yr Alban.
- Er nad wyf yn esgus bod yn arbenigwr yn y maes, rwy’n hoff iawn o etymoleg, yn enwedig etymoleg gymharol yr ieithoedd Celtaidd.
- Rwy’n deall fod orgraff Gaeleg yr Alban yn fwy cyson na’r Wyddeleg. Rwy’n dioddef o ddyslecsia, ac felly, byddai ceisio dysgu Gwyddeleg ar fy mhen fy hunan bron yn amhosib i mi.
- O Barraigh (Ynys Barra) mae teulu tad fy ngwraig yn dod.
O ran dysgu’r iaith ei
hunan, rwy’n gwneud uned o Gwrs Gaeleg yr Alban ar-lein Duolingo bob dydd ers
blwyddyn, ac rwyf hefyd yn gwneud fy ffordd trwy Scots Gaelic in Twelve
Weeks gan Roibeard Ó Maolalaigh.
Fel tafodieithegydd Cymraeg, rwy’n rhyfeddu at y tebygrwydd rhwng cystrawen y Gymraeg a chystrawen Gaeleg yr Alban, dwy iaith sy’n annealladwy i’w gilydd a heb gysylltiad daearyddol rhyngddynt - llawer mwy na rhwng y Gymraeg a’i chwaer-iaith, y Llydaweg. Er hynny, rwy’n dal i synnu at nifer y geiriau Cymraeg a Gaeleg yr Alban sy’n swnio’n debyg i’w gilydd. Mae sawl rheswm am hyn:
- Er bod y Gymraeg iaith Gelteg P a Gaeleg yr Alban yn iaith Gelteg Q, cydnabyddir eu bod nhw ill dwy’n tarddu o’r iaith gyffredin a elwir yn Broto-Gelteg, a gellir olrhain llawer o’r geiriau tebyg i’r iaith ailgreedig honno, e.e. afon ac abhainn, brawd a bràthair, ci a cù, teulu a teaghlach.
- Daeth llawer o eiriau i’r Gymraeg o’r Lladin yn ystod cyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig, ac mae’n debyg i eiriau Lladin gyrraedd Gaeleg yr Alban drwy’r eglwys yn yr Oesoedd Canol Cynnar, e.e. angel ac aingeal, aur ac òr, caws a càise, eglwys ac eaglais.*
- Gwyddys i Wyddelod ymsefydlu yn Ne-orllewin Cymru ac yng Ngogledd-orllewin Cymru yn syth ar ôl i’r Rhufeiniad ymadael ar ddechrau’r bumed ganrif OG, ac mae’n bosib i rai geiriau o dras Goedeleg gael eu mabwysiadu gan y Gymraeg y pryd hynny, e.e. cnwc < cnocc (hill), byth < bith, cerbyd < carpat (chariot), llwrw < lorg (path).
- Mae’n bosib taw o Hen Norseg y daw ysgaden a sgadan.
- Mae dylanwad y Saesneg ar y ddwy iaith yn gryf iawn, e.e. bwrdd a bùird, stryd a sràid.
- Yn olaf, mae’n bosib taw o’r Bicteg, iaith Frythoneg oedd yn arfer cael ei siarad yng ngogledd-ddwyrain yr Alban, y daw rhai geiriau Gaeleg yr Alban, e.e. obar < aber, beinn < ban.
Dyma restr o’r geiriau tebyg rhwng y Gymraeg a Gaeleg yr Alban yr wyf fi wedi ei pharatoi. Dw i wedi llwyddo i gofnodi 350 ohonynt hyd yn hyn.
Gwefannau
Defnyddiol
Geiriadur Prifysgol Cymru, LearnGaelic–Dictionary, Omniglot–Celtic cognates,



Mae hi’n ddiddorol iawn, Phyl. Tha sin uabhasach inntinneach! Rinn sibh mòran obair agus bha mi toilichte air sgàth ‘s gun urrainn dhomh tuigsinn a’ chuid mhòr dhan Chuimris. Taing mhòr.
ReplyDeleteMòran taing! Tha mi air am faidhle Excel slàn a chuir an àite an fhaidhle PDF. Tha e a' fàs, ach nas slaodaiche a-nis.
Delete